
Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019
Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru i hybu hygyrchedd cyfraith Cymru; i ddarparu ar gyfer dehongli a gweithredu deddfwriaeth Cymru; ac at ddibenion cysylltiedig.
Gan ei fod wedi ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn:
RHAN 1HYGYRCHEDD CYFRAITH CYMRU
1Dyletswydd i gadw hygyrchedd cyfraith Cymru o dan adolygiad
(1)
Rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol gadw hygyrchedd cyfraith Cymru o dan adolygiad.
(2)
Yn y Rhan hon, ystyr “hygyrchedd” cyfraith Cymru yw’r graddau y mae—
(a)
ar gael yn hwylus i aelodau’r cyhoedd yn y Gymraeg a’r Saesneg;
(b)
wedi ei chyhoeddi ar ei ffurf ddiweddaraf yn y ddwy iaith (sy’n dangos a yw deddfiadau mewn grym ac yn corffori unrhyw ddiwygiadau a wneir iddynt);
(c)
wedi ei threfnu’n glir ac yn rhesymegol (o fewn deddfiadau yn ogystal â rhwng deddfiadau);
(d)
yn hawdd ei deall ac yn sicr ei heffaith.
(3)
Yn y Rhan hon, ystyr “cyfraith Cymru” yw—
(a)
F1Deddfau Senedd Cymru a Mesurau’r Cynulliad;
(b)
is-ddeddfwriaeth a wneir o dan F1Ddeddfau Senedd Cymru a Mesurau’r Cynulliad;
(c)
unrhyw is-ddeddfwriaeth arall a wneir gan Weinidogion Cymru neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru a sefydlwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38), i’r graddau y mae’n gymwys o ran Cymru;
2Rhaglen i wella hygyrchedd cyfraith Cymru
(1)
Rhaid i Weinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol lunio rhaglen sy’n nodi’r hyn y maent yn bwriadu ei wneud i wella hygyrchedd cyfraith Cymru.
(2)
Rhaid llunio rhaglen ar gyfer pob un o dymhorau F4Senedd Cymru sy’n dechrau ar ôl i’r adran hon ddod i rym.
(3)
Rhaid i’r rhaglen gynnwys gweithgareddau arfaethedig y bwriedir iddynt—
(a)
cyfrannu at broses barhaus o gydgrynhoi a chodeiddio cyfraith Cymru;
(b)
cynnal ffurf cyfraith Cymru (wedi iddi gael ei chodeiddio);
(c)
hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gyfraith Cymru;
(d)
hwyluso defnydd o’r Gymraeg.
F5(e)
datrys unrhyw amwysedd, a chywiro unrhyw wallau, yng nghyfraith Cymru.
(4)
Caiff y rhaglen hefyd gynnwys gweithgareddau arfaethedig—
(a)
y gellir eu cyflawni drwy gydweithio â Chomisiwn y Gyfraith (yn unol â Deddf Comisiynau’r Gyfraith 1965 (p. 22)), neu
(b)
o unrhyw fath arall y mae Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol yn ystyried ei fod yn briodol.
(5)
Rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol osod copi o’r rhaglen gerbron F6Senedd Cymru o fewn 6 mis i benodi Prif Weinidog ar ôl etholiad cyffredinol a gynhelir o dan Ran 1 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
(6)
Caiff Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol ddiwygio’r rhaglen ar unrhyw adeg, ac os gwnânt hynny rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol osod copi o’r rhaglen ddiwygiedig gerbron F7Senedd Cymru.
(7)
Rhaid F8i Senedd Cymru adrodd yn flynyddol i’r Cynulliad Cenedlaethol ar y cynnydd a wneir o dan y rhaglen.
(8)
Yn is-adran (3), mae codeiddio cyfraith Cymru yn cynnwys—
(a)
mabwysiadu strwythur ar gyfer cyfraith Cymru sy’n gwella ei hygyrchedd;
(b)
trefnu a chyhoeddi cyfraith Cymru sydd wedi ei chydgrynhoi yn ôl y strwythur hwnnw.
RHAN 2DEHONGLI A GWEITHREDU DEDDFWRIAETH CYMRU
Cymhwyso’r Rhan a’i heffaith
3Deddfwriaeth y mae’r Rhan hon yn gymwys iddi
(1)
Mae’r Rhan hon yn gymwys i—
(a)
y Ddeddf hon;
(b)
(c)
is-offerynnau Cymreig a wneir ar F101 Ionawr 2020 neu ar ôl y diwrnod hwnnw.
(2)
Ystyr “is-offeryn Cymreig” yw offeryn (pa un a yw’r offeryn hwnnw yn F11offeryn statudol Cymreig neu’n offeryn statudol ai peidio) nad yw ond yn cynnwys un neu ddau o’r canlynol—
(a)
is-ddeddfwriaeth a wneir o dan F3Ddeddf gan Senedd Cymru neu Fesur Cynulliad, pa un ai gan Weinidogion Cymru neu gan unrhyw berson arall;
(b)
is-ddeddfwriaeth—
(i)
a wneir o dan Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig neu ddeddfwriaeth uniongyrchol F12a gymathwyd,
(ii)
nas gwneir ond gan Weinidogion Cymru neu unrhyw awdurdod Cymreig datganoledig arall (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” gan adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)), a
(iii)
nad yw ond yn gymwys o ran Cymru.
F13(3)
Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at Ddeddf gan Senedd Cymru (oni ddarperir fel arall) yn gyfeiriadau at Ddeddf gan Senedd Cymru y mae’r Rhan hon yn gymwys iddi yn rhinwedd is-adran (1).
(3A)
Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at is-offeryn Cymreig (oni ddarperir fel arall) yn gyfeiriadau at yr is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys mewn is-offeryn Cymreig y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo yn rhinwedd is-adran (1).
F14(4)
Mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â physgota, pysgodfeydd neu iechyd pysgod ac a wneir ar ôl i adran 45 o Ddeddf Pysgodfeydd 2020 (p. 22) ddod i rym, mae'r cyfeiriad yn is-adran (2)(b)(iii) at Gymru yn cynnwys yr ardal o barth Cymru sydd y tu hwnt i derfynau atfor y môr tiriogaethol.
4Effaith darpariaethau’r Rhan hon
(1)
Pan fo’r Rhan hon yn gymwys i F3Ddeddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig, mae’r darpariaethau yn y Rhan hon yn cael effaith mewn perthynas â’r Ddeddf honno neu’r offeryn hwnnw, ac eithrio i’r graddau—
(a)
y mae darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb, neu
(b)
y mae’r cyd-destun yn mynnu fel arall.
(2)
Nid yw’r eithriad yn is-adran (1) yn gymwys i adran 5 (statws cyfartal testunau deddfwriaeth ddwyieithog).
(3)
Nid yw paragraff (b) o’r eithriad hwnnw yn gymwys i—
(a)
adran 10 (cyfeiriadau at amser o’r dydd);
(b)
adran 28 (cymhwyso deddfwriaeth Cymru i’r Goron);
(c)
adran 33 (nid yw diddymiadau na dirymiadau yn adfer cyfraith a ddiddymwyd, a ddirymwyd neu a ddilëwyd eisoes).
Deddfwriaeth ddwyieithog Cymru
5Statws cyfartal y testunau Cymraeg a Saesneg
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo F3Deddf gan Senedd Cymru yn cael ei deddfu, neu pan fo is-offeryn Cymreig yn cael ei wneud, yn y Gymraeg a’r Saesneg.
(2)
Mae i’r testun Cymraeg a’r testun Saesneg statws cyfartal at bob diben.
Ystyr geiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn neddfwriaeth Cymru
6Diffiniadau o eiriau ac ymadroddion
(1)
Mae geiriau ac ymadroddion a restrir yn y Tabl yn Atodlen 1 i’w dehongli yn unol â’r Tabl hwnnw pan fônt yn ymddangos mewn F3Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig.
(2)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio Atodlen 1 er mwyn—
(a)
mewnosod diffiniadau newydd o eiriau neu ymadroddion;
(b)
dileu diffiniadau o eiriau neu ymadroddion;
(c)
diwygio diffiniadau o eiriau neu ymadroddion.
(3)
Caiff rheoliadau o dan is-adran (2) wneud darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed, a gaiff gynnwys darpariaeth sy’n diwygio, yn diddymu, yn dirymu neu’n addasu fel arall unrhyw ddeddfiad (pryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir).
7Mae geiriau yn y ffurf unigol yn cynnwys y ffurf luosog ac fel arall
Mewn F3Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig—
(a)
mae geiriau yn y ffurf unigol yn cynnwys y ffurf luosog;
(b)
mae geiriau yn y ffurf luosog yn cynnwys y ffurf unigol.
8Nid yw geiriau sy’n dynodi rhywedd yn gyfyngedig i’r rhywedd hwnnw
Mewn F3Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig, nid yw geiriau sy’n dynodi personau o rywedd penodol i’w darllen fel pe baent yn gyfyngedig i bersonau o’r rhywedd hwnnw.
9Amrywio geiriau ac ymadroddion oherwydd gramadeg etc.
Pan fo deddfiad yn rhoi ystyr i air neu ymadrodd mewn F3Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig, mae rhannau ymadrodd eraill a ffurfiau neu oleddfiadau gramadegol ar y gair neu’r ymadrodd i’w dehongli yn unol â’r ystyr hwnnw.
10Cyfeiriadau at amser o’r dydd
Mae cyfeiriad at amser o’r dydd mewn F3Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig yn gyfeiriad at amser safonol Greenwich; ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 3 o Ddeddf Amser Haf 1972 (p. 6) (pwyntiau o amser yn ystod amser haf).
11Cyfeiriadau at y Sofren
Mae cyfeiriad at y Sofren mewn F3Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig i’w ddarllen fel cyfeiriad at y Sofren ar y pryd.
12Mesur pellter
Mae cyfeiriad at bellter mewn F3Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig yn gyfeiriad at y pellter hwnnw wedi ei fesur mewn llinell syth ar blân llorweddol.
F15Gosod dogfennau gerbron Senedd Cymru
12AYstyr cyfeiriadau at osod dogfennau gerbron Senedd Cymru
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig yn awdurdodi neu’n ei gwneud yn ofynnol gosod unrhyw ddogfen (gan gynnwys offeryn statudol Cymreig) gerbron Senedd Cymru.
(2)
Mae’r cyfeiriad at osod y ddogfen yn gyfeiriad at gymryd y camau a bennir mewn perthynas â gosod dogfen gerbron Senedd Cymru yn rheolau sefydlog y Senedd.
Cyflwyno dogfennau drwy’r post neu’n electronig
13Cyflwyno dogfennau drwy’r post neu’n electronig
(1)
Pan fo F3Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig yn awdurdodi person (“A”) neu’n ei gwneud yn ofynnol i A gyflwyno dogfen drwy’r post i berson arall (“B”), mae A yn cyflwyno’r ddogfen os yw A yn cyfeirio’n briodol lythyr sy’n cynnwys y ddogfen, yn talu ymlaen llaw am ei bostio, ac yn ei bostio at B.
(2)
Pan fo F3Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig yn awdurdodi person (“A”) neu’n ei gwneud yn ofynnol i A gyflwyno dogfen i berson arall (“B”) yn electronig, mae A yn cyflwyno’r ddogfen—
(a)
os yw A yn cyfeirio’n briodol gyfathrebiad electronig sy’n ffurfio’r ddogfen neu’n cynnwys y ddogfen, neu y mae’r ddogfen ynghlwm wrtho, ac yn ei anfon at B, a
(b)
os yw’r ddogfen yn cael ei hanfon ar ffurf electronig y gall B ei chyrchu a’i chadw.
(3)
14Y diwrnod pan fernir bod dogfen wedi ei chyflwyno
Pan fo dogfen yn cael ei chyflwyno drwy’r post neu’n electronig o dan F3Ddeddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig, bernir bod y ddogfen wedi ei chyflwyno, oni phrofir i’r gwrthwyneb—
(a)
yn achos dogfen a gyflwynir drwy’r post, ar y diwrnod y byddai’r llythyr sy’n cynnwys y ddogfen yn cyrraedd yn nhrefn arferol y post;
(b)
yn achos dogfen a gyflwynir yn electronig, ar y diwrnod yr anfonir y cyfathrebiad electronig.
Pwerau a dyletswyddau
15Parhad pwerau a dyletswyddau
(1)
Caniateir arfer pŵer a roddir gan F3Ddeddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig ar fwy nag un achlysur.
(2)
Mae dyletswydd a osodir gan F3Ddeddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig yn ddyletswydd barhaus a rhaid ei chyflawni yn ôl y gofyn.
(3)
16Arfer pŵer neu ddyletswydd nad yw mewn grym
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo pŵer neu ddyletswydd yn cael ei roi neu ei gosod—
F18(a)
gan ddarpariaeth mewn Deddf gan Senedd Cymru na ddaw i rym ar y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol neu drannoeth y diwrnod hwnnw, neu
(b)
gan ddarpariaeth mewn is-offeryn Cymreig na ddaw i rym unwaith y caiff yr offeryn ei wneud.
(2)
Caniateir arfer y pŵer neu’r ddyletswydd (a chaiff unrhyw offeryn a wneir o dan y pŵer neu’r ddyletswydd ddod i rym) yn ystod y cyfnod—
(b)
sy’n gorffen pan ddaw’r ddarpariaeth sy’n rhoi’r pŵer neu’n gosod y ddyletswydd i rym.
(3)
Ond yn ystod y cyfnod hwnnw ni chaniateir arfer y pŵer neu’r ddyletswydd ond i’r graddau y mae’n angenrheidiol neu’n hwylus at ddiben rhoi effaith lawn—
(b)
i ddarpariaeth yn y Ddeddf honno neu’r offeryn hwnnw,
ar yr adeg neu ar ôl yr adeg y daw’r Ddeddf, yr offeryn neu’r ddarpariaeth i rym.
F23(3A)
Nid yw is-adran (3) yn gymwys i arfer pŵer neu ddyletswydd i wneud is-ddeddfwriaeth oni bai bod yr is-ddeddfwriaeth i ddod i rym cyn y ddarpariaeth sy’n rhoi’r pŵer neu’n gosod y ddyletswydd.
(4)
Pan fo darpariaeth mewn F3Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig nad yw mewn grym—
(a)
yn gysylltiedig â phŵer neu ddyletswydd, neu’n atodol i bŵer neu ddyletswydd, a arferir yn unol â’r adran hon, a
(b)
yn dod i rym ac eithrio drwy orchymyn neu reoliadau,
mae’r ddarpariaeth honno i’w thrin fel pe bai mewn grym i’r graddau y mae’n angenrheidiol i arfer y pŵer neu’r ddyletswydd yn unol â’r adran hon.
(5)
F26(6)
Yn is-adran (1), mae’r cyfeiriadau at ddarpariaeth mewn Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig yn cynnwys darpariaeth sy’n diwygio deddfiad arall.
(7)
Pan fo darpariaeth mewn Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig yn rhoi pŵer neu’n gosod dyletswydd drwy ddiwygio deddfiad arall, mae’r cyfeiriadau at Ddeddf neu offeryn yn is-adrannau (3)(a) a (b), (4) a (5) yn cynnwys y deddfiad arall fel y’i diwygiwyd.
17Cynnwys darpariaethau machlud a darpariaethau adolygu mewn is-ddeddfwriaeth
(1)
Caniateir arfer pŵer neu ddyletswydd i wneud is-ddeddfwriaeth a roddir neu a osodir gan F3Ddeddf gan Senedd Cymru fel bod yr is-ddeddfwriaeth yn cynnwys darpariaeth adolygu neu ddarpariaeth fachlud (neu’r ddwy).
(2)
Yn yr adran hon—
(a)
ystyr “darpariaeth adolygu” yw darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person a wnaeth yr is-ddeddfwriaeth adolygu effeithiolrwydd y ddeddfwriaeth honno, neu effeithiolrwydd unrhyw is-offeryn Cymreig y mae’n ei ddiwygio, o fewn cyfnod penodedig neu ar ddiwedd cyfnod penodedig;
(b)
ystyr “darpariaeth fachlud” yw darpariaeth i’r is-ddeddfwriaeth, neu unrhyw is-offeryn Cymreig y mae’n ei ddiwygio, beidio â chael effaith ar ddiwedd diwrnod penodedig neu gyfnod penodedig;
(c)
ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu yn yr is-ddeddfwriaeth.
(3)
Caiff darpariaeth adolygu, ymhlith pethau eraill, wneud adolygiad yn ofynnol i ystyried a yw amcanion yr is-ddeddfwriaeth y mae’n gymwys iddi yn dal i fod yn briodol ac, os felly, a ellid eu cyflawni mewn ffordd arall.
(4)
Caiff yr is-ddeddfwriaeth sy’n cynnwys y ddarpariaeth adolygu neu’r ddarpariaeth fachlud ddarparu i’r ddarpariaeth fod yn gymwys yn gyffredinol neu’n unig mewn perthynas â darpariaethau penodedig yr is-ddeddfwriaeth neu achosion neu amgylchiadau penodedig.
(5)
Caniateir arfer y pŵer i wneud y ddarpariaeth adolygu neu’r ddarpariaeth fachlud i wneud darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â’r ddarpariaeth adolygu neu’r ddarpariaeth fachlud.
18Dirymu, diwygio ac ailddeddfu is-ddeddfwriaeth
(1)
Caniateir arfer pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth a roddir gan F3Ddeddf gan Senedd Cymru i ddiwygio, dirymu neu ailddeddfu unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan y pŵer.
(2)
Mae dyletswydd i wneud is-ddeddfwriaeth a osodir gan F3Ddeddf gan Senedd Cymru yn cynnwys pŵer (sy’n arferadwy yn yr un ffordd ac yn ddarostyngedig i’r un amodau neu gyfyngiadau â’r ddyletswydd) y caniateir ei arfer i ddiwygio, dirymu a disodli, neu ailddeddfu unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan y ddyletswydd (neu o dan y pŵer a ddarperir gan yr is-adran hon).
19Diwygio is-ddeddfwriaeth gan F3Ddeddf gan Senedd Cymru
Nid yw diwygio na dirymu is-ddeddfwriaeth gan F3Ddeddf gan Senedd Cymru yn cyfyngu nac yn effeithio fel arall ar y pŵer neu’r ddyletswydd y gwnaed yr is-ddeddfwriaeth odano neu odani.
20Amrywio cyfarwyddydau a’u tynnu’n ôl
(1)
Caniateir arfer pŵer a roddir gan F3Ddeddf gan Senedd Cymru neu gan is-offeryn Cymreig i roi cyfarwyddydau i amrywio unrhyw gyfarwyddydau neu dynnu’n ôl unrhyw gyfarwyddydau a roddir o dan y pŵer.
(2)
Mae dyletswydd i roi cyfarwyddydau a osodir gan F3Ddeddf gan Senedd Cymru neu gan is-offeryn Cymreig yn cynnwys pŵer (sy’n arferadwy yn yr un ffordd ac yn ddarostyngedig i’r un amodau neu gyfyngiadau â’r ddyletswydd) i amrywio, neu dynnu’n ôl a disodli, unrhyw gyfarwyddydau a roddir o dan y ddyletswydd.
Cyfeiriadau yn neddfwriaeth Cymru at ddeddfwriaeth a dogfennau eraill
21Cyfeiriadau at raniadau o ddeddfiadau, offerynnau a dogfennau
(1)
Pan fo F3Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig—
(a)
yn disgrifio rhaniad o unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen neu’n cyfeirio at raniad o unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen, a
(b)
yn gwneud hynny drwy gyfeirio at eiriau, adrannau neu rannau eraill y mae’r rhaniad yn ymestyn oddi wrthynt neu atynt (neu oddi wrthynt ac atynt),
mae’r rhaniad yn cynnwys y geiriau, yr adrannau neu’r rhannau eraill y cyfeirir atynt.
(2)
Yn is-adran (1), mae “deddfiad” yn cynnwys deddfiad sy’n un o’r canlynol neu sydd wedi ei gynnwys mewn un o’r canlynol—
(a)
Deddf gan Senedd yr Alban;
(b)
deddfwriaeth Gogledd Iwerddon (o fewn yr ystyr a roddir i “Northern Ireland legislation” gan adran 24(5) o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30));
F27(ba)
Mesur gan Gynulliad Eglwys Loegr neu gan Synod Cyffredinol Eglwys Loegr;
(c)
offeryn a wneir o dan ddeddfwriaeth a grybwyllir ym mharagraff (a) F28, (b) neu (ba).
22Argraffiadau o F1Ddeddfau Senedd Cymru neu o Fesurau’r Cynulliad y cyfeirir atynt
(1)
(2)
Mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at y copi ardystiedig F29o’r print swyddogol o’r Ddeddf, neu’r Mesur fel y’i cymeradwywyd, a gyhoeddir—
(a)
gan F30Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru, neu
(b)
o dan oruchwyliaeth neu awdurdod Llyfrfa F31Ei Fawrhydi.
23Argraffiadau o Ddeddfau gan Senedd y Deyrnas Unedig y cyfeirir atynt
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo F3Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig (pa un yn ôl ei henw byr ynteu yn ôl blwyddyn, statud, sesiwn neu bennod).
(2)
Mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at y Ddeddf fel y’i deddfwyd a gyhoeddir—
(a)
gan F32Argraffydd Deddfau Seneddol y Brenin, neu
(b)
o dan oruchwyliaeth neu awdurdod Llyfrfa F33Ei Fawrhydi.
(3)
Ond—
(a)
pan fo’r cyfeiriad yn gyfeiriad at Ddeddf sydd wedi ei chynnwys mewn argraffiad diwygiedig o’r statudau a argreffir drwy awdurdod, mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at yr argraffiad hwnnw;
(b)
pan na fo paragraff (a) yn gymwys a phan fo’r cyfeiriad yn gyfeiriad at Ddeddf sydd wedi ei chynnwys yn yr argraffiad a luniwyd o dan gyfarwyddyd y Comisiwn Cofnodion, mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at yr argraffiad hwnnw.
24Cyfeiriadau at ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir mewn cyfraith ddomestig ar ôl ymadael â’r UE
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—
(a)
(b)
y Ddeddf neu’r offeryn yn cyfeirio at unrhyw reoliad gan yr UE, penderfyniad gan yr UE, deddfwriaeth drydyddol gan yr UE neu ddarpariaeth yng nghytundeb yr AEE sy’n ffurfio rhan o gyfraith ddomestig yn rhinwedd adran 3 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) F35neu adran 1 o Ddeddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 (p. 2) (cynnwys deddfwriaeth uniongyrchol UE).
(2)
Mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at reoliad gan yr UE, penderfyniad gan yr UE, deddfwriaeth drydyddol gan yr UE neu ddarpariaeth yng nghytundeb yr AEE fel y mae’n ffurfio rhan o gyfraith ddomestig (ac nid fel y mae’n ffurfio rhan o gyfraith yr UE).
F36(2A)
Ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 25A (cyfeiriadau at gyfraith berthnasol y cytundebau gwahanu).
(3)
Yn yr adran hon, mae i’r ymadroddion Cymraeg a ganlyn yr un ystyron ag a roddir i’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn adran 20(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018—
“cyfraith ddomestig” (“domestic law”);
“deddfwriaeth drydyddol gan yr UE” (“EU tertiary legislation”);
“penderfyniad gan yr UE” (“EU decision”);
“rheoliad gan yr UE” (“EU regulation”).
25Mae cyfeiriadau at ddeddfiadau yn gyfeiriadau at ddeddfiadau fel y’u diwygiwyd
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys—
(a)
pan fo F3Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at ddeddfiad (“A”), a
(2)
Mae’r cyfeiriad at A yn gyfeiriad at A fel y’i diwygiwyd, y’i hestynnwyd neu y’i cymhwyswyd gan B.
(3)
Nid oes dim yn adrannau 22 i 24 yn cyfyngu ar weithrediad yr adran hon.
(4)
Yn is-adran (1), mae “deddfiad” yn cynnwys deddfiad sy’n un o’r canlynol neu sydd wedi ei gynnwys mewn un o’r canlynol—
(a)
Deddf gan Senedd yr Alban;
(b)
deddfwriaeth Gogledd Iwerddon (o fewn yr ystyr a roddir i “Northern Ireland legislation” gan adran 24(5) o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30));
F39(ba)
Mesur gan Gynulliad Eglwys Loegr neu gan Synod Cyffredinol Eglwys Loegr;
(c)
offeryn a wneir o dan ddeddfwriaeth a grybwyllir ym mharagraff (a) F40, (b) neu (ba).
F4125ACyfeiriadau at gyfraith berthnasol y cytundebau gwahanu
—(1) Mae'r adran hon yn gymwys—
(a)
pan fo Deddf gan Senedd Cymru yn cael y Cydsyniad Brenhinol, neu pan fo is-offeryn Cymreig yn cael ei wneud, ar neu ar ôl diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu, a
(b)
pan fo'r Ddeddf neu'r offeryn yn cyfeirio at unrhyw gytuniad sy'n ymwneud â'r UE, neu unrhyw offeryn neu ddogfen arall gan unrhyw endid o'r UE, sy'n cael effaith yn rhinwedd adran 7A neu 7B o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) (gweithredu gweddill y cytundeb ymadael â'r UE etc. yn gyffredinol).
(2)
Mae'r cyfeiriad, i'r graddau y mae'n ofynnol at ddibenion cyfraith berthnasol y cytundebau gwahanu, yn gyfeiriad at y cytuniad, yr offeryn neu'r ddogfen fel y mae'n cael effaith yn rhinwedd yr adran honno (gan gynnwys, i'r graddau y mae'n ofynnol, fel y mae'n cael effaith o bryd i'w gilydd).
(3)
Yn yr adran hon—
mae i “cyfraith berthnasol y cytundebau gwahanu” yr ystyr a roddir i “relevant separation agreement law” gan adran 7C(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018; mae “cytuniad” (“treaty”) yn cynnwys unrhyw gytundeb rhyngwladol (ac unrhyw brotocol neu atodiad i gytuniad neu gytundeb rhyngwladol); mae i “endid o'r UE” yr ystyr a roddir i “EU entity” gan adran 20(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
26Cyfeiriadau at F42offerynnau penodol gan yr UE
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys—
(a)
pan fo F3Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at offeryn UE (“A”), a
(2)
Mae’r cyfeiriad at A yn gyfeiriad at A fel y’i diwygiwyd, y’i hestynnwyd neu y’i cymhwyswyd gan B.
(3)
Dyblygu troseddau
27Troseddau dyblyg
(1)
Pan fo gweithred neu anweithred yn drosedd o dan F3Ddeddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig (“A”) a hefyd yn drosedd—
(a)
o dan F3Ddeddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig ac eithrio A,
(b)
yn ôl y gyfraith gyffredin, neu
(c)
o dan F3Ddeddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig ac eithrio A ac yn ôl y gyfraith gyffredin,
mae person yn agored i’w erlyn a’i gosbi o dan y naill neu’r llall neu unrhyw un o’r Deddfau neu’r offerynnau hynny neu yn ôl y gyfraith gyffredin, ond ni ellir ei gosbi fwy nag unwaith am yr un drosedd.
(2)
Nid yw is-adran (1) yn gymwys os yw’r weithred neu’r anweithred hefyd yn drosedd o dan unrhyw ddeddfwriaeth y mae adran 18 o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30) yn gymwys iddi (ond mae’r adran honno yn gwneud darpariaeth gyfatebol mewn perthynas â gweithred neu anweithred o’r fath).
Cymhwyso i’r Goron
28Cymhwyso deddfwriaeth Cymru i’r Goron
(1)
Mae F3Deddf gan Senedd Cymru yn rhwymo’r Goron.
(2)
Mae is-offeryn Cymreig yn rhwymo’r Goron i’r graddau y mae wedi ei wneud o dan ddeddfiad sy’n rhwymo’r Goron neu’n rhoi pŵer i wneud darpariaeth sy’n rhwymo’r Goron.
(3)
Nid yw F3Deddf gan Senedd Cymru nac is-offeryn Cymreig yn gwneud y Goron yn atebol o ran cyfraith trosedd, ond mae’n gymwys i bersonau sy’n gwasanaethu’r Goron fel y mae’n gymwys i bersonau eraill.
Deddfwriaeth yn dod i rym
29Yr amser pan ddaw deddfwriaeth Cymru i rym
Pan fo—
(a)
F3Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig, neu
(b)
darpariaeth mewn F3Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig,
yn dod i rym ar ddiwrnod y darperir ar ei gyfer mewn deddfiad, daw’r Ddeddf, yr offeryn neu’r ddarpariaeth i rym ar ddechrau’r diwrnod hwnnw.
30Y diwrnod y daw F3Deddf gan Senedd Cymru i rym
31Gorchmynion a rheoliadau sy’n dwyn F1Deddfau Senedd Cymru i rym
Pan fo F3Deddf gan Senedd Cymru yn darparu i orchymyn neu reoliadau benodi—
(a)
y diwrnod y daw’r Ddeddf i rym, neu
(b)
y diwrnod y daw darpariaeth yn y Ddeddf i rym,
caiff y gorchymyn neu’r rheoliadau benodi diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol.
Diwygio, diddymu a dirymu deddfwriaeth
32Diwygiadau a wneir i ddeddfwriaeth Cymru neu gan ddeddfwriaeth Cymru
(1)
Pan fo deddfiad yn diwygio F3Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig drwy fewnosod neu amnewid geiriau neu ddeunydd arall, mae’r geiriau neu’r deunydd yn cael effaith fel rhan o’r Ddeddf honno neu’r offeryn hwnnw.
(2)
Pan fo F3Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig yn diwygio deddfiad drwy fewnosod neu amnewid geiriau neu ddeunydd arall, mae’r geiriau neu’r deunydd yn cael effaith fel rhan o’r deddfiad hwnnw.
(3)
Gweler hefyd adran 23ZA o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30) ar gyfer darpariaeth ynghylch cymhwyso’r Ddeddf honno i ddeddfwriaeth uniongyrchol F47a gymathwyd sy’n cael ei diwygio gan F3Ddeddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig (neu gan ddeddfwriaeth benodol arall).
33Nid yw diddymiadau na dirymiadau yn adfer cyfraith a ddiddymwyd, a ddirymwyd neu a ddilëwyd eisoes
Pan fo—
(a)
F3Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig yn diddymu neu’n dirymu deddfiad (“A”), a
(b)
A eisoes wedi diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad arall (“B”) neu wedi dileu unrhyw rheol gyfreithiol arall (“C”),
nid yw diddymiad neu ddirymiad A yn adfer B neu C.
34Arbedion cyffredinol mewn cysylltiad â diddymiadau a dirymiadau
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo F3Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig yn diddymu neu’n dirymu deddfiad.
(2)
Nid yw’r diddymiad neu’r dirymiad—
(a)
yn adfer unrhyw beth nad yw mewn grym neu mewn bod ar yr adeg pan yw’r diddymiad neu’r dirymiad yn cymryd effaith;
(b)
yn effeithio ar weithrediad blaenorol y deddfiad neu unrhyw beth a wneir neu a oddefir o dan y deddfiad.
(3)
Nid yw’r diddymiad neu’r dirymiad ychwaith yn effeithio ar—
(a)
unrhyw hawl, braint, rhwymedigaeth neu atebolrwydd a geir, a gronnir neu yr eir iddi neu iddo o dan y deddfiad;
(b)
unrhyw gosb, fforffediad neu gosbedigaeth a osodir mewn cysylltiad ag unrhyw drosedd a gyflawnir o dan y deddfiad;
(c)
unrhyw ymchwiliad, achos cyfreithiol neu rwymedi mewn cysylltiad ag unrhyw hawl, braint, rhwymedigaeth, atebolrwydd, cosb, fforffediad neu gosbedigaeth o’r fath,
a chaniateir cychwyn, parhau neu orfodi unrhyw ymchwiliad, achos cyfreithiol neu rwymedi o’r fath, a gosod unrhyw gosb, fforffediad neu gosbedigaeth o’r fath, fel pe na bai’r diddymiad neu’r dirymiad wedi digwydd.
35Effaith ailddeddfu
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo deddfiad (“A”)—
(a)
yn cael ei ddiddymu neu ei ddirymu gan F3Ddeddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig, a
(2)
Mae cyfeiriad at A mewn unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen i’w ddarllen fel (neu fel pe bai’n cynnwys) cyfeiriad at B.
(3)
I’r graddau y gallasai unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan A neu sy’n cael effaith fel pe bai wedi ei gwneud o dan A gael ei gwneud o dan B, mae i gael effaith fel pe bai wedi ei gwneud o dan B.
(4)
I’r graddau y gallasai unrhyw beth a wneir neu sy’n cael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan A gael ei wneud o dan B, mae i gael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan B.
F48(5)
Nid yw is-adran (3) yn peri i adran 28 gael effaith mewn perthynas ag unrhyw is-ddeddfwriaeth pan nad oedd yn cael effaith yn flaenorol.
36F49Cyfeirio at Ddeddf gan Senedd Cymru ar ôl iddi gael ei diddymu neu is-offeryn Cymreig ar ôl iddo gael ei ddirymu
F50(1)
Caniateir parhau i gyfeirio at F3Ddeddf gan Senedd Cymru yn ôl yr enw byr a roddir iddi gan ddeddfiad er i’r deddfiad hwnnw gael ei ddiddymu.
F51(2)
Caniateir parhau i gyfeirio at is-offeryn Cymreig yn ôl ei enw er i’r offeryn gael ei ddirymu.
37F52Dehongli darpariaethau ynghylch diwygio, diddymu a dirymu yn y Rhan hon
(1)
Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at ddiddymu neu ddirymu deddfiad neu ddileu rheol gyfreithiol yn cynnwys—
(a)
amnewid unrhyw beth am y deddfiad neu’r rheol (neu unrhyw ran ohono neu ohoni);
(b)
cyfyngu ar gymhwysiad neu effaith y deddfiad neu’r rheol;
(c)
darparu i’r deddfiad neu’r rheol beidio â chael effaith.
(2)
At ddibenion adrannau 34 i 36 (ond nid adran 33)—
(a)
(b)
pan ddaw is-offeryn Cymreig dros dro i ben, mae hyn i’w drin fel pe bai’r offeryn wedi ei ddirymu gan F3Ddeddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig.
F53(3)
Yn adrannau 32 i 35, ac yn is-adran (1) fel y mae’n gymwys at ddibenion yr adrannau hynny, mae “deddfiad yn cynnwys deddfiad sy’n Fesur gan Gynulliad Eglwys Loegr neu gan Synod Cyffredinol Eglwys Loegr neu’n offeryn a wneir o dan Fesur o’r fath, neu sydd wedi ei gynnwys mewn Mesur neu offeryn o’r fath.
F54RHAN 2AY WEITHDREFN AR GYFER GWNEUD IS-DDEDDFWRIAETH CYMRU
Cyflwyniad
37AOfferynnau statudol Cymreig
(1)
Dogfen yw “offeryn statudol Cymreig” sy’n cynnwys is-ddeddfwriaeth Cymru a wneir wrth arfer pŵer y mae’n ofynnol gan ddeddfiad ei arfer drwy offeryn statudol.
(2)
Yn is-adran (1), ystyr “is-ddeddfwriaeth Cymru” yw is-ddeddfwriaeth nas gwneir ond gan—
(a)
Gweinidogion Cymru, neu
(b)
unrhyw awdurdod Cymreig datganoledig arall o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” gan adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
(3)
Mae’r cyfeiriad yn is-adran (1) at ddeddfiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i bŵer gael ei arfer drwy offeryn statudol yn cynnwys deddfiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i bŵer gael ei arfer drwy offeryn statudol Cymreig.
(4)
Mae’r cyfeiriad yn is-adran (2)(a) at Weinidogion Cymru yn cynnwys Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel y’i cyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38).
37BDehongli
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Rhan hon a Rhan 2B.
(2)
Yr “awdurdod cyfrifol” mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys mewn offeryn statudol Cymreig yw—
(a)
Gweinidogion Cymru mewn achos pan fo’r is-ddeddfwriaeth yn cael ei gwneud, ei chadarnhau neu ei chymeradwyo gan Weinidogion Cymru, y Prif Weinidog neu’r Cwnsler Cyffredinol;
(b)
mewn unrhyw achos arall, y person sy’n gwneud yr is-ddeddfwriaeth.
(3)
Ac eithrio yn is-adran (2) ac adrannau 37D(6) a 37E(9), mae cyfeiriadau at is-ddeddfwriaeth yn cael ei gwneud drwy offeryn statudol Cymreig yn cynnwys is-ddeddfwriaeth yn cael ei chadarnhau neu ei chymeradwyo drwy offeryn statudol Cymreig.
(4)
Mae penderfyniad gan awdurdod cyfrifol o ran ai i ddosbarthu offeryn statudol Cymreig yn offeryn lleol i’w wneud yn ôl y graddau y mae’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys yn yr offeryn—
(a)
yn gymwys yn gyffredinol, neu
(b)
yn gymwys i ardal benodol yn unig, neu i unigolion neu bersonau penodol yn unig.
Gweithdrefnau is-ddeddfwriaeth y Senedd
37CGweithdrefn gymeradwyo’r Senedd
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo deddfiad yn darparu bod is-ddeddfwriaeth sydd i’w gwneud drwy offeryn statudol Cymreig yn ddarostyngedig i “gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd”.
(2)
Ni chaniateir gwneud yr is-ddeddfwriaeth oni bai bod drafft o’r offeryn statudol Cymreig sy’n cynnwys yr is-ddeddfwriaeth wedi ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
37DGweithdrefn gadarnhau’r Senedd
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo deddfiad yn darparu bod is-ddeddfwriaeth sydd i’w gwneud drwy offeryn statudol Cymreig yn ddarostyngedig i “gweithdrefn gadarnhau’r Senedd”.
(2)
Rhaid gosod yr offeryn statudol Cymreig sy’n cynnwys yr is-ddeddfwriaeth gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r is-ddeddfwriaeth gael ei gwneud.
(3)
Ond mae’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys yn yr offeryn statudol Cymreig yn peidio â chael effaith os na chaiff ei chadarnhau drwy benderfyniad gan Senedd Cymru cyn bod—
(a)
cyfnod a bennir yn y deddfiad yn dod i ben, neu
(b)
digwyddiad a bennir yn y deddfiad.
(4)
Pan fo’r is-ddeddfwriaeth yn peidio â chael effaith o dan is-adran (3)—
(a)
i’r graddau nad yw’r is-ddeddfwriaeth mewn grym pan fydd yn peidio â chael effaith, ni ddaw’r is-ddeddfwriaeth i rym ar ôl y dyddiad hwnnw (er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth ynddi ar gyfer dod i rym yr is-ddeddfwriaeth),
(b)
i’r graddau y mae’r is-ddeddfwriaeth mewn grym ar y dyddiad hwnnw, nid oes unrhyw beth pellach i’w wneud neu i’w barhau o dan yr is-ddeddfwriaeth, neu gan ddibynnu arni, ar ôl y dyddiad hwnnw, ac
(c)
rhaid i’r awdurdod cyfrifol, drwy orchymyn, ddirymu’r is-ddeddfwriaeth.
(5)
Ond nid yw hyn yn effeithio ar—
(a)
dilysrwydd unrhyw beth a wnaed yn flaenorol o dan yr is-ddeddfwriaeth, na
(b)
gwneud is-ddeddfwriaeth newydd.
(6)
Mae gorchymyn o dan is-adran (4)(c) i’w wneud drwy offeryn statudol Cymreig.
37EGweithdrefn annilysu’r Senedd
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo deddfiad yn darparu bod is-ddeddfwriaeth sydd i’w gwneud drwy offeryn statudol Cymreig yn ddarostyngedig i “gweithdrefn annilysu’r Senedd”.
(2)
Rhaid gosod yr offeryn statudol Cymreig sy’n cynnwys yr is-ddeddfwriaeth gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r is-ddeddfwriaeth gael ei gwneud, ac mae is-adran (6) yn gymwys os na osodir yr offeryn gerbron Senedd Cymru o leiaf 21 o ddiwrnodau cyn i’r is-ddeddfwriaeth ddod i rym.
(3)
Caiff Senedd Cymru, cyn diwedd y 40 niwrnod sy’n dechrau â’r dyddiad y gosodir yr offeryn statudol Cymreig ger ei bron, benderfynu annilysu’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys yn yr offeryn.
(4)
Pan gaiff yr is-ddeddfwriaeth ei hannilysu—
(a)
i’r graddau nad yw’r is-ddeddfwriaeth mewn grym ar ddyddiad y penderfyniad, ni ddaw’r is-ddeddfwriaeth i rym ar ôl y dyddiad hwnnw (er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth ynddi ar gyfer dod i rym yr is-ddeddfwriaeth),
(b)
i’r graddau y mae’r is-ddeddfwriaeth mewn grym ar y dyddiad hwnnw, nid oes unrhyw beth pellach i’w wneud neu i’w barhau o dan yr is-ddeddfwriaeth, neu gan ddibynnu arni, ar ôl y dyddiad hwnnw, ac
(c)
rhaid i’r awdurdod cyfrifol, drwy orchymyn, ddirymu’r is-ddeddfwriaeth.
(5)
Ond nid yw hyn yn effeithio ar—
(a)
dilysrwydd unrhyw beth a wnaed yn flaenorol o dan yr is-ddeddfwriaeth, na
(b)
gwneud is-ddeddfwriaeth newydd.
(6)
Os yw’r is-adran hon yn gymwys, rhaid i’r awdurdod cyfrifol egluro i’r Llywydd pam na osodwyd yr offeryn statudol Cymreig o leiaf 21 o ddiwrnodau cyn i’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys ynddo ddod i rym.
(7)
Rhaid rhoi’r eglurhad i’r Llywydd yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r offeryn gael ei osod gerbron y Senedd.
(8)
Wrth gyfrifo’r cyfnod o 21 o ddiwrnodau a grybwyllir yn is-adran (2), neu’r cyfnod o 40 niwrnod a grybwyllir yn is-adran (3), nid yw unrhyw amser pan fydd Senedd Cymru wedi ei diddymu neu ar doriad am fwy na phedwar diwrnod i’w ystyried.
(9)
Mae gorchymyn o dan is-adran (4)(c) i’w wneud drwy offeryn statudol Cymreig.
37FOfferynnau statudol Cymreig eraill sydd i’w gosod gerbron Senedd Cymru
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan na fo deddfiad sy’n rhoi pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth drwy offeryn statudol Cymreig yn darparu bod y ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i—
(a)
gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd,
(b)
gweithdrefn gadarnhau’r Senedd, nac
(c)
gweithdrefn annilysu’r Senedd.
(2)
Ond nid yw’n gymwys pan fo’r is-ddeddfwriaeth—
(a)
yn cael ei gwneud drwy offeryn statudol Cymreig sydd wedi ei ddosbarthu’n offeryn lleol gan yr awdurdod cyfrifol,
(b)
yn ddarostyngedig i weithdrefn arbennig y Senedd, neu
(c)
yn cael ei gwneud o dan ddeddfiad a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.
(3)
Rhaid gosod yr offeryn statudol Cymreig sy’n cynnwys yr is-ddeddfwriaeth gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r is-ddeddfwriaeth gael ei gwneud; ac mae is-adran (4) yn gymwys os na osodir yr offeryn cyn i’r is-ddeddfwriaeth ddod i rym.
(4)
Os yw’r is-adran hon yn gymwys, rhaid i’r awdurdod cyfrifol egluro i’r Llywydd pam na osodwyd yr offeryn statudol Cymreig cyn i’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys ynddo ddod i rym.
(5)
Rhaid rhoi’r eglurhad i’r Llywydd yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r offeryn gael ei osod gerbron y Senedd.
(6)
Yn is-adran (2)(b), ystyr “gweithdrefn arbennig y Senedd” yw’r weithdrefn a bennir yn rheolau sefydlog Senedd Cymru ar gyfer is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i weithdrefn arbennig y Senedd.
37GCyfuno is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i weithdrefnau gwahanol yn y Senedd
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’r awdurdod cyfrifol yn gwneud, neu’n cynnig gwneud, is-ddeddfwriaeth drwy offeryn statudol Cymreig a fyddai fel arall yn ddarostyngedig i ddwy neu ragor o weithdrefnau gwahanol yn y Senedd.
(2)
Mae’r weithdrefn yn y Senedd a grybwyllir gyntaf yn is-adran (3) yn gymwys ac nid yw’r un o’r gweithdrefnau eraill yn y Senedd yn gymwys.
(3)
Y gweithdrefnau yn y Senedd yw—
(a)
gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd (gweler adran 37C);
(b)
gweithdrefn gadarnhau’r Senedd (gweler adran 37D);
(c)
gweithdrefn annilysu’r Senedd (gweler adran 37E);
(d)
y gofyniad (dim ond) i osod yr offeryn statudol Cymreig gerbron Senedd Cymru ar ôl i’r is-ddeddfwriaeth gael ei gwneud (gweler adran 37F).
(4)
Os yw’r awdurdod cyfrifol wedi gwneud is-ddeddfwriaeth mewn offeryn statudol Cymreig y mae is-adran (1) yn gymwys iddo, nid yw hyn—
(a)
yn ei atal rhag gwneud is-ddeddfwriaeth bellach mewn offeryn statudol Cymreig nad yw’r is-adran honno yn gymwys iddo, na
(b)
yn effeithio ar y weithdrefn yn y Senedd sy’n gymwys i’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys mewn offeryn o’r fath.
Pwerau sydd eisoes yn bodoli i wneud is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i weithdrefn seneddol
37HCymhwyso’r Rhan hon mewn amgylchiadau gwahanol
(1)
Mae Atodlen 1A yn cymhwyso darpariaethau’r Rhan hon i is-ddeddfwriaeth a wneir drwy offeryn statudol o dan ddeddfiad a ddeddfwyd neu a wnaed cyn bod y Rhan hon mewn grym.
(2)
Mae Atodlen 1B yn cymhwyso darpariaethau’r Rhan hon, gydag addasiadau, i is-ddeddfwriaeth a wneir gan Weinidogion Cymru a pherson arall heblaw awdurdod Cymreig datganoledig o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” gan adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
(3)
Mae Atodlen 1C yn cymhwyso darpariaethau’r Rhan hon, gydag addasiadau, i Orchmynion yn y Cyfrin Gyngor a wneir drwy offeryn statudol.
F55RHAN 2BCYHOEDDI ETC. DDEDDFWRIAETH CYMRU
Cyflwyniad
37IArgraffydd y Brenin ar gyfer Cymru
Mae Argraffydd Deddfau Seneddol y Brenin i arfer y swyddogaethau a roddir gan y Rhan hon i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru mewn cysylltiad â Deddfau Senedd Cymru, offerynnau statudol Cymreig a dogfennau cysylltiedig.
Cadw a chyhoeddi Deddfau Senedd Cymru
37JRhifo Deddfau Senedd Cymru
(1)
Mae Deddfau Senedd Cymru i’w rhifo mewn perthynas â phob blwyddyn galendr—
(a)
yn olynol (gan ddechrau â rhif 1),
(b)
yn y drefn, yn ystod y flwyddyn honno, y cafodd y Bil ar gyfer pob Deddf y Cydsyniad Brenhinol, ac
(c)
gan ddefnyddio’r rhagddodiad “dsc”.
(2)
Yn unol â hynny, ar bob copi o Ddeddf gan Senedd Cymru y mae Clerc y Senedd yn ysgrifennu dyddiad Cydsyniad Brenhinol y Ddeddf honno arno (yn unol ag adran 115(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)), rhaid i’r Clerc ysgrifennu hefyd—
(a)
y flwyddyn galendr y cafodd y Bil ar gyfer y Ddeddf honno y Cydsyniad Brenhinol ynddi, a
(b)
y rhagddodiad a rhif y Ddeddf honno.
(3)
Mae’r flwyddyn galendr, y rhagddodiad a’r rhif sydd wedi eu hysgrifennu ar y copi o’r Ddeddf yn ffurfio rhan o’r Ddeddf.
37KPrintiau swyddogol a chopïau ardystiedig o Ddeddfau Senedd Cymru
(1)
Mae’r copi o Ddeddf gan Senedd Cymru y mae Clerc y Senedd yn ysgrifennu dyddiad y Cydsyniad Brenhinol, y flwyddyn galendr, y rhagddodiad a’r rhif arno i’w alw y “print swyddogol” o’r Ddeddf.
(2)
Rhaid i Glerc y Senedd—
(a)
gwneud copi o’r print swyddogol a’i ardystio’n gopi gwir, a
(b)
anfon—
(i)
y print swyddogol i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, a
(ii)
y copi ardystiedig o’r print swyddogol at Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru.
(3)
Caiff y copi ardystiedig o’r print swyddogol o Ddeddf fod ar ffurf electronig.
37LCadw Deddfau Senedd Cymru
Rhaid i Lyfrgell Genedlaethol Cymru sicrhau bod print swyddogol o Ddeddf gan Senedd Cymru sy’n dod i’w llaw—
(a)
yn cael ei gadw, a
(b)
ar gael i’r cyhoedd edrych arno ar bob adeg resymol.
37MCyhoeddi Deddfau Senedd Cymru
(1)
Rhaid i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru gyhoeddi’r copi ardystiedig o’r print swyddogol o Ddeddf gan Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl iddo ddod i’w law.
(2)
Rhaid i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru hefyd gyhoeddi, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl iddi ddod i’w law, unrhyw ddogfen sy’n gysylltiedig â’r copi ardystiedig o’r print swyddogol o Ddeddf gan Senedd Cymru—
(a)
y mae Clerc y Senedd yn gofyn i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru ei chyhoeddi;
(b)
y mae Gweinidogion Cymru yn gofyn i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru ei chyhoeddi.
(3)
Yn yr adran hon, mae’r gofyniad i gyhoeddi yn golygu cyhoeddi ar-lein (ond gweler hefyd adran 37Y mewn perthynas â gwerthu copïau print).
Cadw a chyhoeddi offerynnau statudol Cymreig
37NFersiynau swyddogol a chopïau ardystiedig o offerynnau statudol Cymreig
(1)
Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i offeryn statudol Cymreig gael ei wneud, rhaid i’r awdurdod cyfrifol wneud copi ardystiedig o’r offeryn a’i anfon—
(a)
i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, a
(b)
at Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru.
(2)
Wrth anfon copi ardystiedig o offeryn statudol Cymreig at Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru yn unol ag is-adran (1)(b), rhaid i’r awdurdod cyfrifol hefyd ddarparu’r wybodaeth a ganlyn—
(a)
y dyddiad y gwnaed yr offeryn;
(b)
y dyddiad neu’r dyddiadau y daw’r offeryn i rym, neu ddisgrifiad o’r ffordd y mae i ddod i rym;
(c)
y pennawd pwnc neu’r penawdau pwnc y mae’r awdurdod cyfrifol wedi ei roi neu eu rhoi i’r offeryn ar sail ei bwnc;
(d)
y weithdrefn yn y Senedd (gweler Rhan 2A) y mae’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys yn yr offeryn yn ddarostyngedig iddi.
(3)
O ran copi ardystiedig o offeryn statudol Cymreig—
(a)
mae’n gopi o’r offeryn hwnnw sydd wedi ei ardystio’n gopi gwir gan yr awdurdod cyfrifol, a
(b)
caiff fod ar ffurf electronig.
(4)
Nid yw’r gofyniad i anfon copi ardystiedig o offeryn statudol Cymreig i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn gymwys i offeryn sydd wedi ei ddosbarthu’n offeryn lleol gan yr awdurdod cyfrifol.
37OCadw offerynnau statudol Cymreig
Rhaid i Lyfrgell Genedlaethol Cymru sicrhau bod copi ardystiedig o offeryn statudol Cymreig sy’n dod i’w llaw gan awdurdod cyfrifol—
(a)
yn cael ei gadw, a
(b)
ar gael i’r cyhoedd edrych arno ar bob adeg resymol.
37PRhifo a dosbarthu offerynnau statudol Cymreig
(1)
Mae offerynnau statudol Cymreig i’w—
(a)
dyrannu i’r gyfres o offerynnau statudol Cymreig ar gyfer y flwyddyn galendr y’u gwneir ynddi;
(b)
rhifo o fewn y gyfres honno—
(i)
yn olynol (gan ddechrau â rhif 1), a
(ii)
cyn agosed ag y bo modd at y drefn y deuant i law.
(2)
Yn unol â hynny, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i gopi ardystiedig o offeryn statudol Cymreig ddod i’w law, rhaid i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru—
(a)
dyrannu’r offeryn a’i rifo yn unol ag is-adran (1), a
(b)
cadarnhau’r pennawd pwnc neu’r penawdau pwnc a roddwyd i’r offeryn gan yr awdurdod cyfrifol.
(3)
Wrth roi rhif i offeryn statudol Cymreig yn unol ag is-adran (2), caiff Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru roi is-rif pellach i’r offeryn (o fewn y gyfres y mae’r offeryn wedi ei ddyrannu iddi).
37QCyhoeddi offerynnau statudol Cymreig
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’r canlynol wedi dod i law Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru—
(a)
copi ardystiedig o offeryn statudol Cymreig a anfonwyd yn unol ag adran 37N(1), a
(b)
yr wybodaeth y cyfeirir ati yn adran 37N(2) sy’n ymwneud â’r offeryn.
(2)
Rhaid i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, gyhoeddi’r offeryn ar y ffurf a ddangosir yn y copi ardystiedig ac, wrth wneud hynny, ymgorffori’r materion a ganlyn—
(a)
y pennawd cyfres “OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU”;
(b)
blwyddyn galendr y gyfres o offerynnau statudol Cymreig y mae’r offeryn wedi ei ddyrannu iddi yn unol ag adran 37P(1)(a), ac wedyn “Rhif” a’r rhif a roddwyd iddo yn unol ag adran 37P(1)(b) (er enghraifft, “2026 Rhif 1”);
(c)
pennawd pwnc neu benawdau pwnc yr offeryn a gadarnhawyd o dan adran 37P(2)(b);
(d)
datganiad yn dangos y dyddiad y gwnaed yr offeryn;
(e)
ac eithrio yn achos offeryn nad yw ond yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â phryd y mae deddfiad arall i ddod i rym, ddatganiad yn dangos y dyddiad neu’r dyddiadau y daw’r offeryn i rym neu’n disgrifio’r ffordd y mae’r offeryn i ddod i rym.
(3)
Rhaid i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru hefyd gyhoeddi, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl iddi ddod i’w law, unrhyw ddogfen sy’n gysylltiedig â chopi ardystiedig o offeryn statudol Cymreig y mae’r awdurdod cyfrifol yn gofyn i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru ei chyhoeddi.
(4)
Yn yr adran hon, mae’r gofyniad i gyhoeddi yn golygu cyhoeddi ar-lein (ond gweler hefyd adran 37Y mewn perthynas â gwerthu copïau print).
37RCyhoeddi offerynnau statudol Cymreig sy’n ddarostyngedig i weithdrefn gadarnhau’r Senedd
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo offeryn statudol Cymreig yn cynnwys is-ddeddfwriaeth sy’n cael effaith yn ddarostyngedig i weithdrefn gadarnhau’r Senedd (gweler adran 37D o ran hynny).
(2)
Rhaid i’r awdurdod cyfrifol, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, hysbysu Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru—
(a)
bod yr offeryn wedi ei gadarnhau gan Senedd Cymru neu wedi peidio â chael effaith am na chafodd ei gadarnhau (yn ôl y digwydd), a
(b)
am y dyddiad y digwyddodd hynny.
(3)
Pan fo Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru wedi ei hysbysu bod offeryn statudol Cymreig wedi ei gadarnhau gan Senedd Cymru, wrth gyhoeddi’r offeryn rhaid i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru ymgorffori (yn ychwanegol at y materion a grybwyllir yn adran 37Q(2)) ddatganiad yn dangos bod yr offeryn wedi ei gadarnhau.
37SAchos am drosedd o dan offeryn statudol Cymreig nas cyhoeddwyd: amddiffyniad
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys i achos yn erbyn person am drosedd sy’n doriad o ddarpariaeth mewn is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys mewn offeryn statudol Cymreig.
(2)
Mae’n amddiffyniad i’r person brofi nad oedd yr offeryn wedi ei gyhoeddi gan Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru yn unol ag adran 37Q ar ddyddiad y toriad honedig.
(3)
Ond nid yw’r amddiffyniad hwn ar gael os profir bod camau rhesymol eraill wedi eu cymryd cyn y dyddiad hwnnw, gan yr awdurdod cyfrifol neu ar ei ran, i ddwyn y drosedd i sylw—
(a)
y cyhoedd,
(b)
personau y byddai’r drosedd yn debygol o effeithio arnynt, neu
(c)
y person a gyhuddwyd.
(4)
Nid yw is-adrannau (2) na (3) yn effeithio ar unrhyw ddeddfiad nac unrhyw reol gyfreithiol sy’n ymwneud â’r adeg pan ddaw unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir drwy offeryn statudol Cymreig i rym.
37TOfferynnau statudol Cymreig drafft
(1)
Rhaid i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru gyhoeddi, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl iddo ddod i’w law, gopi ardystiedig o ddrafft o offeryn statudol Cymreig y mae’r awdurdod cyfrifol yn gofyn i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru ei gyhoeddi.
(2)
O ran copi ardystiedig o ddrafft o offeryn statudol Cymreig—
(a)
mae’n gopi o’r drafft hwnnw sydd wedi ei ardystio’n gopi gwir gan yr awdurdod cyfrifol, a
(b)
caiff fod ar ffurf electronig.
(3)
Yn yr adran hon—
(a)
mae’r gofyniad i gyhoeddi yn golygu cyhoeddi ar-lein (ond gweler hefyd adran 37Y mewn perthynas â gwerthu copïau print);
(b)
ystyr “yr awdurdod cyfrifol” yw’r person a fyddai’r awdurdod cyfrifol pe bai’r offeryn statudol Cymreig yn cael ei wneud.
Cyhoeddi deddfwriaeth Cymru ar ei ffurf gyfredol
37UCyhoeddi effeithiau deddfwriaeth
(1)
Pan fo Deddf gan Senedd Cymru neu offeryn statudol Cymreig yn cynnwys un neu ragor o ddarpariaethau sy’n diwygio, yn diddymu neu’n dirymu deddfiadau, rhaid i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru lunio a chyhoeddi tabl yn dangos effeithiau’r Ddeddf neu’r offeryn ar y deddfiadau hynny.
(2)
Rhaid cyhoeddi tabl yn ymwneud â Deddf gan Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r copi ardystiedig o’r print swyddogol o’r Ddeddf gael ei gyhoeddi o dan adran 37M.
(3)
Rhaid cyhoeddi tabl yn ymwneud ag offeryn statudol Cymreig cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r offeryn gael ei gyhoeddi o dan adran 37Q.
(4)
Yn yr adran hon mae gofyniad i gyhoeddi yn golygu cyhoeddi ar-lein.
37VCyhoeddi deddfwriaeth Cymru fel y’i diwygiwyd
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo deddfiad yn diwygio deddfwriaeth Cymru.
(2)
Rhaid i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru gyhoeddi’r ddeddfwriaeth fel y mae wedi ei diwygio.
(3)
Rhaid i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru, i’r graddau y mae’n ymarferol, gyflawni’r ddyletswydd yn is-adran (2) o’r adeg pan ddaw diwygiad i rym.
(4)
Pan nad yw diwygiad wedi dod i rym eto, caiff Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru hefyd gyhoeddi’r ddeddfwriaeth fel y caiff ei diwygio, os yw’n nodi’n glir nad yw’r diwygiad wedi dod i rym eto.
(5)
Yn yr adran hon—
(a)
mae’r gofyniad i gyhoeddi yn golygu cyhoeddi ar-lein;
(b)
ystyr “deddfwriaeth Cymru” yw—
(i)
Mesur Cynulliad neu Ddeddf gan Senedd Cymru;
(ii)
offeryn statudol Cymreig.
Cofnod deddfwriaeth
37WCofnod o ddeddfwriaeth Cymru
(1)
Rhaid i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru gadw a chyhoeddi cofnod sy’n cynnwys—
(a)
yr wybodaeth y cyfeirir ati yn is-adran (2) am bob Deddf gan Senedd Cymru a gyhoeddir o dan adran 37M;
(b)
yr wybodaeth y cyfeirir ati yn is-adran (3) am bob offeryn statudol Cymreig a gyhoeddir o dan adran 37Q.
(2)
Yr wybodaeth (mewn perthynas â Deddfau Senedd Cymru) yw—
(a)
yr enw;
(b)
y flwyddyn galendr y cafodd y Cydsyniad Brenhinol;
(c)
y rhagddodiad a’r rhif a ysgrifennwyd ar y Ddeddf yn unol ag adran 37J;
(d)
y dyddiad y cyhoeddwyd y copi ardystiedig o’r print swyddogol o’r Ddeddf.
(3)
Yr wybodaeth (mewn perthynas ag offerynnau statudol Cymreig) yw—
(a)
yr enw;
(b)
y flwyddyn galendr y’i gwnaed;
(c)
y rhif a roddwyd iddo o dan adran 37P(2);
(d)
y dyddiad y cyhoeddwyd yr offeryn.
(4)
Yn yr adran hon mae’r gofyniad i gyhoeddi yn golygu cyhoeddi ar-lein.
37XStatws tystiolaethol y cofnod
Mewn unrhyw achos cyfreithiol mae’r dyddiad yn y cofnod a gyhoeddir yn unol ag adran 37W mewn cysylltiad ag offeryn statudol Cymreig i’w drin fel tystiolaeth derfynol o’r dyddiad y cyhoeddwyd yr offeryn am y tro cyntaf gan Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru.
Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru: argraffu a gwerthu
37YArgraffu a gwerthu deddfwriaeth Cymru a dogfennau cysylltiedig
(1)
Caiff Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru argraffu a gwerthu copïau o unrhyw un neu ragor o’r dogfennau a ganlyn—
(a)
Mesur Cynulliad;
(b)
Deddf gan Senedd Cymru;
(c)
offeryn statudol Cymreig;
(d)
drafft o offeryn statudol Cymreig;
(e)
nodiadau esboniadol ar gyfer Mesur Cynulliad neu Ddeddf gan Senedd Cymru;
(f)
unrhyw ddogfen arall sy’n gysylltiedig â Mesur Cynulliad neu Ddeddf gan Senedd Cymru, os yw Clerc y Senedd neu Weinidogion Cymru wedi gofyn am gyhoeddi’r ddogfen;
(g)
unrhyw ddogfen sy’n gysylltiedig ag offeryn statudol Cymreig, os yw’r awdurdod cyfrifol wedi gofyn am gyhoeddi’r ddogfen.
(2)
Mae is-adrannau (3) a (4) yn gymwys pan ddaw cais i law Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru gan unrhyw berson am gopi print o unrhyw un neu ragor o’r dogfennau a ganlyn—
(a)
Mesur Cynulliad;
(b)
Deddf gan Senedd Cymru;
(c)
offeryn statudol Cymreig, heblaw offeryn sydd wedi ei ddosbarthu’n offeryn lleol gan yr awdurdod cyfrifol;
(d)
nodiadau esboniadol ar gyfer Mesur Cynulliad neu Ddeddf gan Senedd Cymru, os yw Clerc y Senedd neu Weinidogion Cymru wedi gofyn am eu cyhoeddi.
(3)
Rhaid i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru argraffu copi o’r ddogfen a’i anfon i’r cyfeiriad a bennir gan y person a wnaeth y cais.
(4)
Ond caiff Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru osod tâl am argraffu ac anfon copi o ddogfen yn unol ag is-adran (2), ac nid oes rhaid iddo argraffu ac anfon copi o’r ddogfen hyd nes bod y tâl wedi ei dalu.
Cyhoeddi is-ddeddfwriaeth nas gwneir drwy offeryn statudol Cymreig
37ZGweinidogion Cymru i gyhoeddi is-ddeddfwriaeth nas gweir drwy offeryn statudol
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys i is-offeryn Cymreig, o fewn yr ystyr a roddir gan adran 3(2), nad yw ond yn cynnwys is-ddeddfwriaeth—
(a)
a wneir gan Weinidogion Cymru, a
(b)
nad yw’n ofynnol ei gwneud drwy offeryn statudol Cymreig (ac o ganlyniad nad yw’n ddarostyngedig i’r gofynion sy’n gymwys i offeryn o’r fath o dan y Rhan hon).
(2)
Rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi penderfyniad ynghylch rhifo a dosbarthu offerynnau statudol Cymreig y mae’r adran hon yn gymwys iddynt.
(3)
Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl gwneud offeryn o’r fath—
(a)
dyrannu rhif a blwyddyn i’r offeryn yn unol â’r penderfyniad,
(b)
dosbarthu’r offeryn yn unol â phwnc yr offeryn neu unrhyw fater arall y cyfeirir ato yn y penderfyniad, ac
(c)
cyhoeddi’r offeryn ar-lein.
Cyffredinol
37Z1Cyfeiriadau at offerynnau statudol Cymreig
Caniateir cyfeirio at offeryn statudol Cymreig—
(a)
yn ôl ei enw yn Gymraeg neu Saesneg (pa un a yw’r ddarpariaeth sy’n rhoi’r enw mewn grym ai peidio), neu
(b)
yn ôl y rhagddodiad “O.S.C.” a’i flwyddyn a rhif (er enghraifft “O.S.C. 2026/1”), pan mai—
(i)
y flwyddyn yw blwyddyn galendr y gyfres o offerynnau statudol Cymreig y dyrannwyd yr offeryn iddi yn unol ag adran 37P(1)(a);
(ii)
y rhif yw’r rhif a roddwyd i’r offeryn yn unol ag adran 37P(1)(b).
37Z2Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru: dirprwyo swyddogaethau
(1)
Caniateir i swyddogaeth a roddir i Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru o dan y Rhan hon gael ei chyflawni ar ran Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru gan berson arall sydd wedi ei awdurdodi gan Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru.
(2)
Pan fo swyddogaeth yn cael ei chyflawni gan berson arall yn rhinwedd is-adran (1)—
(a)
mae Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru yn parhau i fod yn gyfrifol am gyflawni’r swyddogaeth, a
(b)
mae unrhyw beth a wneir gan y person sydd wedi ei awdurdodi o dan yr is-adran honno yn unol â’r awdurdodiad i’w drin fel pe bai wedi ei wneud gan Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru.
RHAN 3AMRYWIOL
38Pŵer i ddisodli disgrifiadau o ddyddiadau ac amseroedd yn neddfwriaeth Cymru
(1)
Pan fo darpariaeth mewn unrhyw ddeddfwriaeth y mae’r adran hon yn gymwys iddi yn disgrifio dyddiad neu amser drwy gyfeirio at ddyfodiad deddfiad i rym neu unrhyw ddigwyddiad arall, caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r ddarpariaeth drwy reoliadau fel ei bod yn cyfeirio at y gwir ddyddiad neu amser (unwaith y bydd yn hysbys).
(2)
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) hefyd—
(a)
diwygio’r ddeddfwriaeth er mwyn cynnwys esboniad o’r dyddiad neu’r amser y maent yn ei fewnosod;
(b)
gwneud diwygiad canlyniadol sy’n diwygio, yn diddymu, neu’n dirymu unrhyw ddeddfiad.
(3)
Mae’r adran hon yn gymwys i’r ddeddfwriaeth a ganlyn (pryd bynnag y’i deddfir neu i’i gwneir)—
(a)
F1Deddfau Senedd Cymru a Mesurau’r Cynulliad;
(b)
is-ddeddfwriaeth a wneir o dan F1Ddeddfau Senedd Cymru a Mesurau’r Cynulliad;
(c)
unrhyw is-ddeddfwriaeth arall a wneir gan Weinidogion Cymru neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru a sefydlwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38) nad yw ond yn gymwys o ran Cymru;
(d)
unrhyw ddeddfiad arall, i’r graddau y caiff ei ddiwygio gan ddeddfwriaeth a grybwyllir ym mharagraff (a), (b) neu (c).
39Pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth ar ffurfiau gwahanol
(1)
(2)
Nid yw hyn yn effeithio ar y weithdrefn ar gyfer gwneud offeryn statudol F57Cymreig sy’n cynnwys yr is-ddeddfwriaeth.
(3)
Mae cyfeiriad mewn unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen at reoliadau, rheolau neu orchymyn a wneir o dan y pŵer neu’r ddyletswydd yn cynnwys is-ddeddfwriaeth a wneir odano neu odani mewn unrhyw ffurf arall drwy ddibynnu ar is-adran (1).
(4)
Nid yw is-adran (1) yn gymwys i is-ddeddfwriaeth—
(a)
a wneir o dan Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig neu ddeddfwriaeth uniongyrchol F58a gymathwyd, a
(b)
sy’n gymwys ac eithrio o ran Cymru.
F6040Cyfuno is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i weithdrefnau gwahanol yn y F59Senedd
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F6140ACymhwyso'r Rhan hon mewn perthynas â pharth Cymru
Mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â physgota, pysgodfeydd neu iechyd pysgod, mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at Gymru yn cynnwys yr ardal o barth Cymru sydd y tu hwnt i derfynau atfor y môr tiriogaethol.”
RHAN 4CYFFREDINOL
41Diwygiadau canlyniadol a diddymiadau
Mae Atodlen 2 yn cynnwys diwygiadau canlyniadol a diddymiadau.
42Pŵer i wneud darpariaeth ychwanegol i roi effaith lawn i’r Ddeddf hon
(1)
Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddiben rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, neu o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth o’r fath, cânt drwy reoliadau wneud—
(a)
darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig neu ddarpariaeth ganlyniadol;
(b)
darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.
(2)
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio, diddymu, dirymu neu addasu fel arall unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys darpariaeth yn y Ddeddf hon).
F6242AAdolygu Rhannau 2A a 2B o’r Ddeddf hon
(1)
Rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol adolygu gweithrediad ac effaith Rhannau 2A a 2B.
(2)
Rhaid i’r adolygiad gael ei gynnal yn ystod y cyfnod—
(a)
sy’n dechrau ddwy flynedd ar ôl y diwrnod y daw’r Rhannau hynny i rym, a
(b)
sy’n dod i ben heb fod yn hwyrach na thair blynedd ar ôl y diwrnod hwnnw.
(3)
Fel rhan o’r adolygiad, rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol ymgynghori â’r Llywydd a Chlerc y Senedd, ac unrhyw berson arall y mae’r Cwnsler Cyffredinol yn ei ystyried yn briodol.
(4)
Rhaid i’r adroddiad blynyddol nesaf a lunnir gan y Cwnsler Cyffredinol o dan adran 2(7) ar ôl i’r adolygiad gael ei gwblhau gynnwys—
(a)
gwybodaeth am y materion a ystyriwyd fel rhan o’r adolygiad, a
(b)
casgliadau’r Cwnsler Cyffredinol.
F6343Rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf hon
(1)
Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon—
(a)
yn arferadwy drwy offeryn statudol Cymreig;
(b)
yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.
(2)
Mae rheoliadau a wneir o dan y darpariaethau a ganlyn yn ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd—
(a)
adran 6(2);
(b)
adran 37F(2)(c);
(c)
adran 42(1), pan fo’r rheoliadau yn diwygio, yn diddymu neu’n addasu fel arall unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf gan Senedd Cymru, Mesur Cynulliad neu Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig;
(d)
paragraff 6(3)(c) o Atodlen 1A.
(3)
Mae rheoliadau a wneir o dan y darpariaethau a ganlyn yn ddarostyngedig i weithdrefn annilysu’r Senedd—
(a)
adran 42(1), oni bai bod is-adran (2)(c) o’r adran hon yn gymwys;
(b)
paragraff 7 o Atodlen 1A;
(c)
paragraff 16 o Atodlen 1B;
(d)
paragraff 13 o Atodlen 1C.
44Y Ddeddf hon yn dod i rym
(1)
Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—
(a)
Rhan 1;
(b)
adran 6(2) a (3);
(c)
y darpariaethau eraill yn Rhan 2, i’r graddau y maent yn gymwys i’r Ddeddf hon;
(d)
Rhan 3;
(e)
y Rhan hon.
(2)
I’r graddau nad yw wedi cael ei dwyn i rym gan is-adran (1), daw Rhan 2 i rym ar ddiwrnod a benodir drwy orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.
(3)
O ran gorchymyn o dan is-adran (2)—
(a)
rhaid ei wneud drwy offeryn statudol;
(b)
caiff gynnwys ddarpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.
45Enw byr
Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019.
ATODLEN 1DIFFINIADAU O EIRIAU AC YMADRODDION
F64Aelod o’r Senedd (Member of the Senedd) | mae “Aelod o’r Senedd” i’w ddehongli yn unol ag adran 1(2A) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) |
Aelod-wladwriaeth (member State) | ystyr “Aelod-wladwriaeth” yw Gwladwriaeth sy’n aelod o’r Undeb Ewropeaidd |
Arglwydd Ganghellor (Lord Chancellor) | ystyr “Arglwydd Ganghellor” yw Arglwydd Uchel Ganghellor Prydain Fawr |
Awdurdod Cyllid Cymru (Welsh Revenue Authority) | ystyr “Awdurdod Cyllid Cymru” yw’r awdurdod a sefydlwyd gan adran 2 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6) |
Banc Lloegr (Bank of England) | ystyr “Banc Lloegr”, yn unol â gofynion y cyd-destun, yw—
|
blwyddyn ariannol (financial year) | ystyr “blwyddyn ariannol” yw blwyddyn sy’n gorffen â 31 Mawrth |
Bwrdd Iechyd Lleol (Local Health Board) | ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” yw Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42) |
F65. . . | F65. . . |
F66Cod Dedfrydu (Sentencing Code) | ystyr “Cod Dedfrydu” yw’r cod sydd wedi ei gynnwys yn Neddf Dedfrydu 2020 (p. 17) (gweler adran 1 o’r Ddeddf honno) |
Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (Equality and Human Rights Commission) | ystyr “Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol” yw’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a sefydlwyd gan adran 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2006 (p. 3) |
Comisiwn Elusennau (Charity Commission) | ystyr “Comisiwn Elusennau” yw Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr, a barheir gan adran 13 o Ddeddf Elusennau 2011 (p. 25) |
F64Comisiwn y Senedd (Senedd Commission) | ystyr “Comisiwn y Senedd” yw’r Comisiwn a sefydlwyd gan adran 27 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (ac a enwyd yn wreiddiol yn Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru) |
Cwnsler Cyffredinol (Counsel General) | ystyr “Cwnsler Cyffredinol” yw Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru, a benodir o dan adran 49 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) |
Cyfoeth Naturiol Cymru (Natural Resources Wales) | ystyr “Cyfoeth Naturiol Cymru” yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru, a sefydlwyd gan erthygl 3 o Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 (O.S. 2012/1903 (Cy. 230)) |
F67cyfraith a gymathwyd (assimilated law) | F67mae i “cyfraith a gymathwyd” yr ystyr a roddir i “assimilated law” gan adran 6(7) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) (gweler hefyd baragraff 7 o Atodlen 1 i Ddeddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 (p. 2) ac adran 5 o Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023) |
y Cyfrin Gyngor (the Privy Council) | ystyr “y Cyfrin Gyngor” yw’r Arglwyddi ac eraill o Dra Anrhydeddus Gyfrin Gyngor Ei Mawrhydi |
Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (Her Majesty’s Revenue and Customs) | mae i “Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ” yr ystyr a roddir gan adran 4 o Ddeddf y Comisiynwyr Cyllid a Thollau 2005 (p. 11) (a gweler adrannau 3(5) ac 11(4) o Ddeddf Ffiniau, Dinasyddiaeth a Mewnfudo 2009 (p. 11), sy’n darparu i gyfeiriadau at Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi gynnwys swyddogion penodol sydd wedi eu dynodi o dan y Ddeddf honno) |
Cymru (Wales) | ystyr ”Cymru” yw—
ac mae’r cwestiwn ynghylch pa rannau o’r môr sy’n gyfagos i Gymru i’w benderfynu yn unol ag erthygl 6 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) |
F65. . . | F65. . . |
cytundeb yr AEE (EEA agreement) | ystyr “cytundeb yr AEE” yw’r cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992, ynghyd â’r Protocol sy’n amrywio’r Cytundeb hwnnw a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993, fel y’i haddesir neu yr ychwanegir ato o bryd i’w gilydd; ond mewn perthynas ag amser ar neu ar ôl F68diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu nid yw’n cynnwys unrhyw deddfwriaeth uniongyrchol F69a gymathwyd |
y Cytuniadau (the Treaties) neu Cytuniadau’r UE (the EU Treaties) | mae i “y Cytuniadau” neu “Cytuniadau’r UE”—
|
datganiad statudol (statutory declaration) | ystyr “datganiad statudol” yw datganiad a wneir yn rhinwedd Deddf Datganiadau Statudol 1835 (p. 62) |
F65. . . | F65. . . |
F64Deddf gan Senedd Cymru (Act of Senedd Cymru) | ystyr “Deddf gan Senedd Cymru” yw Deddf a ddeddfir o dan Ran 4 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (pa un ai fel Deddf gan Senedd Cymru neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru) |
F64Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig (Act of the Parliament of the United Kingdom) | mae “Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig” yn cynnwys Deddf gan Senedd Prydain Fawr neu gan Senedd Lloegr |
deddfiad (enactment) | ystyr “deddfiad” yw unrhyw un o’r canlynol neu ddarpariaeth mewn unrhyw un o’r canlynol— |
F71deddfwriaeth uniongyrchol a gymathwyd (assimilated direct legislation) | F71mae i “deddfwriaeth uniongyrchol a gymathwyd” yr ystyr a roddir i “assimilated direct legislation” gan adran 20(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) (gweler hefyd baragraff 7 o Atodlen 1 i Ddeddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 (p. 2) ac adran 5 o Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023) |
y Deyrnas Unedig (United Kingdom) | ystyr “y Deyrnas Unedig” yw Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon |
F72diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu (implementation period completion day) | mae i “diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu” yr ystyr sydd i “IP completion day” o fewn ystyr Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1), ac mae ymadroddion perthynol i'w dehongli yn unol â hynny (gweler adran 39(1) i (5) o'r Ddeddf honno) |
diwrnod gwaith (working day) | ystyr “diwrnod gwaith” yw unrhyw ddiwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith nac yn ddiwrnod sy’n ŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971 (p. 80) |
diwrnod ymadael (exit day) | mae “diwrnod ymadael” ac ymadroddion perthynol i’w dehongli yn unol ag “exit day” yn adran 20(1) i (5) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) |
Goruchaf Lys (Supreme Court) | ystyr “Goruchaf Lys”yw Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig a sefydlwyd gan adran 23 o Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005 (p. 4) |
graddfa safonol (standard scale) | mae i “graddfa safonol”, mewn perthynas â dirwy neu gosb am drosedd ddiannod, yr ystyr a roddir i “standard scale” F73—
|
Gweinidog y Goron (Minister of the Crown) | ystyr “Gweinidog y Goron” yw deiliad swydd yn Llywodraeth Ei Mawrhydi yn y Deyrnas Unedig, ac mae’n cynnwys y Trysorlys |
Gweinidogion Cymru (the Welsh Ministers) | mae “Gweinidogion Cymru” i’w ddehongli yn unol ag adran 45(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (sy’n darparu bod cyfeiriadau at Weinidogion Cymru yn gyfeiriadau at y Prif Weinidog a Gweinidogion Cymru a benodir o dan adran 48 o’r Ddeddf honno) |
gwladwriaeth AEE (EEA state) | ystyr “gwladwriaeth AEE”, mewn perthynas ag unrhyw bryd, yw—
|
is-ddeddfwriaeth (subordinate legislation) | ystyr “is-ddeddfwriaeth” yw rheoliadau, gorchmynion, rheolau, Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor, cynlluniau, gwarantau, isddeddfau ac offerynnau eraill a wneir o dan— |
Lloegr (England) | mae i “Lloegr” yr ystyr a roddir i “England” gan Atodlen 1 i Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30) |
llw (oath), affidafid (affidavit), a tyngu llw (swear) | mae “llw” ac “affidafid” yn cynnwys cadarnhad a datganiad; ac mae “tyngu llw” yn cynnwys cadarnhau a datgan |
Llys Apêl (Court of Appeal) | ystyr “Llys Apêl” yw Llys Apêl Ei Mawrhydi yng Nghymru a Lloegr |
Llys Ewropeaidd (European Court) | ystyr “Llys Ewropeaidd” yw Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd |
Llys y Goron (Crown Court) | ystyr “Llys y Goron” yw Llys y Goron yng Nghymru a Lloegr a sefydlwyd yn wreiddiol gan adran 4 o Ddeddf y Llysoedd 1971 (p. 23) (a ddiddymwyd gan Ddeddf Uwchlysoedd 1981 (p. 54)) |
Llys Gwarchod (Court of Protection) | ystyr “Llys Gwarchod” yw’r Llys Gwarchod a sefydlwyd gan adran 45 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p. 9) |
llys sirol (county court) | ystyr “llys sirol” yw’r llys sirol yng Nghymru a Lloegr, a sefydlwyd gan adran A1 o Ddeddf Llysoedd Sirol 1984 (p. 28) |
llys teulu (family court) | ystyr “llys teulu” yw’r llys teulu yng Nghymru a Lloegr, a sefydlwyd gan adran 31A o Ddeddf Achosion Priodasol a Theuluol 1984 (p. 42) |
llys ynadon (magistrates’ court) | ystyr “llys ynadon” yw llys ynadon, o fewn yr ystyr a roddir i “magistrates’ court” gan adran 148 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p. 43), yng Nghymru a Lloegr |
Llywodraeth Cymru (Welsh Government) | mae “Llywodraeth Cymru” i’w ddehongli yn unol ag adran 45(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) |
F74mân ddeddfwriaeth uniongyrchol a gymathwyd (assimilated direct minor legislation) prif ddeddfwriaeth uniongyrchol a gymathwyd (assimilated direct principal legislation) | F74mae i “mân ddeddfwriaeth uniongyrchol a gymathwyd” yr ystyr a roddir i “assimilated direct minor legislation” ac mae i “prif ddeddfwriaeth uniongyrchol a gymathwyd” yr ystyr a roddir i “assimilated direct principal legislation” gan adran 20(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) (gweler hefyd baragraff 7 o Atodlen 1 i Ddeddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 (p. 2) ac adran 5 o Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023) |
Mesur Cynulliad (Assembly Measure) | ystyr “Mesur Cynulliad” yw Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a ddeddfwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (a beidiodd â chael effaith yn rhinwedd adran 106 o’r Ddeddf honno, yn ddarostyngedig i’r arbediad a barheir gan baragraff 5 o Atodlen 7 i Ddeddf Cymru 2017 (p. 4)) |
mis (month) | ystyr “mis” yw mis calendr |
offeryn UE (EU instrument) | ystyr “offeryn UE” yw unrhyw offeryn a ddyroddir gan sefydliad UE, ond mewn perthynas ag amser ar neu ar ôl F75diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu nid yw’n cynnwys unrhyw ddeddfwriaeth uniongyrchol F69a gymathwyd |
F76parth Cymru (Welsh zone) | mae i “parth Cymru” yr ystyr a roddir i “Welsh zone” gan adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (a gweler erthygl 3 o Orchymyn Parth Cymru (Ffiniau a Throsglwyddo Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/760), sy'n gwneud darpariaeth ynghylch terfynau'r parth)”. |
person (person) | mae “person” yn cynnwys corff o bersonau corfforedig neu anghorfforedig |
Prif Weinidog (First Minister) | ystyr “Prif Weinidog” yw Prif Weinidog Cymru a benodir o dan adran 46(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (a gweler adran 45(2) o’r Ddeddf honno, sy’n darparu bod cyfeiriadau at Weinidogion Cymru yn cynnwys y Prif Weinidog) |
F66Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (Public Accounts Committee) | ystyr “Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus” yw pwyllgor Senedd Cymru a sefydlwyd yn unol ag adran 30 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (ac y cyfeirir ato yn yr adran honno fel y “Pwyllgor Archwilio”) |
rheolau llys (rules of court) | ystyr “rheolau llys”, mewn perthynas ag unrhyw lys, yw rheolau a wneir gan yr awdurdod a chanddo’r pŵer i wneud rheolau neu orchmynion sy’n rheoleiddio arferion a threfniadaeth y llys hwnnw |
F77rhwymedigaeth a gymathwyd (assimilated obligation) | F77ystyr “rhwymedigaeth a gymathwyd” yw rhwymedigaeth—
fel y’i haddesir o bryd i’w gilydd |
sefydliad UE (EU institution) | ystyr “sefydliad UE” yw unrhyw un o sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd |
F64Senedd Cymru (Senedd Cymru) | ystyr “Senedd Cymru” yw’r senedd ar gyfer Cymru a sefydlwyd gan adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (ac a enwyd yn wreiddiol yn Gynulliad Cenedlaethol Cymru) |
tir (land) | mae “tir” yn cynnwys adeiladau a strwythurau eraill, tir a orchuddir â dŵr, ac unrhyw ystad, buddiant, hawddfraint, gwasanaethfraint, hawl mewn tir neu hawl dros dir |
tribiwnlys Cymreig (Welsh tribunal) | mae i “tribiwnlys Cymreig” yr ystyr a roddir i “Welsh tribunal” gan adran 59(1) o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4) |
trosedd ddiannod (summary offence) | ystyr “trosedd ddiannod” yw trosedd, os y’i cyflawnir gan oedolyn, na ellir ei rhoi ar brawf ond yn ddiannod—
|
trosedd dditiadwy (indictable offence) | ystyr “trosedd dditiadwy” yw—
|
trosedd neillffordd (offence triable either way) | ystyr “trosedd neillffordd” yw trosedd, os y’i cyflawnir gan oedolyn, y gellir ei rhoi ar brawf naill ai ar dditiad neu’n ddiannod—
|
y Trysorlys (the Treasury) | ystyr “y Trysorlys” yw Comisiynwyr Trysorlys Ei Mawrhydi |
Uchel Lys (High Court) | ystyr “Uchel Lys”yw Uchel Lys Barn Ei Mawrhydi yng Nghymru a Lloegr |
yr UE (the EU) neu yr Undeb Ewropeaidd (the European Union) | ystyr “yr UE” neu “yr Undeb Ewropeaidd” yw’r Undeb a sefydlwyd gan y Cytuniad ar Undeb Ewropeaidd a lofnodwyd yn Maastricht ar 7 Chwefror 1992, fel y’i diwygiwyd gan unrhyw Gytuniad diweddarach; ac mae’n cynnwys, i’r graddau y mae’r cyd-destun yn ei chaniatáu neu’n ei gwneud yn ofynnol, Cymuned Ynni Atomig Ewrop |
Uwchlysoedd (Senior Courts) | ystyr “Uwchlysoedd” yw Uwchlysoedd Cymru a Lloegr (gweler adran 1 o Ddeddf Uwchlysoedd 1981 (p. 54)) |
F66Ymddiriedolaeth Genedlaethol (National Trust) | ystyr “Ymddiriedolaeth Genedlaethol” yw’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol dros Fannau o Ddiddordeb Hanesyddol neu Harddwch Naturiol a gorfforwyd gan Ddeddf yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol 1907 (p. cxxxvi) |
ysgrifennu (writing) | mae “ysgrifennu” yn cynnwys teipio, argraffu, lithograffi, ffotograffiaeth a dulliau eraill o gynrychioli neu atgynhyrchu geiriau ar ffurf weladwy |
Ysgrifennydd Gwladol (Secretary of State) | ystyr “Ysgrifennydd Gwladol”yw un o Brif Ysgrifenyddion Gwladol Ei Mawrhydi |
F78ATODLEN 1ACYMHWYSO RHAN 2A I DDEDDFIADAU CYN-GYCHWYN
Dehongli
1
Yn yr Atodlen hon—
ystyr “deddfiad cyn-gychwyn” (“pre-commencement enactment”) yw deddfiad a ddeddfwyd neu a wnaed cyn i Ran 2A ddod i rym, ac
ystyr “offeryn statudol” yw offeryn statudol o fewn yr ystyr a roddir i “statutory instrument” gan adran 1 o Ddeddf Offerynnau Statudol 1946 (p. 36).
Cymhwyso’r Atodlen
2
Mae’r Atodlen hon yn gymwys mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth Cymru (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 37A(2)) sydd i’w gwneud drwy offeryn statudol o dan ddeddfiad cyn-gychwyn.
Offerynnau na chaniateir eu gwneud neu na chânt ddod i rym oni bai bod drafft yn cael ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad
3
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad cyn-gychwyn yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu—
(a)
na chaniateir gwneud yr is-ddeddfwriaeth oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n ei chynnwys yn cael ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad, neu
(b)
y caniateir gwneud yr is-ddeddfwriaeth ond na chaiff ddod i rym oni bai bod yr offeryn statudol sy’n ei chynnwys yn cael ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
(2)
Mae’r deddfiad cyn-gychwyn i’w ddarllen fel pe bai’n darparu, yn lle hynny, i’r is-ddeddfwriaeth—
(a)
bod yn ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37C, a
(b)
cael ei gwneud drwy offeryn statudol Cymreig.
Offerynnau y caniateir eu gwneud ond y mae rhaid eu cadarnhau drwy benderfyniad gan Senedd Cymru
4
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad cyn-gychwyn yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu, y caniateir gwneud yr is-ddeddfwriaeth a’i gosod gerbron Senedd Cymru ond ei bod yn peidio â chael effaith oni bai bod yr offeryn statudol sy’n ei chynnwys yn cael ei gadarnhau drwy benderfyniad gan Senedd Cymru cyn bod—
(a)
cyfnod a bennir yn y deddfiad yn dod i ben, neu
(b)
digwyddiad a bennir yn y deddfiad.
(2)
Mae’r deddfiad cyn-gychwyn i’w ddarllen fel pe bai’n darparu, yn lle hynny, i’r is-ddeddfwriaeth—
(a)
bod yn ddarostyngedig i weithdrefn gadarnhau’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37D, a
(b)
cael ei gwneud drwy offeryn statudol Cymreig.
Offerynnau y caniateir eu gwneud ond sy’n ddarostyngedig i’w hannilysu drwy benderfyniad gan Senedd Cymru
5
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad cyn-gychwyn yn darparu neu’n cael yr effaith o ddarparu—
(a)
bod yr is-ddeddfwriaeth neu’r offeryn statudol sy’n ei chynnwys yn ddarostyngedig i’w hannilysu neu ei annilysu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru, neu
(b)
y caniateir gosod drafft o’r is-ddeddfwriaeth neu’r offeryn statudol sy’n ei chynnwys gerbron Senedd Cymru ond na chaniateir ei gwneud neu ei wneud os yw Senedd Cymru yn penderfynu na ddylid ei gwneud neu ei wneud o fewn 40 niwrnod i’w gosod neu i’w osod.
(2)
Mae’r deddfiad cyn-gychwyn i’w ddarllen fel pe bai’n darparu, yn lle hynny, i’r is-ddeddfwriaeth—
(a)
bod yn ddarostyngedig i weithdrefn annilysu’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37E, a
(b)
cael ei gwneud drwy offeryn statudol Cymreig.
Offerynnau eraill sydd i’w gosod gerbron Senedd Cymru
6
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan na fo’r deddfiad cyn-gychwyn yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu, fod yr is-ddeddfwriaeth, neu’r offeryn statudol sy’n ei chynnwys, yn ddarostyngedig i unrhyw un o’r gweithdrefnau y cyfeirir atynt ym mharagraffau 3, 4 neu 5.
(2)
Mae’r deddfiad cyn-gychwyn i’w ddarllen fel pe bai—
(a)
yn darparu i’r is-ddeddfwriaeth gael ei gwneud drwy offeryn statudol Cymreig;
(b)
yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu, fod rhaid gosod yr offeryn statudol sy’n cynnwys yr is-ddeddfwriaeth gerbron Senedd Cymru (pa un a yw’r deddfiad eisoes yn darparu ar gyfer hyn ai peidio).
(3)
Ond nid yw is-baragraff (2)(b) yn gymwys i offeryn statudol—
(a)
sydd wedi ei ddosbarthu’n offeryn lleol gan yr awdurdod cyfrifol,
(b)
sy’n ddarostyngedig i weithdrefn arbennig y Senedd, neu
(c)
sydd wedi ei wneud o dan ddeddfiad a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.
(4)
Yn is-baragraff (3)(b), ystyr “gweithdrefn arbennig y Senedd” yw’r weithdrefn a bennir yn rheolau sefydlog Senedd Cymru ar gyfer is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i weithdrefn arbennig y Senedd.
Pŵer i wneud diwygiadau sy’n ganlyniadol ar yr Atodlen hon
7
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio unrhyw ddeddfiad i adlewyrchu effaith yr Atodlen hon, neu i wneud darpariaeth sy’n ganlyniadol arni.
ATODLEN 1BCYMHWYSO RHAN 2A I DDEDDFWRIAETH AR Y CYD NEU DDEDDFWRIAETH GYFANSAWDD
RHAN 1DEHONGLI
Dehongli
1
Yn yr Atodlen hon—
ystyr “deddfiad cyn-gychwyn” (“pre-commencement enactment”) yw deddfiad a ddeddfwyd neu a wnaed cyn i Ran 2A ddod i rym;
ystyr “deddfiad ôl-gychwyn” (“post-commencement enactment”) yw deddfiad a ddeddfwyd neu a wnaed ar ôl i Ran 2A ddod i rym;
ystyr “offeryn statudol” yw offeryn statudol o fewn yr ystyr a roddir i “statutory instrument” gan adran 1 o Ddeddf Offerynnau Statudol 1946 (p. 36).
RHAN 2OFFERYNNAU AR Y CYD NEU OFFERYNNAU CYFANSAWDD A WNEIR O DAN DDEDDFIADAU CYN-GYCHWYN
Cymhwyso’r Rhan
2
Mae’r Rhan hon yn gymwys mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth sydd i’w gwneud o dan ddeddfiad cyn-gychwyn—
(a)
gan Weinidogion Cymru a pherson arall, heblaw awdurdod Cymreig datganoledig (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” gan adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32));
(b)
drwy offeryn statudol.
Offerynnau na chaniateir eu gwneud neu na chânt ddod i rym oni bai bod drafft yn cael ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad
3
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad cyn-gychwyn yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu—
(a)
na chaniateir gwneud yr is-ddeddfwriaeth oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n ei chynnwys yn cael ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad, neu
(b)
y caniateir gwneud yr is-ddeddfwriaeth ond na chaiff ddod i rym oni bai bod yr offeryn statudol sy’n ei chynnwys yn cael ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
(2)
Mae’r deddfiad cyn-gychwyn i’w ddarllen fel pe bai’n darparu, yn lle hynny, i’r is-ddeddfwriaeth fod yn ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37C, fel y’i haddesir ym mharagraff 12.
Offerynnau y caniateir eu gwneud ond y mae rhaid eu cadarnhau drwy benderfyniad gan Senedd Cymru
4
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad cyn-gychwyn yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu, y caniateir gwneud yr is-ddeddfwriaeth a’i gosod gerbron Senedd Cymru, ond ei bod yn peidio â chael effaith oni bai bod yr offeryn statudol sy’n ei chynnwys yn cael ei gadarnhau drwy benderfyniad gan Senedd Cymru cyn bod—
(a)
cyfnod a bennir yn y deddfiad yn dod i ben, neu
(b)
digwyddiad a bennir yn y deddfiad.
(2)
Mae’r deddfiad cyn-gychwyn i’w ddarllen fel pe bai’n darparu, yn lle hynny, i’r is-ddeddfwriaeth fod yn ddarostyngedig i weithdrefn gadarnhau’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37D, fel y’i haddesir ym mharagraff 13.
Offerynnau y caniateir eu gwneud ond sy’n ddarostyngedig i’w hannilysu drwy benderfyniad gan Senedd Cymru
5
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad cyn-gychwyn yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu—
(a)
bod offeryn statudol sy’n cynnwys is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i’w annilysu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru, neu
(b)
y caniateir gosod drafft o offeryn statudol sy’n cynnwys is-ddeddfwriaeth gerbron Senedd Cymru ond na chaniateir ei wneud os yw Senedd Cymru’n penderfynu na ddylid ei wneud o fewn 40 niwrnod i’w osod.
(2)
Mae’r deddfiad cyn-gychwyn i’w ddarllen fel pe bai’n darparu, yn lle hynny, i’r is-ddeddfwriaeth fod yn ddarostyngedig i weithdrefn annilysu’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37E, fel y’i haddesir ym mharagraff 14.
Offerynnau eraill sydd i’w gosod gerbron Senedd Cymru
6
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan na fo’r deddfiad cyn-gychwyn yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu, fod offeryn statudol sy’n cynnwys is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i unrhyw un o’r gweithdrefnau y cyfeirir atynt ym mharagraffau 3, 4 neu 5.
(2)
Mae’r deddfiad cyn-gychwyn i’w ddarllen fel pe bai’n darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu, fod rhaid gosod yr is-ddeddfwriaeth, neu’r offeryn statudol sy’n ei chynnwys, gerbron Senedd Cymru (pa un a yw’r deddfiad eisoes yn darparu ar gyfer hyn ai peidio) yn unol ag adran 37F, fel y’i haddesir ym mharagraff 15.
RHAN 3OFFERYNNAU AR Y CYD NEU OFFERYNNAU CYFANSAWDD A WNEIR O DAN DDEDDFIADAU ÔL-GYCHWYN
Cymhwyso’r Rhan
7
Mae’r Rhan hon yn gymwys mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth sydd i’w gwneud o dan ddeddfiad ôl-gychwyn—
(a)
gan Weinidogion Cymru a pherson arall, heblaw awdurdod Cymreig datganoledig (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” gan adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32));
(b)
drwy offeryn statudol.
Cymhwyso gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd
8
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad ôl-gychwyn yn darparu bod yr is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i “gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd”.
(2)
Mae’r is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37C, fel y’i haddesir ym mharagraff 12.
Cymhwyso gweithdrefn gadarnhau’r Senedd
9
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad ôl-gychwyn yn darparu bod yr is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i “gweithdrefn gadarnhau’r Senedd”.
(2)
Mae’r is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i weithdrefn gadarnhau’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37D, fel y’i haddesir ym mharagraff 13.
Cymhwyso gweithdrefn annilysu’r Senedd
10
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad ôl-gychwyn yn darparu bod yr is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i “gweithdrefn annilysu’r Senedd”.
(2)
Mae’r is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i weithdrefn annilysu’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37E, fel y’i haddesir ym mharagraff 14.
Cymhwyso’r gofyniad i osod offeryn statudol gerbron Senedd Cymru
11
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan na fo’r deddfiad ôl-gychwyn yn darparu bod yr is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i—
(a)
gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd,
(b)
gweithdrefn gadarnhau’r Senedd, nac
(c)
gweithdrefn annilysu’r Senedd.
(2)
Rhaid gosod yr offeryn statudol sy’n cynnwys yr is-ddeddfwriaeth gerbron Senedd Cymru (pa un a yw’r deddfiad eisoes yn darparu ar gyfer hyn ai peidio) yn unol ag adran 37F, fel y’i haddesir ym mharagraff 15.
RHAN 4GWEITHDREFNAU ADDASEDIG YN Y SENEDD AR GYFER OFFERYNNAU AR Y CYD NEU OFFERYNNAU CYFANSAWDD
Gweithdrefn gymeradwyo addasedig y Senedd
12
(1)
Mae is-baragraff (2) yn addasiad i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd yn adran 37C sy’n gymwys i’r is-ddeddfwriaeth y mae’r Atodlen hon yn gymwys iddi.
(2)
Ni chaniateir gwneud yr is-ddeddfwriaeth oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n ei chynnwys wedi ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
Gweithdrefn gadarnhau addasedig y Senedd
13
(1)
Mae is-baragraffau (2) i (6) yn addasiad i weithdrefn gadarnhau’r Senedd yn adran 37D sy’n gymwys i’r is-ddeddfwriaeth y mae’r Atodlen hon yn gymwys iddi.
(2)
Rhaid gosod yr offeryn statudol sy’n cynnwys yr is-ddeddfwriaeth gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r is-ddeddfwriaeth gael ei gwneud.
(3)
Ond mae’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys yn yr offeryn statudol yn peidio â chael effaith os na chaiff ei chadarnhau drwy benderfyniad gan Senedd Cymru cyn bod—
(a)
cyfnod a bennir yn y deddfiad yn dod i ben, neu
(b)
digwyddiad a bennir yn y deddfiad.
(4)
Pan fo’r is-ddeddfwriaeth yn peidio â chael effaith o dan is-baragraff (3)—
(a)
i’r graddau nad yw’r is-ddeddfwriaeth mewn grym pan fydd yn peidio â chael effaith, ni ddaw’r is-ddeddfwriaeth i rym ar ôl y dyddiad hwnnw (er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth ynddi ar gyfer dod i rym yr is-ddeddfwriaeth),
(b)
i’r graddau y mae’r is-ddeddfwriaeth mewn grym ar y dyddiad hwnnw, nid oes unrhyw beth pellach i’w wneud neu i’w barhau o dan yr is-ddeddfwriaeth, neu gan ddibynnu arni, ar ôl y dyddiad hwnnw, ac
(c)
caiff Ei Fawrhydi, drwy Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor, ddirymu’r offeryn.
(5)
Ond nid yw hyn yn effeithio ar—
(a)
dilysrwydd unrhyw beth a wnaed yn flaenorol o dan yr is-ddeddfwriaeth, na
(b)
gwneud is-ddeddfwriaeth newydd.
(6)
Mae Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor o dan is-baragraff (4)(c) i’w wneud drwy offeryn statudol.
Gweithdrefn annilysu addasedig y Senedd
14
(1)
Mae is-baragraffau (2) i (9) yn addasiad i weithdrefn annilysu’r Senedd yn adran 37E sy’n gymwys i’r is-ddeddfwriaeth y mae’r Atodlen hon yn gymwys iddi.
(2)
Rhaid gosod yr offeryn statudol sy’n cynnwys yr is-ddeddfwriaeth gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r is-ddeddfwriaeth gael ei gwneud, ac mae is-baragraff (6) yn gymwys os na osodir yr offeryn gerbron Senedd Cymru o leiaf 21 o ddiwrnodau cyn i’r is-ddeddfwriaeth ddod i rym.
(3)
Caiff Senedd Cymru, cyn diwedd y 40 niwrnod sy’n dechrau â’r dyddiad y gosodir yr offeryn statudol ger ei bron, benderfynu annilysu’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys yn yr offeryn.
(4)
Pan gaiff yr is-ddeddfwriaeth ei hannilysu—
(a)
i’r graddau nad yw’r is-ddeddfwriaeth mewn grym ar ddyddiad y penderfyniad, ni ddaw’r is-ddeddfwriaeth i rym ar ôl y dyddiad hwnnw (er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth ynddi ar gyfer dod i rym yr is-ddeddfwriaeth),
(b)
i’r graddau y mae’r is-ddeddfwriaeth mewn grym ar y dyddiad hwnnw, nid oes unrhyw beth pellach i’w wneud neu i’w barhau o dan yr is-ddeddfwriaeth, neu gan ddibynnu arni, ar ôl y dyddiad hwnnw, ac
(c)
caiff Ei Fawrhydi, drwy Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor, ddirymu’r offeryn.
(5)
Ond nid yw hyn yn effeithio ar—
(a)
dilysrwydd unrhyw beth a wnaed yn flaenorol o dan yr is-ddeddfwriaeth, na
(b)
gwneud is-ddeddfwriaeth newydd.
(6)
Os yw’r is-baragraff hwn yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru egluro i’r Llywydd pam na osodwyd yr offeryn statudol o leiaf 21 o ddiwrnodau cyn i’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys ynddo ddod i rym.
(7)
Rhaid rhoi’r eglurhad i’r Llywydd yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r offeryn gael ei osod gerbron y Senedd.
(8)
Wrth gyfrifo’r cyfnod o 21 o ddiwrnodau a grybwyllir yn is-baragraff (2), neu’r cyfnod o 40 niwrnod a grybwyllir yn is-baragraff (3), nid yw unrhyw amser pan fydd Senedd Cymru wedi ei diddymu neu ar doriad am fwy na phedwar diwrnod i’w ystyried.
(9)
Mae Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor o dan is-baragraff (4)(c) i’w wneud drwy offeryn statudol.
Y weithdrefn addasedig ar gyfer gosod offeryn statudol gerbron Senedd Cymru
15
(1)
Mae is-baragraffau (2) i (4) yn addasiad i’r weithdrefn ar gyfer gosod is-ddeddfwriaeth gerbron Senedd Cymru yn adran 37F sy’n gymwys i’r is-ddeddfwriaeth y mae’r Atodlen hon yn gymwys iddi.
(2)
Rhaid gosod yr offeryn statudol sy’n cynnwys yr is-ddeddfwriaeth gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r is-ddeddfwriaeth gael ei gwneud; ac mae is-baragraff (3) yn gymwys os na osodir yr offeryn cyn i’r is-ddeddfwriaeth ddod i rym.
(3)
Os yw’r is-baragraff hwn yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru egluro i’r Llywydd pam na osodwyd yr offeryn statudol cyn i’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei chynnwys ynddo ddod i rym.
(4)
Rhaid rhoi’r eglurhad i’r Llywydd yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r offeryn gael ei osod gerbron y Senedd.
RHAN 5DIWYGIADAU CANLYNIADOL
Pŵer i wneud diwygiadau sy’n ganlyniadol ar yr Atodlen hon
16
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio unrhyw ddeddfiad i adlewyrchu effaith yr Atodlen hon, neu i wneud darpariaeth sy’n ganlyniadol arni.
ATODLEN 1CCYMHWYSO RHAN 2A I ORCHMYNION YN Y CYFRIN GYNGOR
RHAN 1DEHONGLI
Dehongli
1
Yn yr Atodlen hon—
ystyr “deddfiad cyn-gychwyn” (“pre-commencement enactment”) yw deddfiad a ddeddfwyd neu a wnaed cyn i Ran 2A ddod i rym;
ystyr “deddfiad ôl-gychwyn” (“post-commencement enactment”) yw deddfiad a ddeddfwyd neu a wnaed ar ôl i Ran 2A ddod i rym;
ystyr “offeryn statudol” yw offeryn statudol o fewn yr ystyr a roddir i “statutory instrument” gan adran 1 o Ddeddf Offerynnau Statudol 1946 (p. 36).
RHAN 2GORCHMYNION YN Y CYFRIN GYNGOR A WNEIR O DAN DDEDDFIADAU CYN-GYCHWYN
Cymhwyso’r Rhan
2
Mae’r Rhan hon yn gymwys mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth sydd i’w wneud fel Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor drwy offeryn statudol o dan ddeddfiad cyn-gychwyn.
Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor na chaniateir eu gwneud neu na chânt ddod i rym oni bai bod drafft yn cael ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad
3
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad cyn-gychwyn yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu—
(a)
na chaniateir gwneud y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n ei gynnwys yn cael ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad, neu
(b)
y caniateir gwneud y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor ond na chaiff ddod i rym oni bai bod yr offeryn statudol sy’n ei gynnwys yn cael ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
(2)
Mae’r deddfiad cyn-gychwyn i’w ddarllen fel pe bai’n darparu, yn lle hynny, i’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor fod yn ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37C, fel y’i haddesir ym mharagraff 10.
Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor y caniateir eu gwneud ond sy’n ddarostyngedig i’w hannilysu drwy benderfyniad gan Senedd Cymru
4
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad cyn-gychwyn yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu, fod y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, neu’r offeryn statudol sy’n ei gynnwys, yn ddarostyngedig i’w annilysu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.
(2)
Mae’r deddfiad cyn-gychwyn i’w ddarllen fel pe bai’n darparu, yn lle hynny, i’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor fod yn ddarostyngedig i weithdrefn annilysu’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37E, fel y’i haddesir ym mharagraff 11.
Gorchmynion eraill yn y Cyfrin Gyngor sydd i’w gosod gerbron Senedd Cymru
5
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad cyn-gychwyn yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu, fod rhaid gosod y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, neu’r offeryn statudol sy’n ei gynnwys, gerbron Senedd Cymru.
(2)
Mae’r paragraff hwn hefyd yn gymwys—
(a)
pan fyddai’r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru pe bai wedi ei chynnwys mewn Deddf gan Senedd Cymru (gan anwybyddu unrhyw ofyniad am gydsyniad neu ymgynghoriad), a
(b)
pan na fo’r deddfiad cyn-gychwyn yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu, fod y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, neu’r offeryn statudol sy’n ei gynnwys, yn ddarostyngedig i unrhyw un o’r gweithdrefnau y cyfeirir atynt ym mharagraffau 3 neu 4, neu fod rhaid ei osod gerbron Senedd Cymru.
(3)
Mae’r deddfiad cyn-gychwyn i’w ddarllen fel pe bai’n darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu, fod rhaid gosod y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, neu’r offeryn statudol sy’n ei gynnwys, gerbron Senedd Cymru yn unol ag adran 37F, fel y’i haddesir ym mharagraff 12.
RHAN 3GORCHMYNION YN Y CYFRIN GYNGOR A WNEIR O DAN DDEDDFIADAU ÔL-GYCHWYN
Cymhwyso’r Rhan
6
Mae’r Rhan hon yn gymwys mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth sydd i’w gwneud fel Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor drwy offeryn statudol o dan ddeddfiad ôl-gychwyn.
Cymhwyso gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd
7
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad ôl-gychwyn yn darparu bod y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, neu’r offeryn statudol sy’n ei gynnwys, yn ddarostyngedig i “gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd”.
(2)
Mae’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor yn ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37C, fel y’i haddesir ym mharagraff 10.
Cymhwyso gweithdrefn annilysu’r Senedd
8
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad ôl-gychwyn yn darparu bod y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, neu’r offeryn statudol sy’n ei gynnwys, yn ddarostyngedig i “gweithdrefn annilysu’r Senedd”.
(2)
Mae’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor yn ddarostyngedig i weithdrefn annilysu’r Senedd y cyfeirir ati yn adran 37E, fel y’i haddesir ym mharagraff 11.
Cymhwyso’r gofyniad i osod offeryn statudol gerbron Senedd Cymru
9
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r deddfiad ôl-gychwyn yn darparu, neu’n cael yr effaith o ddarparu, fod rhaid gosod y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, neu’r offeryn statudol sy’n ei gynnwys, gerbron Senedd Cymru.
(2)
Mae’r paragraff hwn hefyd yn gymwys—
(a)
pan fyddai’r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru pe bai wedi ei chynnwys mewn Deddf gan Senedd Cymru (gan anwybyddu unrhyw ofyniad am gydsyniad neu ymgynghoriad), a
(b)
pan na fo’r deddfiad ôl-gychwyn yn darparu bod y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, neu’r offeryn statudol sy’n ei gynnwys, yn ddarostyngedig i—
(i)
gweithdrefn gymeradwyo’r Senedd,
(ii)
gweithdrefn gadarnhau’r Senedd, na
(iii)
gweithdrefn annilysu’r Senedd,
neu fod rhaid ei osod gerbron Senedd Cymru.
(3)
Rhaid gosod yr offeryn statudol sy’n cynnwys y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor gerbron Senedd Cymru yn unol ag adran 37F, fel y’i haddesir ym mharagraff 12.
RHAN 4GWEITHDREFNAU ADDASEDIG YN Y SENEDD AR GYFER GORCHMYNION YN Y CYFRIN GYNGOR
Gweithdrefn gymeradwyo addasedig y Senedd
10
(1)
Mae is-baragraff (2) yn addasiad i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd yn adran 37C sy’n gymwys i Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor.
(2)
Ni chaniateir gwneud y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n ei gynnwys wedi ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
Gweithdrefn annilysu addasedig y Senedd
11
(1)
Mae is-baragraffau (2) i (9) yn addasiad i weithdrefn annilysu’r Senedd yn adran 37E sy’n gymwys i Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor.
(2)
Rhaid gosod yr offeryn statudol sy’n cynnwys y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor gael ei wneud, ac mae is-baragraff (6) yn gymwys os na osodir yr offeryn gerbron Senedd Cymru o leiaf 21 o ddiwrnodau cyn i’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor ddod i rym.
(3)
Caiff Senedd Cymru, cyn diwedd y 40 niwrnod sy’n dechrau â’r dyddiad y gosodir yr offeryn statudol ger ei bron, benderfynu bod y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor i’w annilysu.
(4)
Pan gaiff y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor ei annilysu—
(a)
i’r graddau nad yw’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor mewn grym ar ddyddiad y penderfyniad, ni ddaw’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor i rym ar ôl y dyddiad hwnnw (er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth ynddo ar gyfer dod i rym y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor),
(b)
i’r graddau y mae’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor mewn grym ar y dyddiad hwnnw, nid oes unrhyw beth pellach i’w wneud neu i’w barhau o dan y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, neu gan ddibynnu arno, ar ôl y dyddiad hwnnw, ac
(c)
caiff Ei Fawrhydi, drwy Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor, ddirymu’r offeryn.
(5)
Ond nid yw unrhyw benderfyniad o’r fath neu unrhyw ddirymiad o’r fath yn effeithio ar—
(a)
dilysrwydd unrhyw beth a wnaed yn flaenorol o dan yr offeryn, na
(b)
gwneud Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor newydd.
(6)
Os yw’r is-baragraff hwn yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru egluro i’r Llywydd pam na osodwyd yr offeryn statudol o leiaf 21 o ddiwrnodau cyn i’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor sydd wedi ei gynnwys ynddo ddod i rym.
(7)
Rhaid rhoi’r eglurhad i’r Llywydd yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r offeryn gael ei osod gerbron y Senedd.
(8)
Wrth gyfrifo’r cyfnod o 21 o ddiwrnodau a grybwyllir yn is-baragraff (2), neu’r cyfnod o 40 niwrnod a grybwyllir yn is-baragraff (3), nid yw unrhyw amser pan fydd Senedd Cymru wedi ei diddymu neu ar doriad am fwy na phedwar diwrnod i’w ystyried.
(9)
Mae Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor o dan is-baragraff (4)(c) i’w wneud drwy offeryn statudol.
Y weithdrefn addasedig ar gyfer gosod offeryn statudol gerbron Senedd Cymru
12
(1)
Mae is-baragraffau (2) i (4) yn addasiad i’r weithdrefn ar gyfer gosod is-ddeddfwriaeth gerbron Senedd Cymru yn adran 37F sy’n gymwys i Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor.
(2)
Rhaid gosod yr offeryn statudol sy’n cynnwys y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor gael ei wneud; ac mae is-baragraff (3) yn gymwys os na osodir yr offeryn cyn i’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor ddod i rym.
(3)
Os yw’r is-baragraff hwn yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru egluro i’r Llywydd pam na osodwyd yr offeryn statudol cyn i’r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor sydd wedi ei gynnwys ynddo ddod i rym.
(4)
Rhaid rhoi’r eglurhad i’r Llywydd yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r offeryn gael ei osod gerbron y Senedd.
RHAN 5DIWYGIADAU CANLYNIADOL
Pŵer i wneud diwygiadau sy’n ganlyniadol ar yr Atodlen hon
13
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio unrhyw ddeddfiad i adlewyrchu effaith yr Atodlen hon, neu i wneud darpariaeth sy’n ganlyniadol arni.
ATODLEN 2DIWYGIADAU CANLYNIADOL A DIDDYMIADAU
Deddf Dehongli 1978 (p. 30)
1
“23BApplication of this Act to Welsh legislation
(1)
The provisions of this Act, except sections 1 to 3, apply to the following as they apply to an Act—
(a)
a Measure of the National Assembly for Wales, and
(b)
an Act of the National Assembly for Wales, other than the Legislation (Wales) Act 2019, which receives Royal Assent before the day on which Part 2 of that Act (interpretation and operation of Welsh legislation) comes fully into force.
(2)
The provisions of this Act apply to an instrument—
(a)
made under a Measure or Act of the National Assembly for Wales, and
(b)
made before the day on which Part 2 of the Legislation (Wales) Act 2019 comes fully into force,
as they apply to other subordinate legislation.
(3)
The provisions of this Act apply to an instrument made under an Act of Parliament or retained direct EU legislation, and made by the Welsh Ministers or any other devolved Welsh authority, only if—
(a)
the instrument is made before the day on which Part 2 of the Legislation (Wales) Act 2019 comes fully into force,
(b)
the instrument is made (at any time) with any other person who is not a devolved Welsh authority, or
(c)
the instrument contains any provision that applies otherwise than in relation to Wales.
(4)
Nothing in subsection (2) or (3) limits the operation of sections 12 to 14A in relation to a power or duty to make an instrument to which Part 2 of the Legislation (Wales) Act 2019 applies, but section 11 does not apply in relation to such an instrument.
(5)
In the application of this Act to a Measure or Act of the National Assembly for Wales, references to the passing of an Act or an enactment are to be read as references to the enactment of the Measure or Act.
(6)
In this section, “devolved Welsh authority” and “Wales” have the same meanings as in the Government of Wales Act 2006 (see sections 157A and 158 of that Act).
23CInterpretation of this Act in relation to Welsh legislation
(1)
In this Act, references to an enactment include an enactment comprised in—
(a)
a Measure of the National Assembly for Wales,
(b)
an Act of the National Assembly for Wales (whenever the Act receives Royal Assent),
(c)
an instrument made under such an Act or Measure (whenever the instrument is made), or
(d)
an instrument made under an Act of Parliament or retained direct EU legislation, and made by the Welsh Ministers or any other devolved Welsh authority (whenever the instrument is made, and whether or not it is made with any other person),
but the reference in section 16(2) to a temporary enactment does not include an enactment comprised in legislation to which Part 2 of the Legislation (Wales) Act 2019 applies (see section 3(1) of that Act).
(2)
In section 17(2)(b), the reference to subordinate legislation includes an instrument to which Part 2 of the Legislation (Wales) Act 2019 applies.
(3)
In section 18, the reference to an act or omission which constitutes an offence under two or more Acts includes an act or omission which constitutes an offence under—
(a)
any legislation to which that section applies, and
(b)
any legislation to which Part 2 of the Legislation (Wales) Act 2019 applies,
and the reference to “those Acts” is to be read accordingly.
(4)
In section 19(1), references to “another Act” include—
(a)
a Measure of the National Assembly for Wales, and
(b)
any Act of the National Assembly for Wales (whenever the Act receives Royal Assent),
and the reference in paragraph (c) to “Acts” is to be read accordingly.”
Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)
2
(1)
Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn adran 156 (testunau Cymraeg a Saesneg deddfwriaeth)—
(a)
“(1A)
Subsection (1) does not apply to any legislation to which Part 2 of the Legislation (Wales) Act 2019 applies (but section 5 of that Act makes corresponding provision in relation to legislation to which that Part applies).”;
(b)
hepgorer is-adrannau (2) i (5).
(3)
Yn Atodlen 7B, ym mharagraff 7(2)(e), hepgorer is-baragraff (ii).
(4)
Yn Atodlen 10, hepgorer paragraff 11.
Mesur Gwastraff (Cymru) 2010 (mccc 8)
3
(1)
Mae Mesur Gwastraff (Cymru) 2010 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn adran 19, hepgorer is-adrannau (3) a (4).
(3)
Yn adran 20, hepgorer is-adrannau (4) a (5).