RHAN 2DEHONGLI A GWEITHREDU DEDDFWRIAETH CYMRU

Deddfwriaeth ddwyieithog Cymru

5Statws cyfartal y testunau Cymraeg a Saesneg

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo F1Deddf gan Senedd Cymru yn cael ei deddfu, neu pan fo is-offeryn Cymreig yn cael ei wneud, yn y Gymraeg a’r Saesneg.

(2)

Mae i’r testun Cymraeg a’r testun Saesneg statws cyfartal at bob diben.