RHAN 4CYFFREDINOL

43Rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf hon

(1)

Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon—

(a)

yn arferadwy drwy offeryn statudol;

(b)

yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.

(2)

Ni chaniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys unrhyw un neu ragor o’r canlynol gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron F1Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad—

(a)

rheoliadau o dan adran 6(2);

(b)

rheoliadau o dan adran 42(1) sy’n diwygio, yn diddymu neu’n addasu fel arall unrhyw ddarpariaeth mewn F2Deddf gan Senedd Cymru neu Fesur Cynulliad neu mewn Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig.

(3)

Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan is-adran 42(1) yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan F3Senedd Cymru.