Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019

40Cyfuno is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i weithdrefnau gwahanol yn y [F1Senedd] LL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud, neu’n bwriadu gwneud, offeryn statudol a fyddai fel arall yn ddarostyngedig i ddwy neu ragor o weithdrefnau gwahanol yn y [F2Senedd] o ganlyniad i’r is-ddeddfwriaeth y mae’n ei chynnwys, mae pa un bynnag o’r gweithdrefnau hynny yn y [F2Senedd] a grybwyllir gyntaf yn is-adran (2) yn gymwys i’r offeryn (ac nid yw’r un o’r gweithdrefnau eraill yn y [F2Senedd] yn gymwys).

(2)Yn yr adran hon, ystyr “gweithdrefn yn y [F3Senedd]” yw gweithdrefn sy’n cael yr effaith⁠—

(a)na chaniateir gwneud offeryn statudol (neu’r is-ddeddfwriaeth y mae’n ei chynnwys) oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron [F4Senedd Cymru] a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad,

(b)bod rhaid gosod offeryn statudol gerbron [F5Senedd Cymru] ar ôl iddo gael ei wneud a rhaid iddo gael ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan [F5Senedd Cymru] er mwyn i’r is-ddeddfwriaeth y mae’n ei chynnwys ddod i rym neu barhau mewn grym,

(c)bod offeryn statudol yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan [F6Senedd Cymru],

(d)bod rhaid gosod offeryn statudol gerbron [F7Senedd Cymru] ar ôl iddo gael ei wneud, neu

(e)nad yw’n ofynnol i offeryn statudol gael ei osod gerbron [F8Senedd Cymru] ar unrhyw adeg.

(3)Nid yw’r ffaith bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud is-ddeddfwriaeth mewn offeryn statudol y mae is-adran (1) yn gymwys iddo yn—

(a)eu hatal rhag gwneud is-ddeddfwriaeth bellach mewn offeryn statudol nad yw’r is-adran honno yn gymwys iddo, na

(b)effeithio ar y weithdrefn yn y [F9Senedd] sy’n gymwys i offeryn o’r fath.

(4)Nid yw is-adran (1) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys unrhyw is-ddeddfwriaeth—

(a)a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig neu ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir, a

(b)sy’n gymwys ac eithrio o ran Cymru.