RHAN 3AMRYWIOL

40Cyfuno is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i weithdrefnau gwahanol yn y F1Senedd

(1)

Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud, neu’n bwriadu gwneud, offeryn statudol a fyddai fel arall yn ddarostyngedig i ddwy neu ragor o weithdrefnau gwahanol yn y F2Senedd o ganlyniad i’r is-ddeddfwriaeth y mae’n ei chynnwys, mae pa un bynnag o’r gweithdrefnau hynny yn y F2Senedd a grybwyllir gyntaf yn is-adran (2) yn gymwys i’r offeryn (ac nid yw’r un o’r gweithdrefnau eraill yn y F2Senedd yn gymwys).

(2)

Yn yr adran hon, ystyr “gweithdrefn yn y F3Senedd” yw gweithdrefn sy’n cael yr effaith⁠—

(a)

na chaniateir gwneud offeryn statudol (neu’r is-ddeddfwriaeth y mae’n ei chynnwys) oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron F4Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad,

(b)

bod rhaid gosod offeryn statudol gerbron F5Senedd Cymru ar ôl iddo gael ei wneud a rhaid iddo gael ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan F5Senedd Cymru er mwyn i’r is-ddeddfwriaeth y mae’n ei chynnwys ddod i rym neu barhau mewn grym,

(c)

bod offeryn statudol yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan F6Senedd Cymru,

(d)

bod rhaid gosod offeryn statudol gerbron F7Senedd Cymru ar ôl iddo gael ei wneud, neu

(e)

nad yw’n ofynnol i offeryn statudol gael ei osod gerbron F8Senedd Cymru ar unrhyw adeg.

(3)

Nid yw’r ffaith bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud is-ddeddfwriaeth mewn offeryn statudol y mae is-adran (1) yn gymwys iddo yn—

(a)

eu hatal rhag gwneud is-ddeddfwriaeth bellach mewn offeryn statudol nad yw’r is-adran honno yn gymwys iddo, na

(b)

effeithio ar y weithdrefn yn y F9Senedd sy’n gymwys i offeryn o’r fath.

(4)

Nid yw is-adran (1) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys unrhyw is-ddeddfwriaeth—

(a)

a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig neu ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir, a

(b)

sy’n gymwys ac eithrio o ran Cymru.