39Pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth ar ffurfiau gwahanolLL+C
(1)Pan fo gan Weinidogion Cymru bŵer neu ddyletswydd i wneud is-ddeddfwriaeth ar ffurf rheoliadau, rheolau neu orchymyn a wneir drwy offeryn statudol, cânt arfer y pŵer neu’r ddyletswydd drwy wneud yr is-ddeddfwriaeth ar unrhyw un o’r ffurfiau eraill hynny drwy offeryn statudol.
(2)Nid yw hyn yn effeithio ar y weithdrefn ar gyfer gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys yr is-ddeddfwriaeth.
(3)Mae cyfeiriad mewn unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen at reoliadau, rheolau neu orchymyn a wneir o dan y pŵer neu’r ddyletswydd yn cynnwys is-ddeddfwriaeth a wneir odano neu odani mewn unrhyw ffurf arall drwy ddibynnu ar is-adran (1).
(4)Nid yw is-adran (1) yn gymwys i is-ddeddfwriaeth—
(a)a wneir o dan Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig neu ddeddfwriaeth uniongyrchol [F1a gymathwyd], a
(b)sy’n gymwys ac eithrio o ran Cymru.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 39(4)(a) wedi eu hamnewid (1.1.2024) gan Retained EU Law (Revocation and Reform) Act 2023 (c. 28), a. 22(3), Atod. 2 para. 9(4)(a) (ynghyd ag a. 22(6)); O.S. 2023/1363, rhl. 3(e)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 39 mewn grym ar 11.9.2019, gweler a. 44(1)(d)