37 [F1Dehongli darpariaethau ynghylch diwygio,] diddymu a dirymu yn y Rhan honLL+C
(1)Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at ddiddymu neu ddirymu deddfiad neu ddileu rheol gyfreithiol yn cynnwys—
(a)amnewid unrhyw beth am y deddfiad neu’r rheol (neu unrhyw ran ohono neu ohoni);
(b)cyfyngu ar gymhwysiad neu effaith y deddfiad neu’r rheol;
(c)darparu i’r deddfiad neu’r rheol beidio â chael effaith.
(2)At ddibenion adrannau 34 i 36 (ond nid adran 33)—
(a)pan ddaw [F2Deddf dros dro gan Senedd Cymru] i ben, mae hyn i’w drin fel pe bai’r Ddeddf wedi ei diddymu gan [F2Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig;
(b)pan ddaw is-offeryn Cymreig dros dro i ben, mae hyn i’w drin fel pe bai’r offeryn wedi ei ddirymu gan [F2Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig.
[F3(3)Yn adrannau 32 i 35, ac yn is-adran (1) fel y mae’n gymwys at ddibenion yr adrannau hynny, mae “deddfiad yn cynnwys deddfiad sy’n Fesur gan Gynulliad Eglwys Loegr neu gan Synod Cyffredinol Eglwys Loegr neu’n offeryn a wneir o dan Fesur o’r fath, neu sydd wedi ei gynnwys mewn Mesur neu offeryn o’r fath.]
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau ym mhennawd a. 37 wedi eu hamnewid (10.9.2025) gan Deddf Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) 2025 (asc 3), a. 9(2)(e), Atod. 2 para. 7(a)
F2Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(8)
F3A. 37(3) wedi ei fewnosod (10.9.2025) gan Deddf Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) 2025 (asc 3), a. 9(2)(e), Atod. 2 para. 7(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 37 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I2A. 37 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2
