37Ystyr diddymu a dirymu yn y Rhan honLL+C
(1)Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at ddiddymu neu ddirymu deddfiad neu ddileu rheol gyfreithiol yn cynnwys—
(a)amnewid unrhyw beth am y deddfiad neu’r rheol (neu unrhyw ran ohono neu ohoni);
(b)cyfyngu ar gymhwysiad neu effaith y deddfiad neu’r rheol;
(c)darparu i’r deddfiad neu’r rheol beidio â chael effaith.
(2)At ddibenion adrannau 34 i 36 (ond nid adran 33)—
(a)pan ddaw [F1Deddf dros dro gan Senedd Cymru] i ben, mae hyn i’w drin fel pe bai’r Ddeddf wedi ei diddymu gan [F1Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig;
(b)pan ddaw is-offeryn Cymreig dros dro i ben, mae hyn i’w drin fel pe bai’r offeryn wedi ei ddirymu gan [F1Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(8)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 37 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I2A. 37 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2