Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019

37Ystyr diddymu a dirymu yn y Rhan honLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at ddiddymu neu ddirymu deddfiad neu ddileu rheol gyfreithiol yn cynnwys—

(a)amnewid unrhyw beth am y deddfiad neu’r rheol (neu unrhyw ran ohono neu ohoni);

(b)cyfyngu ar gymhwysiad neu effaith y deddfiad neu’r rheol;

(c)darparu i’r deddfiad neu’r rheol beidio â chael effaith.

(2)At ddibenion adrannau 34 i 36 (ond nid adran 33)—

(a)pan ddaw Deddf dros dro gan y Cynulliad i ben, mae hyn i’w drin fel pe bai’r Ddeddf wedi ei diddymu gan Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig;

(b)pan ddaw is-offeryn Cymreig dros dro i ben, mae hyn i’w drin fel pe bai’r offeryn wedi ei ddirymu gan Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 37 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I2A. 37 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2