RHAN 2DEHONGLI A GWEITHREDU DEDDFWRIAETH CYMRU
Diwygio, diddymu a dirymu deddfwriaeth
35Effaith ailddeddfu
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo deddfiad (“A”)—
(a)
yn cael ei ddiddymu neu ei ddirymu gan F1Ddeddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig, a
(2)
Mae cyfeiriad at A mewn unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen i’w ddarllen fel (neu fel pe bai’n cynnwys) cyfeiriad at B.
(3)
I’r graddau y gallasai unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan A neu sy’n cael effaith fel pe bai wedi ei gwneud o dan A gael ei gwneud o dan B, mae i gael effaith fel pe bai wedi ei gwneud o dan B.
(4)
I’r graddau y gallasai unrhyw beth a wneir neu sy’n cael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan A gael ei wneud o dan B, mae i gael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan B.