33Nid yw diddymiadau na dirymiadau yn adfer cyfraith a ddiddymwyd, a ddirymwyd neu a ddilëwyd eisoesLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
Pan fo—
(a)[F1Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn diddymu neu’n dirymu deddfiad (“A”), a
(b)A eisoes wedi diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad arall (“B”) neu wedi dileu unrhyw rheol gyfreithiol arall (“C”),
nid yw diddymiad neu ddirymiad A yn adfer B neu C.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(8)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 33 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I2A. 33 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2