RHAN 2DEHONGLI A GWEITHREDU DEDDFWRIAETH CYMRU
Diwygio, diddymu a dirymu deddfwriaeth
32Diwygiadau a wneir i ddeddfwriaeth Cymru neu gan ddeddfwriaeth Cymru
(1)
Pan fo deddfiad yn diwygio F1Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig drwy fewnosod neu amnewid geiriau neu ddeunydd arall, mae’r geiriau neu’r deunydd yn cael effaith fel rhan o’r Ddeddf honno neu’r offeryn hwnnw.
(2)
Pan fo F1Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig yn diwygio deddfiad drwy fewnosod neu amnewid geiriau neu ddeunydd arall, mae’r geiriau neu’r deunydd yn cael effaith fel rhan o’r deddfiad hwnnw.
(3)
Gweler hefyd adran 23ZA o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30) ar gyfer darpariaeth ynghylch cymhwyso’r Ddeddf honno i ddeddfwriaeth uniongyrchol F2a gymathwyd sy’n cael ei diwygio gan F1Ddeddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig (neu gan ddeddfwriaeth benodol arall).