RHAN 2DEHONGLI A GWEITHREDU DEDDFWRIAETH CYMRU
Deddfwriaeth yn dod i rym
31Gorchmynion a rheoliadau sy’n dwyn F1Deddfau Senedd Cymru i rym
Pan fo F2Deddf gan Senedd Cymru yn darparu i orchymyn neu reoliadau benodi—
(a)
y diwrnod y daw’r Ddeddf i rym, neu
(b)
y diwrnod y daw darpariaeth yn y Ddeddf i rym,
caiff y gorchymyn neu’r rheoliadau benodi diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol.