RHAN 2DEHONGLI A GWEITHREDU DEDDFWRIAETH CYMRU

Deddfwriaeth yn dod i rym

30Y diwrnod y daw F1Deddf gan Senedd Cymru i rym

Pan na fo darpariaeth mewn deddfiad bod F1Deddf gan Senedd Cymru neu ddarpariaeth mewn F1Deddf gan Senedd Cymru yn dod i rym, daw’r Ddeddf neu’r ddarpariaeth i rym ar ddechrau’r diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol.