xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Mae’r Rhan hon yn gymwys i—
(a)y Ddeddf hon;
(b)[F1Deddfau Senedd Cymru] sy’n cael y Cydsyniad Brenhinol ar [F21 Ionawr 2020 neu ar ôl y diwrnod hwnnw];
(c)is-offerynnau Cymreig a wneir ar [F31 Ionawr 2020] neu ar ôl y diwrnod hwnnw.
(2)Ystyr “is-offeryn Cymreig” yw offeryn (pa un a yw’r offeryn hwnnw yn offeryn statudol ai peidio) nad yw ond yn cynnwys un neu ddau o’r canlynol—
(a)is-ddeddfwriaeth a wneir o dan [F4Ddeddf gan Senedd Cymru] neu Fesur Cynulliad, pa un ai gan Weinidogion Cymru neu gan unrhyw berson arall;
(b)is-ddeddfwriaeth—
(i)a wneir o dan Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig neu ddeddfwriaeth uniongyrchol [F5a gymathwyd],
(ii)nas gwneir ond gan Weinidogion Cymru neu unrhyw awdurdod Cymreig datganoledig arall (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” gan adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)), a
(iii)nad yw ond yn gymwys o ran Cymru.
(3)Mae cyfeiriadau yng ngweddill y Rhan hon at [F4Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig (oni ddarperir fel arall) yn gyfeiriadau at [F4Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig y mae’r Rhan hon yn gymwys iddi neu iddo yn rhinwedd is-adran (1).
[F6(4)Mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â physgota, pysgodfeydd neu iechyd pysgod ac a wneir ar ôl i adran 45 o Ddeddf Pysgodfeydd 2020 (p. 22) ddod i rym, mae'r cyfeiriad yn is-adran (2)(b)(iii) at Gymru yn cynnwys yr ardal o barth Cymru sydd y tu hwnt i derfynau atfor y môr tiriogaethol.]
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(9)
F2Geiriau yn a. 3(1)(b) wedi eu hamnewid (11.10.2019) gan Gorchymyn Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Cychwyn) 2019 (O.S. 2019/1333), erglau. 1(2), 3(a)
F3Geiriau yn a. 3(1)(c) wedi eu hamnewid (11.10.2019) gan Gorchymyn Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Cychwyn) 2019 (O.S. 2019/1333), erglau. 1(2), 3(b)
F4Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(8)
F5Geiriau yn a. 3(2)(b) wedi eu hamnewid (1.1.2024) gan Retained EU Law (Revocation and Reform) Act 2023 (c. 28), a. 22(3), Atod. 2 para. 9(2)(a) (ynghyd ag a. 22(6)); O.S. 2023/1363, rhl. 3(e)
F6A. 3(4) wedi ei fewnosod (23.1.2021) gan Fisheries Act 2020 (c. 22), aau. 46(6)(b), 54(2) (ynghyd ag Atod. 4 para. 31)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 3 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I2A. 3 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2