RHAN 2DEHONGLI A GWEITHREDU DEDDFWRIAETH CYMRU

Deddfwriaeth yn dod i rym

29Yr amser pan ddaw deddfwriaeth Cymru i rym

Pan fo—

(a)

F1Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig, neu

(b)

darpariaeth mewn F1Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig,

yn dod i rym ar ddiwrnod y darperir ar ei gyfer mewn deddfiad, daw’r Ddeddf, yr offeryn neu’r ddarpariaeth i rym ar ddechrau’r diwrnod hwnnw.