Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019

28Cymhwyso deddfwriaeth Cymru i’r GoronLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae [F1Deddf gan Senedd Cymru] yn rhwymo’r Goron.

(2)Mae is-offeryn Cymreig yn rhwymo’r Goron i’r graddau y mae wedi ei wneud o dan ddeddfiad sy’n rhwymo’r Goron neu’n rhoi pŵer i wneud darpariaeth sy’n rhwymo’r Goron.

(3)Nid yw [F1Deddf gan Senedd Cymru] nac is-offeryn Cymreig yn gwneud y Goron yn atebol o ran cyfraith trosedd, ond mae’n gymwys i bersonau sy’n gwasanaethu’r Goron fel y mae’n gymwys i bersonau eraill.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 28 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I2A. 28 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2