RHAN 2DEHONGLI A GWEITHREDU DEDDFWRIAETH CYMRU
Cymhwyso i’r Goron
28Cymhwyso deddfwriaeth Cymru i’r Goron
(1)
Mae F1Deddf gan Senedd Cymru yn rhwymo’r Goron.
(2)
Mae is-offeryn Cymreig yn rhwymo’r Goron i’r graddau y mae wedi ei wneud o dan ddeddfiad sy’n rhwymo’r Goron neu’n rhoi pŵer i wneud darpariaeth sy’n rhwymo’r Goron.
(3)
Nid yw F1Deddf gan Senedd Cymru nac is-offeryn Cymreig yn gwneud y Goron yn atebol o ran cyfraith trosedd, ond mae’n gymwys i bersonau sy’n gwasanaethu’r Goron fel y mae’n gymwys i bersonau eraill.