RHAN 2DEHONGLI A GWEITHREDU DEDDFWRIAETH CYMRU

Cymhwyso i’r Goron

28Cymhwyso deddfwriaeth Cymru i’r Goron

(1)

Mae Deddf Cynulliad yn rhwymo’r Goron.

(2)

Mae is-offeryn Cymreig yn rhwymo’r Goron i’r graddau y mae wedi ei wneud o dan ddeddfiad sy’n rhwymo’r Goron neu’n rhoi pŵer i wneud darpariaeth sy’n rhwymo’r Goron.

(3)

Nid yw Deddf Cynulliad nac is-offeryn Cymreig yn gwneud y Goron yn atebol o ran cyfraith trosedd, ond mae’n gymwys i bersonau sy’n gwasanaethu’r Goron fel y mae’n gymwys i bersonau eraill.