28Cymhwyso deddfwriaeth Cymru i’r GoronLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Mae Deddf Cynulliad yn rhwymo’r Goron.
(2)Mae is-offeryn Cymreig yn rhwymo’r Goron i’r graddau y mae wedi ei wneud o dan ddeddfiad sy’n rhwymo’r Goron neu’n rhoi pŵer i wneud darpariaeth sy’n rhwymo’r Goron.
(3)Nid yw Deddf Cynulliad nac is-offeryn Cymreig yn gwneud y Goron yn atebol o ran cyfraith trosedd, ond mae’n gymwys i bersonau sy’n gwasanaethu’r Goron fel y mae’n gymwys i bersonau eraill.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 28 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)