RHAN 2DEHONGLI A GWEITHREDU DEDDFWRIAETH CYMRU

Dyblygu troseddau

27Troseddau dyblyg

(1)

Pan fo gweithred neu anweithred yn drosedd o dan F1Ddeddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig (“A”) a hefyd yn drosedd—

(a)

o dan F1Ddeddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig ac eithrio A,

(b)

yn ôl y gyfraith gyffredin, neu

(c)

o dan F1Ddeddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig ac eithrio A ac yn ôl y gyfraith gyffredin,

mae person yn agored i’w erlyn a’i gosbi o dan y naill neu’r llall neu unrhyw un o’r Deddfau neu’r offerynnau hynny neu yn ôl y gyfraith gyffredin, ond ni ellir ei gosbi fwy nag unwaith am yr un drosedd.

(2)

Nid yw is-adran (1) yn gymwys os yw’r weithred neu’r anweithred hefyd yn drosedd o dan unrhyw ddeddfwriaeth y mae adran 18 o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30) yn gymwys iddi (ond mae’r adran honno yn gwneud darpariaeth gyfatebol mewn perthynas â gweithred neu anweithred o’r fath).