26Cyfeiriadau at offerynnau’r UELL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys—
(a)pan fo [F1Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at offeryn UE (“A”), a
(b)pan fo A wedi cael ei ddiwygio, ei estyn neu ei gymhwyso gan offeryn arall gan yr UE (“B”) cyn y diwrnod y caiff y Ddeddf F2... y Cydsyniad Brenhinol neu y caiff yr [F3offeryn] ei wneud.
(2)Mae’r cyfeiriad at A yn gyfeiriad at A fel y’i diwygiwyd, y’i hestynnwyd neu y’i cymhwyswyd gan B.
(3)Gweler hefyd reoliad 2 o Reoliadau Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (Addasiadau Canlyniadol a Diddymiadau a Dirymiadau) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/628) F4....
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(8)
F2Gair yn a. 26(1)(b) wedi ei hepgor (6.5.2020) yn rhinwedd Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(3)(a)(4)(d)
F3Gair yn a. 26(1)(b) wedi ei amnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(3)(b)(4)(d)
F4Geiriau yn a. 26(3) wedi eu hepgor (31.1.2020) yn rhinwedd European Union (Withdrawal Agreement) Act 2020 (c. 1), a. 42(7), Atod. 5 para. 60(a) (ynghyd ag a. 38(3)); O.S. 2020/75, rhl. 4(n)(xxviii)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 26 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I2A. 26 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2