xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CDEHONGLI A GWEITHREDU DEDDFWRIAETH CYMRU

Cyfeiriadau yn neddfwriaeth Cymru at ddeddfwriaeth a dogfennau eraillLL+C

26Cyfeiriadau at offerynnau’r UELL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo [F1Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at offeryn UE (“A”), a

(b)pan fo A wedi cael ei ddiwygio, ei estyn neu ei gymhwyso gan offeryn arall gan yr UE (“B”) cyn y diwrnod y caiff y Ddeddf F2... y Cydsyniad Brenhinol neu y caiff yr [F3offeryn] ei wneud.

(2)Mae’r cyfeiriad at A yn gyfeiriad at A fel y’i diwygiwyd, y’i hestynnwyd neu y’i cymhwyswyd gan B.

(3)Gweler hefyd reoliad 2 o Reoliadau Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (Addasiadau Canlyniadol a Diddymiadau a Dirymiadau) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/628) F4....

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 26 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I2A. 26 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2