xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Mae’r adran hon yn gymwys—
(a)pan fo [F1Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at ddeddfiad (“A”), a
(b)pan fo A yn cael ei ddiwygio, ei estyn neu ei gymhwyso gan ddeddfiad (”B”) ar unrhyw adeg (pa un ai cyn, ar neu ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf F2... y Cydsyniad Brenhinol neu y caiff yr [F3offeryn] ei wneud).
(2)Mae’r cyfeiriad at A yn gyfeiriad at A fel y’i diwygiwyd, y’i hestynnwyd neu y’i cymhwyswyd gan B.
(3)Nid oes dim yn adrannau 22 i 24 yn cyfyngu ar weithrediad yr adran hon.
(4)Yn is-adran (1), mae “deddfiad” yn cynnwys deddfiad sy’n un o’r canlynol neu sydd wedi ei gynnwys mewn un o’r canlynol—
(a)Deddf gan Senedd yr Alban;
(b)deddfwriaeth Gogledd Iwerddon (o fewn yr ystyr a roddir i “Northern Ireland legislation” gan adran 24(5) o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30));
[F4(ba)Mesur gan Gynulliad Eglwys Loegr neu gan Synod Cyffredinol Eglwys Loegr;]
(c)offeryn a wneir o dan ddeddfwriaeth a grybwyllir ym mharagraff (a) [F5, (b) neu (ba)].
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(8)
F2Gair yn a. 25(1)(b) wedi ei hepgor (6.5.2020) yn rhinwedd Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(3)(a)(4)(c)
F3Gair yn a. 25(1)(b) wedi ei amnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(3)(b)(4)(c)
F4A. 25(4)(ba) wedi ei fewnosod (10.9.2025) gan Deddf Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) 2025 (asc 3), a. 9(2)(e), Atod. 2 para. 6(a)
F5Geiriau yn a. 25(4)(c) wedi eu hamnewid (10.9.2025) gan Deddf Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) 2025 (asc 3), a. 9(2)(e), Atod. 2 para. 6(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 25 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I2A. 25 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2