RHAN 2DEHONGLI A GWEITHREDU DEDDFWRIAETH CYMRU
Cyfeiriadau yn neddfwriaeth Cymru at ddeddfwriaeth a dogfennau eraill
25Mae cyfeiriadau at ddeddfiadau yn gyfeiriadau at ddeddfiadau fel y’u diwygiwyd
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys—
(a)
pan fo F1Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at ddeddfiad (“A”), a
(2)
Mae’r cyfeiriad at A yn gyfeiriad at A fel y’i diwygiwyd, y’i hestynnwyd neu y’i cymhwyswyd gan B.
(3)
Nid oes dim yn adrannau 22 i 24 yn cyfyngu ar weithrediad yr adran hon.
(4)
Yn is-adran (1), mae “deddfiad” yn cynnwys deddfiad sy’n un o’r canlynol neu sydd wedi ei gynnwys mewn un o’r canlynol—
(a)
Deddf gan Senedd yr Alban;
(b)
deddfwriaeth Gogledd Iwerddon (o fewn yr ystyr a roddir i “Northern Ireland legislation” gan adran 24(5) o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30));
(c)
offeryn a wneir o dan ddeddfwriaeth a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b).