RHAN 2DEHONGLI A GWEITHREDU DEDDFWRIAETH CYMRU

Cyfeiriadau yn neddfwriaeth Cymru at ddeddfwriaeth a dogfennau eraill

24Cyfeiriadau at ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir mewn cyfraith ddomestig ar ôl ymadael â’r UE

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—

(a)Deddf Cynulliad yn cael y Cydsyniad Brenhinol, neu is-offeryn Cymreig yn cael ei wneud, ar neu ar ôl y diwrnod ymadael, a

(b)y Ddeddf neu’r offeryn yn cyfeirio at unrhyw reoliad gan yr UE, penderfyniad gan yr UE, deddfwriaeth drydyddol gan yr UE neu ddarpariaeth yng nghytundeb yr AEE sy’n ffurfio rhan o gyfraith ddomestig yn rhinwedd adran 3 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) (cynnwys deddfwriaeth uniongyrchol UE).

(2)Mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at reoliad gan yr UE, penderfyniad gan yr UE, deddfwriaeth drydyddol gan yr UE neu ddarpariaeth yng nghytundeb yr AEE fel y mae’n ffurfio rhan o gyfraith ddomestig (ac nid fel y mae’n ffurfio rhan o gyfraith yr UE).

(3)Yn yr adran hon, mae i’r ymadroddion Cymraeg a ganlyn yr un ystyron ag a roddir i’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn adran 20(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018—

  • “cyfraith ddomestig” (“domestic law”);

  • “deddfwriaeth drydyddol gan yr UE” (“EU tertiary legislation”);

  • “penderfyniad gan yr UE” (“EU decision”);

  • “rheoliad gan yr UE” (“EU regulation”).