23Argraffiadau o Ddeddfau gan Senedd y Deyrnas Unedig y cyfeirir atyntLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo [F1Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig (pa un yn ôl ei henw byr ynteu yn ôl blwyddyn, statud, sesiwn neu bennod).
(2)Mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at y Ddeddf fel y’i deddfwyd a gyhoeddir—
(a) gan Argraffydd y Frenhines, neu
(b)o dan oruchwyliaeth neu awdurdod Llyfrfa Ei Mawrhydi.
(3)Ond—
(a)pan fo’r cyfeiriad yn gyfeiriad at Ddeddf sydd wedi ei chynnwys mewn argraffiad diwygiedig o’r statudau a argreffir drwy awdurdod, mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at yr argraffiad hwnnw;
(b)pan na fo paragraff (a) yn gymwys a phan fo’r cyfeiriad yn gyfeiriad at Ddeddf sydd wedi ei chynnwys yn yr argraffiad a luniwyd o dan gyfarwyddyd y Comisiwn Cofnodion, mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at yr argraffiad hwnnw.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(8)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 23 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I2A. 23 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2