RHAN 2DEHONGLI A GWEITHREDU DEDDFWRIAETH CYMRU
Cyfeiriadau yn neddfwriaeth Cymru at ddeddfwriaeth a dogfennau eraill
23Argraffiadau o Ddeddfau gan Senedd y Deyrnas Unedig y cyfeirir atynt
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig (pa un yn ôl ei henw byr ynteu yn ôl blwyddyn, statud, sesiwn neu bennod).
(2)
Mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at y Ddeddf fel y’i deddfwyd a gyhoeddir—
(a)
gan Argraffydd y Frenhines, neu
(b)
o dan oruchwyliaeth neu awdurdod Llyfrfa Ei Mawrhydi.
(3)
Ond—
(a)
pan fo’r cyfeiriad yn gyfeiriad at Ddeddf sydd wedi ei chynnwys mewn argraffiad diwygiedig o’r statudau a argreffir drwy awdurdod, mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at yr argraffiad hwnnw;
(b)
pan na fo paragraff (a) yn gymwys a phan fo’r cyfeiriad yn gyfeiriad at Ddeddf sydd wedi ei chynnwys yn yr argraffiad a luniwyd o dan gyfarwyddyd y Comisiwn Cofnodion, mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at yr argraffiad hwnnw.