Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019

22Argraffiadau o Ddeddfau’r Cynulliad neu o Fesurau’r Cynulliad y cyfeirir atyntLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at Ddeddf Cynulliad (gan gynnwys Deddf Cynulliad nad yw’r Rhan hon yn gymwys iddi) neu Fesur Cynulliad.

(2)Mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at y copi ardystiedig o’r Ddeddf, neu’r Mesur fel y’i cymeradwywyd, a gyhoeddir—

(a)gan Argraffydd y Frenhines, neu

(b)o dan oruchwyliaeth neu awdurdod Llyfrfa Ei Mawrhydi.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 22 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I2A. 22 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2