Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019

21Cyfeiriadau at raniadau o ddeddfiadau, offerynnau a dogfennauLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Pan fo Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig—

(a)yn disgrifio rhaniad o unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen neu’n cyfeirio at raniad o unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen, a

(b)yn gwneud hynny drwy gyfeirio at eiriau, adrannau neu rannau eraill y mae’r rhaniad yn ymestyn oddi wrthynt neu atynt (neu oddi wrthynt ac atynt),

mae’r rhaniad yn cynnwys y geiriau, yr adrannau neu’r rhannau eraill y cyfeirir atynt.

(2)Yn is-adran (1), mae “deddfiad” yn cynnwys deddfiad sy’n un o’r canlynol neu sydd wedi ei gynnwys mewn un o’r canlynol—

(a)Deddf gan Senedd yr Alban;

(b)deddfwriaeth Gogledd Iwerddon (o fewn yr ystyr a roddir i “Northern Ireland legislation” gan adran 24(5) o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30));

(c)offeryn a wneir o dan ddeddfwriaeth a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 21 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I2A. 21 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2