20Amrywio cyfarwyddydau a’u tynnu’n ôlLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Caniateir arfer pŵer a roddir gan Ddeddf Cynulliad neu gan is-offeryn Cymreig i roi cyfarwyddydau i amrywio unrhyw gyfarwyddydau neu dynnu’n ôl unrhyw gyfarwyddydau a roddir o dan y pŵer.
(2)Mae dyletswydd i roi cyfarwyddydau a osodir gan Ddeddf Cynulliad neu gan is-offeryn Cymreig yn cynnwys pŵer (sy’n arferadwy yn yr un ffordd ac yn ddarostyngedig i’r un amodau neu gyfyngiadau â’r ddyletswydd) i amrywio, neu dynnu’n ôl a disodli, unrhyw gyfarwyddydau a roddir o dan y ddyletswydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 20 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I2A. 20 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2