2Rhaglen i wella hygyrchedd cyfraith Cymru
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol lunio rhaglen sy’n nodi’r hyn y maent yn bwriadu ei wneud i wella hygyrchedd cyfraith Cymru.
(2)Rhaid llunio rhaglen ar gyfer pob un o dymhorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n dechrau ar ôl i’r adran hon ddod i rym.
(3)Rhaid i’r rhaglen gynnwys gweithgareddau arfaethedig y bwriedir iddynt—
(a)cyfrannu at broses barhaus o gydgrynhoi a chodeiddio cyfraith Cymru;
(b)cynnal ffurf cyfraith Cymru (wedi iddi gael ei chodeiddio);
(c)hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gyfraith Cymru;
(d)hwyluso defnydd o’r Gymraeg.
(4)Caiff y rhaglen hefyd gynnwys gweithgareddau arfaethedig—
(a)y gellir eu cyflawni drwy gydweithio â Chomisiwn y Gyfraith (yn unol â Deddf Comisiynau’r Gyfraith 1965 (p. 22)), neu
(b)o unrhyw fath arall y mae Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol yn ystyried ei fod yn briodol.
(5)Rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol osod copi o’r rhaglen gerbron y Cynulliad Cenedlaethol o fewn 6 mis i benodi Prif Weinidog ar ôl etholiad cyffredinol a gynhelir o dan Ran 1 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
(6)Caiff Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol ddiwygio’r rhaglen ar unrhyw adeg, ac os gwnânt hynny rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol osod copi o’r rhaglen ddiwygiedig gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.
(7)Rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol adrodd yn flynyddol i’r Cynulliad Cenedlaethol ar y cynnydd a wneir o dan y rhaglen.
(8)Yn is-adran (3), mae codeiddio cyfraith Cymru yn cynnwys—
(a)mabwysiadu strwythur ar gyfer cyfraith Cymru sy’n gwella ei hygyrchedd;
(b)trefnu a chyhoeddi cyfraith Cymru sydd wedi ei chydgrynhoi yn ôl y strwythur hwnnw.