Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019

2Rhaglen i wella hygyrchedd cyfraith CymruLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol lunio rhaglen sy’n nodi’r hyn y maent yn bwriadu ei wneud i wella hygyrchedd cyfraith Cymru.

(2)Rhaid llunio rhaglen ar gyfer pob un o dymhorau [F1Senedd Cymru] sy’n dechrau ar ôl i’r adran hon ddod i rym.

(3)Rhaid i’r rhaglen gynnwys gweithgareddau arfaethedig y bwriedir iddynt—

(a)cyfrannu at broses barhaus o gydgrynhoi a chodeiddio cyfraith Cymru;

(b)cynnal ffurf cyfraith Cymru (wedi iddi gael ei chodeiddio);

(c)hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gyfraith Cymru;

(d)hwyluso defnydd o’r Gymraeg.

(4)Caiff y rhaglen hefyd gynnwys gweithgareddau arfaethedig—

(a)y gellir eu cyflawni drwy gydweithio â Chomisiwn y Gyfraith (yn unol â Deddf Comisiynau’r Gyfraith 1965 (p. 22)), neu

(b)o unrhyw fath arall y mae Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol yn ystyried ei fod yn briodol.

(5)Rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol osod copi o’r rhaglen gerbron [F2Senedd Cymru] o fewn 6 mis i benodi Prif Weinidog ar ôl etholiad cyffredinol a gynhelir o dan Ran 1 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(6)Caiff Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol ddiwygio’r rhaglen ar unrhyw adeg, ac os gwnânt hynny rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol osod copi o’r rhaglen ddiwygiedig gerbron [F3Senedd Cymru].

(7)Rhaid [F4i Senedd Cymru] adrodd yn flynyddol i’r Cynulliad Cenedlaethol ar y cynnydd a wneir o dan y rhaglen.

(8)Yn is-adran (3), mae codeiddio cyfraith Cymru yn cynnwys—

(a)mabwysiadu strwythur ar gyfer cyfraith Cymru sy’n gwella ei hygyrchedd;

(b)trefnu a chyhoeddi cyfraith Cymru sydd wedi ei chydgrynhoi yn ôl y strwythur hwnnw.

Diwygiadau Testunol

F1Geiriau yn a. 2(2) wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(2)(a)

F2Geiriau yn a. 2(5) wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(2)(b)

F3Geiriau yn a. 2(6) wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(2)(b)

F4Geiriau yn a. 2(7) wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(2)(b)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 2 mewn grym ar 11.9.2019, gweler a. 44(1)(a)