RHAN 2DEHONGLI A GWEITHREDU DEDDFWRIAETH CYMRU
Pwerau a dyletswyddau
18Dirymu, diwygio ac ailddeddfu is-ddeddfwriaeth
(1)
Caniateir arfer pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth a roddir gan Ddeddf Cynulliad i ddiwygio, dirymu neu ailddeddfu unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan y pŵer.
(2)
Mae dyletswydd i wneud is-ddeddfwriaeth a osodir gan Ddeddf Cynulliad yn cynnwys pŵer (sy’n arferadwy yn yr un ffordd ac yn ddarostyngedig i’r un amodau neu gyfyngiadau â’r ddyletswydd) y caniateir ei arfer i ddiwygio, dirymu a disodli, neu ailddeddfu unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan y ddyletswydd (neu o dan y pŵer a ddarperir gan yr is-adran hon).