RHAN 2LL+CDEHONGLI A GWEITHREDU DEDDFWRIAETH CYMRU

Pwerau a dyletswyddauLL+C

17Cynnwys darpariaethau machlud a darpariaethau adolygu mewn is-ddeddfwriaethLL+C

(1)Caniateir arfer pŵer neu ddyletswydd i wneud is-ddeddfwriaeth a roddir neu a osodir gan [F1Ddeddf gan Senedd Cymru] fel bod yr is-ddeddfwriaeth yn cynnwys darpariaeth adolygu neu ddarpariaeth fachlud (neu’r ddwy).

(2)Yn yr adran hon—

(a)ystyr “darpariaeth adolygu” yw darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person a wnaeth yr is-ddeddfwriaeth adolygu effeithiolrwydd y ddeddfwriaeth honno, neu effeithiolrwydd unrhyw is-offeryn Cymreig y mae’n ei ddiwygio, o fewn cyfnod penodedig neu ar ddiwedd cyfnod penodedig;

(b)ystyr “darpariaeth fachlud” yw darpariaeth i’r is-ddeddfwriaeth, neu unrhyw is-offeryn Cymreig y mae’n ei ddiwygio, beidio â chael effaith ar ddiwedd diwrnod penodedig neu gyfnod penodedig;

(c)ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu yn yr is-ddeddfwriaeth.

(3)Caiff darpariaeth adolygu, ymhlith pethau eraill, wneud adolygiad yn ofynnol i ystyried a yw amcanion yr is-ddeddfwriaeth y mae’n gymwys iddi yn dal i fod yn briodol ac, os felly, a ellid eu cyflawni mewn ffordd arall.

(4)Caiff yr is-ddeddfwriaeth sy’n cynnwys y ddarpariaeth adolygu neu’r ddarpariaeth fachlud ddarparu i’r ddarpariaeth fod yn gymwys yn gyffredinol neu’n unig mewn perthynas â darpariaethau penodedig yr is-ddeddfwriaeth neu achosion neu amgylchiadau penodedig.

(5)Caniateir arfer y pŵer i wneud y ddarpariaeth adolygu neu’r ddarpariaeth fachlud i wneud darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â’r ddarpariaeth adolygu neu’r ddarpariaeth fachlud.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 17 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I2A. 17 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2