RHAN 2DEHONGLI A GWEITHREDU DEDDFWRIAETH CYMRU

Pwerau a dyletswyddau

I1I217Cynnwys darpariaethau machlud a darpariaethau adolygu mewn is-ddeddfwriaeth

1

Caniateir arfer pŵer neu ddyletswydd i wneud is-ddeddfwriaeth a roddir neu a osodir gan F1Ddeddf gan Senedd Cymru fel bod yr is-ddeddfwriaeth yn cynnwys darpariaeth adolygu neu ddarpariaeth fachlud (neu’r ddwy).

2

Yn yr adran hon—

a

ystyr “darpariaeth adolygu” yw darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person a wnaeth yr is-ddeddfwriaeth adolygu effeithiolrwydd y ddeddfwriaeth honno, neu effeithiolrwydd unrhyw is-offeryn Cymreig y mae’n ei ddiwygio, o fewn cyfnod penodedig neu ar ddiwedd cyfnod penodedig;

b

ystyr “darpariaeth fachlud” yw darpariaeth i’r is-ddeddfwriaeth, neu unrhyw is-offeryn Cymreig y mae’n ei ddiwygio, beidio â chael effaith ar ddiwedd diwrnod penodedig neu gyfnod penodedig;

c

ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu yn yr is-ddeddfwriaeth.

3

Caiff darpariaeth adolygu, ymhlith pethau eraill, wneud adolygiad yn ofynnol i ystyried a yw amcanion yr is-ddeddfwriaeth y mae’n gymwys iddi yn dal i fod yn briodol ac, os felly, a ellid eu cyflawni mewn ffordd arall.

4

Caiff yr is-ddeddfwriaeth sy’n cynnwys y ddarpariaeth adolygu neu’r ddarpariaeth fachlud ddarparu i’r ddarpariaeth fod yn gymwys yn gyffredinol neu’n unig mewn perthynas â darpariaethau penodedig yr is-ddeddfwriaeth neu achosion neu amgylchiadau penodedig.

5

Caniateir arfer y pŵer i wneud y ddarpariaeth adolygu neu’r ddarpariaeth fachlud i wneud darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â’r ddarpariaeth adolygu neu’r ddarpariaeth fachlud.