Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019

16Arfer pŵer neu ddyletswydd nad yw mewn grymLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo pŵer neu ddyletswydd yn cael ei roi neu ei gosod—

[F1(a)gan ddarpariaeth mewn Deddf gan Senedd Cymru na ddaw i rym ar y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol neu drannoeth y diwrnod hwnnw, neu]

(b)gan ddarpariaeth mewn is-offeryn Cymreig na ddaw i rym unwaith y caiff yr offeryn ei wneud.

(2)Caniateir arfer y pŵer neu’r ddyletswydd (a chaiff unrhyw offeryn a wneir o dan y pŵer neu’r ddyletswydd ddod i rym) yn ystod y cyfnod—

(a)sy’n dechrau pan gaiff y Ddeddf F2... y Cydsyniad Brenhinol neu pan wneir yr [F3offeryn], a

(b)sy’n gorffen pan ddaw’r ddarpariaeth sy’n rhoi’r pŵer neu’n gosod y ddyletswydd i rym.

(3)Ond yn ystod y cyfnod hwnnw ni chaniateir arfer y pŵer neu’r ddyletswydd ond i’r graddau y mae’n angenrheidiol neu’n hwylus at ddiben rhoi effaith lawn—

(a)i’r Ddeddf F4... neu i’r [F5offeryn] sy’n rhoi’r pŵer neu’n gosod y ddyletswydd, neu

(b)i ddarpariaeth yn y Ddeddf honno neu’r offeryn hwnnw,

ar yr adeg neu ar ôl yr adeg y daw’r Ddeddf, yr offeryn neu’r ddarpariaeth i rym.

[F6(3A)Nid yw is-adran (3) yn gymwys i arfer pŵer neu ddyletswydd i wneud is-ddeddfwriaeth oni bai bod yr is-ddeddfwriaeth i ddod i rym cyn y ddarpariaeth sy’n rhoi’r pŵer neu’n gosod y ddyletswydd.]

(4)Pan fo darpariaeth mewn [F7Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig nad yw mewn grym⁠—

(a)yn gysylltiedig â phŵer neu ddyletswydd, neu’n atodol i bŵer neu ddyletswydd, a arferir yn unol â’r adran hon, a

(b)yn dod i rym ac eithrio drwy orchymyn neu reoliadau,

mae’r ddarpariaeth honno i’w thrin fel pe bai mewn grym i’r graddau y mae’n angenrheidiol i arfer y pŵer neu’r ddyletswydd yn unol â’r adran hon.

(5)Mae arfer pŵer neu ddyletswydd yn unol â’r adran hon yn ddarostyngedig i unrhyw amodau neu gyfyngiadau a osodir gan y Ddeddf F8... neu’r [F9offeryn] sy’n rhoi’r pŵer neu’n gosod y ddyletswydd (pa un a yw’r ddarpariaeth sy’n gosod yr amod neu’r cyfyngiad mewn grym ai peidio).

[F10(6)Yn is-adran (1), mae’r cyfeiriadau at ddarpariaeth mewn Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig yn cynnwys darpariaeth sy’n diwygio deddfiad arall.

(7)Pan fo darpariaeth mewn Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig yn rhoi pŵer neu’n gosod dyletswydd drwy ddiwygio deddfiad arall, mae’r cyfeiriadau at Ddeddf neu offeryn yn is-adrannau (3)(a) a (b), (4) a (5) yn cynnwys y deddfiad arall fel y’i diwygiwyd.]

Diwygiadau Testunol

F2Gair yn a. 16(2)(a) wedi ei hepgor (6.5.2020) yn rhinwedd Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(3)(a)(4)(b)

F4Gair yn a. 16(3)(a) wedi ei hepgor (6.5.2020) yn rhinwedd Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(3)(a)(4)(b)

F8Gair yn a. 16(5) wedi ei hepgor (6.5.2020) yn rhinwedd Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(3)(a)(4)(b)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 16 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I2A. 16 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2