RHAN 2DEHONGLI A GWEITHREDU DEDDFWRIAETH CYMRU
Pwerau a dyletswyddau
16Arfer pŵer neu ddyletswydd nad yw mewn grym
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo pŵer neu ddyletswydd yn cael ei roi neu ei gosod—
F1(a)
gan ddarpariaeth mewn Deddf gan Senedd Cymru na ddaw i rym ar y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol neu drannoeth y diwrnod hwnnw, neu
(b)
gan ddarpariaeth mewn is-offeryn Cymreig na ddaw i rym unwaith y caiff yr offeryn ei wneud.
(2)
Caniateir arfer y pŵer neu’r ddyletswydd (a chaiff unrhyw offeryn a wneir o dan y pŵer neu’r ddyletswydd ddod i rym) yn ystod y cyfnod—
(b)
sy’n gorffen pan ddaw’r ddarpariaeth sy’n rhoi’r pŵer neu’n gosod y ddyletswydd i rym.
(3)
Ond yn ystod y cyfnod hwnnw ni chaniateir arfer y pŵer neu’r ddyletswydd ond i’r graddau y mae’n angenrheidiol neu’n hwylus at ddiben rhoi effaith lawn—
(b)
i ddarpariaeth yn y Ddeddf honno neu’r offeryn hwnnw,
ar yr adeg neu ar ôl yr adeg y daw’r Ddeddf, yr offeryn neu’r ddarpariaeth i rym.
F6(3A)
Nid yw is-adran (3) yn gymwys i arfer pŵer neu ddyletswydd i wneud is-ddeddfwriaeth oni bai bod yr is-ddeddfwriaeth i ddod i rym cyn y ddarpariaeth sy’n rhoi’r pŵer neu’n gosod y ddyletswydd.
(4)
Pan fo darpariaeth mewn F7Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig nad yw mewn grym—
(a)
yn gysylltiedig â phŵer neu ddyletswydd, neu’n atodol i bŵer neu ddyletswydd, a arferir yn unol â’r adran hon, a
(b)
yn dod i rym ac eithrio drwy orchymyn neu reoliadau,
mae’r ddarpariaeth honno i’w thrin fel pe bai mewn grym i’r graddau y mae’n angenrheidiol i arfer y pŵer neu’r ddyletswydd yn unol â’r adran hon.
(5)
F10(6)
Yn is-adran (1), mae’r cyfeiriadau at ddarpariaeth mewn Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig yn cynnwys darpariaeth sy’n diwygio deddfiad arall.
(7)
Pan fo darpariaeth mewn Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig yn rhoi pŵer neu’n gosod dyletswydd drwy ddiwygio deddfiad arall, mae’r cyfeiriadau at Ddeddf neu offeryn yn is-adrannau (3)(a) a (b), (4) a (5) yn cynnwys y deddfiad arall fel y’i diwygiwyd.