xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo pŵer neu ddyletswydd yn cael ei roi neu ei gosod—
(a)gan ddarpariaeth mewn Deddf Cynulliad a ddaw i rym—
(i)ac eithrio drwy orchymyn neu reoliadau, a
(ii)mwy nag un diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol, neu
(b)gan ddarpariaeth mewn is-offeryn Cymreig na ddaw i rym unwaith y caiff yr offeryn ei wneud.
(2)Caniateir arfer y pŵer neu’r ddyletswydd (a chaiff unrhyw offeryn a wneir o dan y pŵer neu’r ddyletswydd ddod i rym) yn ystod y cyfnod—
(a)sy’n dechrau pan gaiff y Ddeddf Cynulliad y Cydsyniad Brenhinol neu pan wneir yr is-offeryn Cymreig, a
(b)sy’n gorffen pan ddaw’r ddarpariaeth sy’n rhoi’r pŵer neu’n gosod y ddyletswydd i rym.
(3)Ond yn ystod y cyfnod hwnnw ni chaniateir arfer y pŵer neu’r ddyletswydd ond i’r graddau y mae’n angenrheidiol neu’n hwylus at ddiben rhoi effaith lawn—
(a)i’r Ddeddf Cynulliad neu i’r is-offeryn Cymreig sy’n rhoi’r pŵer neu’n gosod y ddyletswydd, neu
(b)i ddarpariaeth yn y Ddeddf honno neu’r offeryn hwnnw,
ar yr adeg neu ar ôl yr adeg y daw’r Ddeddf, yr offeryn neu’r ddarpariaeth i rym.
(4)Pan fo darpariaeth mewn Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig nad yw mewn grym—
(a)yn gysylltiedig â phŵer neu ddyletswydd, neu’n atodol i bŵer neu ddyletswydd, a arferir yn unol â’r adran hon, a
(b)yn dod i rym ac eithrio drwy orchymyn neu reoliadau,
mae’r ddarpariaeth honno i’w thrin fel pe bai mewn grym i’r graddau y mae’n angenrheidiol i arfer y pŵer neu’r ddyletswydd yn unol â’r adran hon.
(5)Mae arfer pŵer neu ddyletswydd yn unol â’r adran hon yn ddarostyngedig i unrhyw amodau neu gyfyngiadau a osodir gan y Ddeddf Cynulliad neu’r is-offeryn Cymreig sy’n rhoi’r pŵer neu’n gosod y ddyletswydd (pa un a yw’r ddarpariaeth sy’n gosod yr amod neu’r cyfyngiad mewn grym ai peidio).