RHAN 2DEHONGLI A GWEITHREDU DEDDFWRIAETH CYMRU
Pwerau a dyletswyddau
16Arfer pŵer neu ddyletswydd nad yw mewn grym
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo pŵer neu ddyletswydd yn cael ei roi neu ei gosod—
(a)
gan ddarpariaeth mewn F1Deddf gan Senedd Cymru a ddaw i rym—
(i)
ac eithrio drwy orchymyn neu reoliadau, a
(ii)
mwy nag un diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol, neu
(b)
gan ddarpariaeth mewn is-offeryn Cymreig na ddaw i rym unwaith y caiff yr offeryn ei wneud.
(2)
Caniateir arfer y pŵer neu’r ddyletswydd (a chaiff unrhyw offeryn a wneir o dan y pŵer neu’r ddyletswydd ddod i rym) yn ystod y cyfnod—
(b)
sy’n gorffen pan ddaw’r ddarpariaeth sy’n rhoi’r pŵer neu’n gosod y ddyletswydd i rym.
(3)
Ond yn ystod y cyfnod hwnnw ni chaniateir arfer y pŵer neu’r ddyletswydd ond i’r graddau y mae’n angenrheidiol neu’n hwylus at ddiben rhoi effaith lawn—
(b)
i ddarpariaeth yn y Ddeddf honno neu’r offeryn hwnnw,
ar yr adeg neu ar ôl yr adeg y daw’r Ddeddf, yr offeryn neu’r ddarpariaeth i rym.
(4)
Pan fo darpariaeth mewn F1Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig nad yw mewn grym—
(a)
yn gysylltiedig â phŵer neu ddyletswydd, neu’n atodol i bŵer neu ddyletswydd, a arferir yn unol â’r adran hon, a
(b)
yn dod i rym ac eithrio drwy orchymyn neu reoliadau,
mae’r ddarpariaeth honno i’w thrin fel pe bai mewn grym i’r graddau y mae’n angenrheidiol i arfer y pŵer neu’r ddyletswydd yn unol â’r adran hon.