RHAN 2DEHONGLI A GWEITHREDU DEDDFWRIAETH CYMRU
Pwerau a dyletswyddau
15Parhad pwerau a dyletswyddau
(1)
Caniateir arfer pŵer a roddir gan Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig ar fwy nag un achlysur.
(2)
Mae dyletswydd a osodir gan Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn ddyletswydd barhaus a rhaid ei chyflawni yn ôl y gofyn.
(3)
Pan roddir pŵer gan Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig i ddeiliad swydd neu pan osodir dyletswydd ar ddeiliad swydd gan Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig, mae i’w arfer neu i’w harfer gan ddeiliad y swydd ar y pryd.