Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019

14Y diwrnod pan fernir bod dogfen wedi ei chyflwynoLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

Pan fo dogfen yn cael ei chyflwyno drwy’r post neu’n electronig o dan Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig, bernir bod y ddogfen wedi ei chyflwyno, oni phrofir i’r gwrthwyneb—

(a)yn achos dogfen a gyflwynir drwy’r post, ar y diwrnod y byddai’r llythyr sy’n cynnwys y ddogfen yn cyrraedd yn nhrefn arferol y post;

(b)yn achos dogfen a gyflwynir yn electronig, ar y diwrnod yr anfonir y cyfathrebiad electronig.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 14 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)