Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019

13Cyflwyno dogfennau drwy’r post neu’n electronigLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Pan fo [F1Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn awdurdodi person (“A”) neu’n ei gwneud yn ofynnol i A gyflwyno dogfen drwy’r post i berson arall (“B”), mae A yn cyflwyno’r ddogfen os yw A yn cyfeirio’n briodol lythyr sy’n cynnwys y ddogfen, yn talu ymlaen llaw am ei bostio, ac yn ei bostio at B.

(2)Pan fo [F1Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn awdurdodi person (“A”) neu’n ei gwneud yn ofynnol i A gyflwyno dogfen i berson arall (“B”) yn electronig, mae A yn cyflwyno’r ddogfen—

(a)os yw A yn cyfeirio’n briodol gyfathrebiad electronig sy’n ffurfio’r ddogfen neu’n cynnwys y ddogfen, neu y mae’r ddogfen ynghlwm wrtho, ac yn ei anfon at B, a

(b)os yw’r ddogfen yn cael ei hanfon ar ffurf electronig y gall B ei chyrchu a’i chadw.

(3)Mae’r adran hon yn gymwys pa un a yw’r Ddeddf F2... neu’r [F3offeryn] yn defnyddio’r gair “cyflwyno” neu unrhyw ymadrodd arall (megis “anfon” neu “rhoi”) i gyfeirio at gyflwyno’r ddogfen.

Diwygiadau Testunol

F2Gair yn a. 13(3) wedi ei hepgor (6.5.2020) yn rhinwedd Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(3)(a)(4)(a)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 13 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I2A. 13 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2