RHAN 1HYGYRCHEDD CYFRAITH CYMRU
1Dyletswydd i gadw hygyrchedd cyfraith Cymru o dan adolygiad
(1)
Rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol gadw hygyrchedd cyfraith Cymru o dan adolygiad.
(2)
Yn y Rhan hon, ystyr “hygyrchedd” cyfraith Cymru yw’r graddau y mae—
(a)
ar gael yn hwylus i aelodau’r cyhoedd yn y Gymraeg a’r Saesneg;
(b)
wedi ei chyhoeddi ar ei ffurf ddiweddaraf yn y ddwy iaith (sy’n dangos a yw deddfiadau mewn grym ac yn corffori unrhyw ddiwygiadau a wneir iddynt);
(c)
wedi ei threfnu’n glir ac yn rhesymegol (o fewn deddfiadau yn ogystal â rhwng deddfiadau);
(d)
yn hawdd ei deall ac yn sicr ei heffaith.
(3)
Yn y Rhan hon, ystyr “cyfraith Cymru” yw—
(a)
F1Deddfau Senedd Cymru a Mesurau’r Cynulliad;
(b)
is-ddeddfwriaeth a wneir o dan F1Ddeddfau Senedd Cymru a Mesurau’r Cynulliad;
(c)
unrhyw is-ddeddfwriaeth arall a wneir gan Weinidogion Cymru neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru a sefydlwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38), i’r graddau y mae’n gymwys o ran Cymru;
(d)
unrhyw ddeddfiad arall, neu unrhyw reol gyfreithiol arall, i’r graddau y mae’n gymwys o ran Cymru ac y mae’n ymwneud â phwnc y gellid darparu ar ei gyfer mewn F2Deddf gan Senedd Cymru.