xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CDEHONGLI A GWEITHREDU DEDDFWRIAETH CYMRU

Cymhwyso’r Rhan a’i heffaithLL+C

3Deddfwriaeth y mae’r Rhan hon yn gymwys iddiLL+C

(1)Mae’r Rhan hon yn gymwys i—

(a)y Ddeddf hon;

(b)[F1Deddfau Senedd Cymru] sy’n cael y Cydsyniad Brenhinol ar [F21 Ionawr 2020 neu ar ôl y diwrnod hwnnw];

(c)is-offerynnau Cymreig a wneir ar [F31 Ionawr 2020] neu ar ôl y diwrnod hwnnw.

(2)Ystyr “is-offeryn Cymreig” yw offeryn (pa un a yw’r offeryn hwnnw yn offeryn statudol ai peidio) nad yw ond yn cynnwys un neu ddau o’r canlynol—

(a)is-ddeddfwriaeth a wneir o dan [F4Ddeddf gan Senedd Cymru] neu Fesur Cynulliad, pa un ai gan Weinidogion Cymru neu gan unrhyw berson arall;

(b)is-ddeddfwriaeth—

(i)a wneir o dan Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig neu ddeddfwriaeth uniongyrchol [F5a gymathwyd],

(ii)nas gwneir ond gan Weinidogion Cymru neu unrhyw awdurdod Cymreig datganoledig arall (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” gan adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)), a

(iii)nad yw ond yn gymwys o ran Cymru.

(3)Mae cyfeiriadau yng ngweddill y Rhan hon at [F4Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig (oni ddarperir fel arall) yn gyfeiriadau at [F4Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig y mae’r Rhan hon yn gymwys iddi neu iddo yn rhinwedd is-adran (1).

[F6(4)Mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â physgota, pysgodfeydd neu iechyd pysgod ac a wneir ar ôl i adran 45 o Ddeddf Pysgodfeydd 2020 (p. 22) ddod i rym, mae'r cyfeiriad yn is-adran (2)(b)(iii) at Gymru yn cynnwys yr ardal o barth Cymru sydd y tu hwnt i derfynau atfor y môr tiriogaethol.]

Diwygiadau Testunol

F6A. 3(4) wedi ei fewnosod (23.1.2021) gan Fisheries Act 2020 (c. 22), aau. 46(6)(b), 54(2) (ynghyd ag Atod. 4 para. 31)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 3 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I2A. 3 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

4Effaith darpariaethau’r Rhan honLL+C

(1)Pan fo’r Rhan hon yn gymwys i [F4Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig, mae’r darpariaethau yn y Rhan hon yn cael effaith mewn perthynas â’r Ddeddf honno neu’r offeryn hwnnw, ac eithrio i’r graddau—

(a)y mae darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb, neu

(b)y mae’r cyd-destun yn mynnu fel arall.

(2)Nid yw’r eithriad yn is-adran (1) yn gymwys i adran 5 (statws cyfartal testunau deddfwriaeth ddwyieithog).

(3)Nid yw paragraff (b) o’r eithriad hwnnw yn gymwys i—

(a)adran 10 (cyfeiriadau at amser o’r dydd);

(b)adran 28 (cymhwyso deddfwriaeth Cymru i’r Goron);

(c)adran 33 (nid yw diddymiadau na dirymiadau yn adfer cyfraith a ddiddymwyd, a ddirymwyd neu a ddilëwyd eisoes).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 4 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I4A. 4 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

Deddfwriaeth ddwyieithog CymruLL+C

5Statws cyfartal y testunau Cymraeg a SaesnegLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo [F4Deddf gan Senedd Cymru] yn cael ei deddfu, neu pan fo is-offeryn Cymreig yn cael ei wneud, yn y Gymraeg a’r Saesneg.

(2)Mae i’r testun Cymraeg a’r testun Saesneg statws cyfartal at bob diben.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 5 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I6A. 5 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

Ystyr geiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn neddfwriaeth CymruLL+C

6Diffiniadau o eiriau ac ymadroddionLL+C

(1)Mae geiriau ac ymadroddion a restrir yn y Tabl yn Atodlen 1 i’w dehongli yn unol â’r Tabl hwnnw pan fônt yn ymddangos mewn [F4Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio Atodlen 1 er mwyn—

(a)mewnosod diffiniadau newydd o eiriau neu ymadroddion;

(b)dileu diffiniadau o eiriau neu ymadroddion;

(c)diwygio diffiniadau o eiriau neu ymadroddion.

(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (2) wneud darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed, a gaiff gynnwys darpariaeth sy’n diwygio, yn diddymu, yn dirymu neu’n addasu fel arall unrhyw ddeddfiad (pryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 6(1) mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I8A. 6(2)(3) mewn grym ar 11.9.2019, gweler a. 44(1)(b)

I9A. 6(1) mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

7Mae geiriau yn y ffurf unigol yn cynnwys y ffurf luosog ac fel arallLL+C

Mewn [F4Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig—

(a)mae geiriau yn y ffurf unigol yn cynnwys y ffurf luosog;

(b)mae geiriau yn y ffurf luosog yn cynnwys y ffurf unigol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 7 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I11A. 7 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

8Nid yw geiriau sy’n dynodi rhywedd yn gyfyngedig i’r rhywedd hwnnwLL+C

Mewn [F4Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig, nid yw geiriau sy’n dynodi personau o rywedd penodol i’w darllen fel pe baent yn gyfyngedig i bersonau o’r rhywedd hwnnw.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 8 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I13A. 8 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

9Amrywio geiriau ac ymadroddion oherwydd gramadeg etc.LL+C

Pan fo deddfiad yn rhoi ystyr i air neu ymadrodd mewn [F4Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig, mae rhannau ymadrodd eraill a ffurfiau neu oleddfiadau gramadegol ar y gair neu’r ymadrodd i’w dehongli yn unol â’r ystyr hwnnw.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 9 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I15A. 9 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

10Cyfeiriadau at amser o’r dyddLL+C

Mae cyfeiriad at amser o’r dydd mewn [F4Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn gyfeiriad at amser safonol Greenwich; ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 3 o Ddeddf Amser Haf 1972 (p. 6) (pwyntiau o amser yn ystod amser haf).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I16A. 10 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I17A. 10 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

11Cyfeiriadau at y SofrenLL+C

Mae cyfeiriad at y Sofren mewn [F4Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig i’w ddarllen fel cyfeiriad at y Sofren ar y pryd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I18A. 11 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I19A. 11 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

12Mesur pellterLL+C

Mae cyfeiriad at bellter mewn [F4Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn gyfeiriad at y pellter hwnnw wedi ei fesur mewn llinell syth ar blân llorweddol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I20A. 12 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I21A. 12 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

Cyflwyno dogfennau drwy’r post neu’n electronigLL+C

13Cyflwyno dogfennau drwy’r post neu’n electronigLL+C

(1)Pan fo [F4Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn awdurdodi person (“A”) neu’n ei gwneud yn ofynnol i A gyflwyno dogfen drwy’r post i berson arall (“B”), mae A yn cyflwyno’r ddogfen os yw A yn cyfeirio’n briodol lythyr sy’n cynnwys y ddogfen, yn talu ymlaen llaw am ei bostio, ac yn ei bostio at B.

(2)Pan fo [F4Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn awdurdodi person (“A”) neu’n ei gwneud yn ofynnol i A gyflwyno dogfen i berson arall (“B”) yn electronig, mae A yn cyflwyno’r ddogfen—

(a)os yw A yn cyfeirio’n briodol gyfathrebiad electronig sy’n ffurfio’r ddogfen neu’n cynnwys y ddogfen, neu y mae’r ddogfen ynghlwm wrtho, ac yn ei anfon at B, a

(b)os yw’r ddogfen yn cael ei hanfon ar ffurf electronig y gall B ei chyrchu a’i chadw.

(3)Mae’r adran hon yn gymwys pa un a yw’r Ddeddf F7... neu’r [F8offeryn] yn defnyddio’r gair “cyflwyno” neu unrhyw ymadrodd arall (megis “anfon” neu “rhoi”) i gyfeirio at gyflwyno’r ddogfen.

Diwygiadau Testunol

F7Gair yn a. 13(3) wedi ei hepgor (6.5.2020) yn rhinwedd Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(3)(a)(4)(a)

Gwybodaeth Cychwyn

I22A. 13 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I23A. 13 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

14Y diwrnod pan fernir bod dogfen wedi ei chyflwynoLL+C

Pan fo dogfen yn cael ei chyflwyno drwy’r post neu’n electronig o dan [F4Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig, bernir bod y ddogfen wedi ei chyflwyno, oni phrofir i’r gwrthwyneb—

(a)yn achos dogfen a gyflwynir drwy’r post, ar y diwrnod y byddai’r llythyr sy’n cynnwys y ddogfen yn cyrraedd yn nhrefn arferol y post;

(b)yn achos dogfen a gyflwynir yn electronig, ar y diwrnod yr anfonir y cyfathrebiad electronig.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I24A. 14 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I25A. 14 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

Pwerau a dyletswyddauLL+C

15Parhad pwerau a dyletswyddauLL+C

(1)Caniateir arfer pŵer a roddir gan [F4Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig ar fwy nag un achlysur.

(2)Mae dyletswydd a osodir gan [F4Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn ddyletswydd barhaus a rhaid ei chyflawni yn ôl y gofyn.

(3)Pan roddir pŵer gan [F4Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig i ddeiliad swydd neu pan osodir dyletswydd ar ddeiliad swydd gan [F4Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig, mae i’w arfer neu i’w harfer gan ddeiliad y swydd ar y pryd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I26A. 15 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I27A. 15 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

16Arfer pŵer neu ddyletswydd nad yw mewn grymLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo pŵer neu ddyletswydd yn cael ei roi neu ei gosod—

(a)gan ddarpariaeth mewn [F4Deddf gan Senedd Cymru] a ddaw i rym—

(i)ac eithrio drwy orchymyn neu reoliadau, a

(ii)mwy nag un diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol, neu

(b)gan ddarpariaeth mewn is-offeryn Cymreig na ddaw i rym unwaith y caiff yr offeryn ei wneud.

(2)Caniateir arfer y pŵer neu’r ddyletswydd (a chaiff unrhyw offeryn a wneir o dan y pŵer neu’r ddyletswydd ddod i rym) yn ystod y cyfnod—

(a)sy’n dechrau pan gaiff y Ddeddf F9... y Cydsyniad Brenhinol neu pan wneir yr [F10offeryn], a

(b)sy’n gorffen pan ddaw’r ddarpariaeth sy’n rhoi’r pŵer neu’n gosod y ddyletswydd i rym.

(3)Ond yn ystod y cyfnod hwnnw ni chaniateir arfer y pŵer neu’r ddyletswydd ond i’r graddau y mae’n angenrheidiol neu’n hwylus at ddiben rhoi effaith lawn—

(a)i’r Ddeddf F11... neu i’r [F12offeryn] sy’n rhoi’r pŵer neu’n gosod y ddyletswydd, neu

(b)i ddarpariaeth yn y Ddeddf honno neu’r offeryn hwnnw,

ar yr adeg neu ar ôl yr adeg y daw’r Ddeddf, yr offeryn neu’r ddarpariaeth i rym.

(4)Pan fo darpariaeth mewn [F4Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig nad yw mewn grym⁠—

(a)yn gysylltiedig â phŵer neu ddyletswydd, neu’n atodol i bŵer neu ddyletswydd, a arferir yn unol â’r adran hon, a

(b)yn dod i rym ac eithrio drwy orchymyn neu reoliadau,

mae’r ddarpariaeth honno i’w thrin fel pe bai mewn grym i’r graddau y mae’n angenrheidiol i arfer y pŵer neu’r ddyletswydd yn unol â’r adran hon.

(5)Mae arfer pŵer neu ddyletswydd yn unol â’r adran hon yn ddarostyngedig i unrhyw amodau neu gyfyngiadau a osodir gan y Ddeddf F13... neu’r [F14offeryn] sy’n rhoi’r pŵer neu’n gosod y ddyletswydd (pa un a yw’r ddarpariaeth sy’n gosod yr amod neu’r cyfyngiad mewn grym ai peidio).

Diwygiadau Testunol

F9Gair yn a. 16(2)(a) wedi ei hepgor (6.5.2020) yn rhinwedd Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(3)(a)(4)(b)

F11Gair yn a. 16(3)(a) wedi ei hepgor (6.5.2020) yn rhinwedd Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(3)(a)(4)(b)

F13Gair yn a. 16(5) wedi ei hepgor (6.5.2020) yn rhinwedd Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(3)(a)(4)(b)

Gwybodaeth Cychwyn

I28A. 16 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I29A. 16 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

17Cynnwys darpariaethau machlud a darpariaethau adolygu mewn is-ddeddfwriaethLL+C

(1)Caniateir arfer pŵer neu ddyletswydd i wneud is-ddeddfwriaeth a roddir neu a osodir gan [F4Ddeddf gan Senedd Cymru] fel bod yr is-ddeddfwriaeth yn cynnwys darpariaeth adolygu neu ddarpariaeth fachlud (neu’r ddwy).

(2)Yn yr adran hon—

(a)ystyr “darpariaeth adolygu” yw darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person a wnaeth yr is-ddeddfwriaeth adolygu effeithiolrwydd y ddeddfwriaeth honno, neu effeithiolrwydd unrhyw is-offeryn Cymreig y mae’n ei ddiwygio, o fewn cyfnod penodedig neu ar ddiwedd cyfnod penodedig;

(b)ystyr “darpariaeth fachlud” yw darpariaeth i’r is-ddeddfwriaeth, neu unrhyw is-offeryn Cymreig y mae’n ei ddiwygio, beidio â chael effaith ar ddiwedd diwrnod penodedig neu gyfnod penodedig;

(c)ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu yn yr is-ddeddfwriaeth.

(3)Caiff darpariaeth adolygu, ymhlith pethau eraill, wneud adolygiad yn ofynnol i ystyried a yw amcanion yr is-ddeddfwriaeth y mae’n gymwys iddi yn dal i fod yn briodol ac, os felly, a ellid eu cyflawni mewn ffordd arall.

(4)Caiff yr is-ddeddfwriaeth sy’n cynnwys y ddarpariaeth adolygu neu’r ddarpariaeth fachlud ddarparu i’r ddarpariaeth fod yn gymwys yn gyffredinol neu’n unig mewn perthynas â darpariaethau penodedig yr is-ddeddfwriaeth neu achosion neu amgylchiadau penodedig.

(5)Caniateir arfer y pŵer i wneud y ddarpariaeth adolygu neu’r ddarpariaeth fachlud i wneud darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â’r ddarpariaeth adolygu neu’r ddarpariaeth fachlud.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I30A. 17 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I31A. 17 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

18Dirymu, diwygio ac ailddeddfu is-ddeddfwriaethLL+C

(1)Caniateir arfer pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth a roddir gan [F4Ddeddf gan Senedd Cymru] i ddiwygio, dirymu neu ailddeddfu unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan y pŵer.

(2)Mae dyletswydd i wneud is-ddeddfwriaeth a osodir gan [F4Ddeddf gan Senedd Cymru] yn cynnwys pŵer (sy’n arferadwy yn yr un ffordd ac yn ddarostyngedig i’r un amodau neu gyfyngiadau â’r ddyletswydd) y caniateir ei arfer i ddiwygio, dirymu a disodli, neu ailddeddfu unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan y ddyletswydd (neu o dan y pŵer a ddarperir gan yr is-adran hon).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I32A. 18 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I33A. 18 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

19Diwygio is-ddeddfwriaeth gan [F4Ddeddf gan Senedd Cymru] LL+C

Nid yw diwygio na dirymu is-ddeddfwriaeth gan [F4Ddeddf gan Senedd Cymru] yn cyfyngu nac yn effeithio fel arall ar y pŵer neu’r ddyletswydd y gwnaed yr is-ddeddfwriaeth odano neu odani.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I34A. 19 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I35A. 19 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

20Amrywio cyfarwyddydau a’u tynnu’n ôlLL+C

(1)Caniateir arfer pŵer a roddir gan [F4Ddeddf gan Senedd Cymru] neu gan is-offeryn Cymreig i roi cyfarwyddydau i amrywio unrhyw gyfarwyddydau neu dynnu’n ôl unrhyw gyfarwyddydau a roddir o dan y pŵer.

(2)Mae dyletswydd i roi cyfarwyddydau a osodir gan [F4Ddeddf gan Senedd Cymru] neu gan is-offeryn Cymreig yn cynnwys pŵer (sy’n arferadwy yn yr un ffordd ac yn ddarostyngedig i’r un amodau neu gyfyngiadau â’r ddyletswydd) i amrywio, neu dynnu’n ôl a disodli, unrhyw gyfarwyddydau a roddir o dan y ddyletswydd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I36A. 20 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I37A. 20 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

Cyfeiriadau yn neddfwriaeth Cymru at ddeddfwriaeth a dogfennau eraillLL+C

21Cyfeiriadau at raniadau o ddeddfiadau, offerynnau a dogfennauLL+C

(1)Pan fo [F4Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig—

(a)yn disgrifio rhaniad o unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen neu’n cyfeirio at raniad o unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen, a

(b)yn gwneud hynny drwy gyfeirio at eiriau, adrannau neu rannau eraill y mae’r rhaniad yn ymestyn oddi wrthynt neu atynt (neu oddi wrthynt ac atynt),

mae’r rhaniad yn cynnwys y geiriau, yr adrannau neu’r rhannau eraill y cyfeirir atynt.

(2)Yn is-adran (1), mae “deddfiad” yn cynnwys deddfiad sy’n un o’r canlynol neu sydd wedi ei gynnwys mewn un o’r canlynol—

(a)Deddf gan Senedd yr Alban;

(b)deddfwriaeth Gogledd Iwerddon (o fewn yr ystyr a roddir i “Northern Ireland legislation” gan adran 24(5) o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30));

(c)offeryn a wneir o dan ddeddfwriaeth a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I38A. 21 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I39A. 21 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

22Argraffiadau o [F1Ddeddfau Senedd Cymru] neu o Fesurau’r Cynulliad y cyfeirir atyntLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo [F4Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at [F4Ddeddf gan Senedd Cymru] (gan gynnwys [F4Deddf gan Senedd Cymru] nad yw’r Rhan hon yn gymwys iddi) neu Fesur Cynulliad.

(2)Mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at y copi ardystiedig o’r Ddeddf, neu’r Mesur fel y’i cymeradwywyd, a gyhoeddir—

(a)gan Argraffydd y Frenhines, neu

(b)o dan oruchwyliaeth neu awdurdod Llyfrfa Ei Mawrhydi.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I40A. 22 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I41A. 22 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

23Argraffiadau o Ddeddfau gan Senedd y Deyrnas Unedig y cyfeirir atyntLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo [F4Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig (pa un yn ôl ei henw byr ynteu yn ôl blwyddyn, statud, sesiwn neu bennod).

(2)Mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at y Ddeddf fel y’i deddfwyd a gyhoeddir—

(a) gan Argraffydd y Frenhines, neu

(b)o dan oruchwyliaeth neu awdurdod Llyfrfa Ei Mawrhydi.

(3)Ond—

(a)pan fo’r cyfeiriad yn gyfeiriad at Ddeddf sydd wedi ei chynnwys mewn argraffiad diwygiedig o’r statudau a argreffir drwy awdurdod, mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at yr argraffiad hwnnw;

(b)pan na fo paragraff (a) yn gymwys a phan fo’r cyfeiriad yn gyfeiriad at Ddeddf sydd wedi ei chynnwys yn yr argraffiad a luniwyd o dan gyfarwyddyd y Comisiwn Cofnodion, mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at yr argraffiad hwnnw.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I42A. 23 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I43A. 23 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

24Cyfeiriadau at ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir mewn cyfraith ddomestig ar ôl ymadael â’r UELL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—

(a)[F4Deddf gan Senedd Cymru] yn cael y Cydsyniad Brenhinol, neu is-offeryn Cymreig yn cael ei wneud, ar neu ar ôl y [F15diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu], a

(b)y Ddeddf neu’r offeryn yn cyfeirio at unrhyw reoliad gan yr UE, penderfyniad gan yr UE, deddfwriaeth drydyddol gan yr UE neu ddarpariaeth yng nghytundeb yr AEE sy’n ffurfio rhan o gyfraith ddomestig yn rhinwedd adran 3 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) [F16neu adran 1 o Ddeddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 (p. 2)] (cynnwys deddfwriaeth uniongyrchol UE).

(2)Mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at reoliad gan yr UE, penderfyniad gan yr UE, deddfwriaeth drydyddol gan yr UE neu ddarpariaeth yng nghytundeb yr AEE fel y mae’n ffurfio rhan o gyfraith ddomestig (ac nid fel y mae’n ffurfio rhan o gyfraith yr UE).

[F17(2A)Ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 25A (cyfeiriadau at gyfraith berthnasol y cytundebau gwahanu).]

(3)Yn yr adran hon, mae i’r ymadroddion Cymraeg a ganlyn yr un ystyron ag a roddir i’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn adran 20(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018—

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I44A. 24 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I45A. 24 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

25Mae cyfeiriadau at ddeddfiadau yn gyfeiriadau at ddeddfiadau fel y’u diwygiwydLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo [F4Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at ddeddfiad (“A”), a

(b)pan fo A yn cael ei ddiwygio, ei estyn neu ei gymhwyso gan ddeddfiad (”B”) ar unrhyw adeg (pa un ai cyn, ar neu ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf F18... y Cydsyniad Brenhinol neu y caiff yr [F19offeryn] ei wneud).

(2)Mae’r cyfeiriad at A yn gyfeiriad at A fel y’i diwygiwyd, y’i hestynnwyd neu y’i cymhwyswyd gan B.

(3)Nid oes dim yn adrannau 22 i 24 yn cyfyngu ar weithrediad yr adran hon.

(4)Yn is-adran (1), mae “deddfiad” yn cynnwys deddfiad sy’n un o’r canlynol neu sydd wedi ei gynnwys mewn un o’r canlynol—

(a)Deddf gan Senedd yr Alban;

(b)deddfwriaeth Gogledd Iwerddon (o fewn yr ystyr a roddir i “Northern Ireland legislation” gan adran 24(5) o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30));

(c)offeryn a wneir o dan ddeddfwriaeth a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I46A. 25 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I47A. 25 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

[F2025ACyfeiriadau at gyfraith berthnasol y cytundebau gwahanuLL+C

—(1) Mae'r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo Deddf gan Senedd Cymru yn cael y Cydsyniad Brenhinol, neu pan fo is-offeryn Cymreig yn cael ei wneud, ar neu ar ôl diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu, a

(b)pan fo'r Ddeddf neu'r offeryn yn cyfeirio at unrhyw gytuniad sy'n ymwneud â'r UE, neu unrhyw offeryn neu ddogfen arall gan unrhyw endid o'r UE, sy'n cael effaith yn rhinwedd adran 7A neu 7B o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) (gweithredu gweddill y cytundeb ymadael â'r UE etc. yn gyffredinol).

(2)Mae'r cyfeiriad, i'r graddau y mae'n ofynnol at ddibenion cyfraith berthnasol y cytundebau gwahanu, yn gyfeiriad at y cytuniad, yr offeryn neu'r ddogfen fel y mae'n cael effaith yn rhinwedd yr adran honno (gan gynnwys, i'r graddau y mae'n ofynnol, fel y mae'n cael effaith o bryd i'w gilydd).

(3)Yn yr adran hon—

mae i “cyfraith berthnasol y cytundebau gwahanu” yr ystyr a roddir i “relevant separation agreement law” gan adran 7C(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018; mae “cytuniad” (“treaty”) yn cynnwys unrhyw gytundeb rhyngwladol (ac unrhyw brotocol neu atodiad i gytuniad neu gytundeb rhyngwladol); mae i “endid o'r UE” yr ystyr a roddir i “EU entity” gan adran 20(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.]

26Cyfeiriadau at [F21offerynnau penodol gan yr UE] LL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo [F4Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at offeryn UE (“A”), a

(b)pan fo A wedi cael ei ddiwygio, ei estyn neu ei gymhwyso gan offeryn arall gan yr UE (“B”) cyn y diwrnod y caiff y Ddeddf F22... y Cydsyniad Brenhinol neu y caiff yr [F23offeryn] ei wneud.

(2)Mae’r cyfeiriad at A yn gyfeiriad at A fel y’i diwygiwyd, y’i hestynnwyd neu y’i cymhwyswyd gan B.

(3)Gweler hefyd [F24baragraff 2A o Atodlen 8 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16)] F25....

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I48A. 26 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I49A. 26 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

Dyblygu troseddauLL+C

27Troseddau dyblygLL+C

(1)Pan fo gweithred neu anweithred yn drosedd o dan [F4Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig (“A”) a hefyd yn drosedd—

(a)o dan [F4Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig ac eithrio A,

(b)yn ôl y gyfraith gyffredin, neu

(c)o dan [F4Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig ac eithrio A ac yn ôl y gyfraith gyffredin,

mae person yn agored i’w erlyn a’i gosbi o dan y naill neu’r llall neu unrhyw un o’r Deddfau neu’r offerynnau hynny neu yn ôl y gyfraith gyffredin, ond ni ellir ei gosbi fwy nag unwaith am yr un drosedd.

(2)Nid yw is-adran (1) yn gymwys os yw’r weithred neu’r anweithred hefyd yn drosedd o dan unrhyw ddeddfwriaeth y mae adran 18 o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30) yn gymwys iddi (ond mae’r adran honno yn gwneud darpariaeth gyfatebol mewn perthynas â gweithred neu anweithred o’r fath).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I50A. 27 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I51A. 27 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

Cymhwyso i’r GoronLL+C

28Cymhwyso deddfwriaeth Cymru i’r GoronLL+C

(1)Mae [F4Deddf gan Senedd Cymru] yn rhwymo’r Goron.

(2)Mae is-offeryn Cymreig yn rhwymo’r Goron i’r graddau y mae wedi ei wneud o dan ddeddfiad sy’n rhwymo’r Goron neu’n rhoi pŵer i wneud darpariaeth sy’n rhwymo’r Goron.

(3)Nid yw [F4Deddf gan Senedd Cymru] nac is-offeryn Cymreig yn gwneud y Goron yn atebol o ran cyfraith trosedd, ond mae’n gymwys i bersonau sy’n gwasanaethu’r Goron fel y mae’n gymwys i bersonau eraill.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I52A. 28 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I53A. 28 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

Deddfwriaeth yn dod i rymLL+C

29Yr amser pan ddaw deddfwriaeth Cymru i rymLL+C

Pan fo—

(a)[F4Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig, neu

(b)darpariaeth mewn [F4Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig,

yn dod i rym ar ddiwrnod y darperir ar ei gyfer mewn deddfiad, daw’r Ddeddf, yr offeryn neu’r ddarpariaeth i rym ar ddechrau’r diwrnod hwnnw.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I54A. 29 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I55A. 29 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

30Y diwrnod y daw [F4Deddf gan Senedd Cymru] i rymLL+C

Pan na fo darpariaeth mewn deddfiad bod [F4Deddf gan Senedd Cymru] neu ddarpariaeth mewn [F4Deddf gan Senedd Cymru] yn dod i rym, daw’r Ddeddf neu’r ddarpariaeth i rym ar ddechrau’r diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I56A. 30 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I57A. 30 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

31Gorchmynion a rheoliadau sy’n dwyn [F1Deddfau Senedd Cymru] i rymLL+C

Pan fo [F4Deddf gan Senedd Cymru] yn darparu i orchymyn neu reoliadau benodi—

(a)y diwrnod y daw’r Ddeddf i rym, neu

(b)y diwrnod y daw darpariaeth yn y Ddeddf i rym,

caiff y gorchymyn neu’r rheoliadau benodi diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I58A. 31 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I59A. 31 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

Diwygio, diddymu a dirymu deddfwriaethLL+C

32Diwygiadau a wneir i ddeddfwriaeth Cymru neu gan ddeddfwriaeth CymruLL+C

(1)Pan fo deddfiad yn diwygio [F4Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig drwy fewnosod neu amnewid geiriau neu ddeunydd arall, mae’r geiriau neu’r deunydd yn cael effaith fel rhan o’r Ddeddf honno neu’r offeryn hwnnw.

(2)Pan fo [F4Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn diwygio deddfiad drwy fewnosod neu amnewid geiriau neu ddeunydd arall, mae’r geiriau neu’r deunydd yn cael effaith fel rhan o’r deddfiad hwnnw.

(3)Gweler hefyd adran 23ZA o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30) ar gyfer darpariaeth ynghylch cymhwyso’r Ddeddf honno i ddeddfwriaeth uniongyrchol [F26a gymathwyd] sy’n cael ei diwygio gan [F4Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig (neu gan ddeddfwriaeth benodol arall).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I60A. 32 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I61A. 32 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

33Nid yw diddymiadau na dirymiadau yn adfer cyfraith a ddiddymwyd, a ddirymwyd neu a ddilëwyd eisoesLL+C

Pan fo—

(a)[F4Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn diddymu neu’n dirymu deddfiad (“A”), a

(b)A eisoes wedi diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad arall (“B”) neu wedi dileu unrhyw rheol gyfreithiol arall (“C”),

nid yw diddymiad neu ddirymiad A yn adfer B neu C.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I62A. 33 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I63A. 33 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

34Arbedion cyffredinol mewn cysylltiad â diddymiadau a dirymiadauLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo [F4Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn diddymu neu’n dirymu deddfiad.

(2)Nid yw’r diddymiad neu’r dirymiad—

(a)yn adfer unrhyw beth nad yw mewn grym neu mewn bod ar yr adeg pan yw’r diddymiad neu’r dirymiad yn cymryd effaith;

(b)yn effeithio ar weithrediad blaenorol y deddfiad neu unrhyw beth a wneir neu a oddefir o dan y deddfiad.

(3)Nid yw’r diddymiad neu’r dirymiad ychwaith yn effeithio ar—

(a)unrhyw hawl, braint, rhwymedigaeth neu atebolrwydd a geir, a gronnir neu yr eir iddi neu iddo o dan y deddfiad;

(b)unrhyw gosb, fforffediad neu gosbedigaeth a osodir mewn cysylltiad ag unrhyw drosedd a gyflawnir o dan y deddfiad;

(c)unrhyw ymchwiliad, achos cyfreithiol neu rwymedi mewn cysylltiad ag unrhyw hawl, braint, rhwymedigaeth, atebolrwydd, cosb, fforffediad neu gosbedigaeth o’r fath,

a chaniateir cychwyn, parhau neu orfodi unrhyw ymchwiliad, achos cyfreithiol neu rwymedi o’r fath, a gosod unrhyw gosb, fforffediad neu gosbedigaeth o’r fath, fel pe na bai’r diddymiad neu’r dirymiad wedi digwydd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I64A. 34 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I65A. 34 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

35Effaith ailddeddfuLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo deddfiad (“A”)—

(a)yn cael ei ddiddymu neu ei ddirymu gan [F4Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig, a

(b)yn cael ei ailddeddfu (gydag addasiadau neu hebddynt) gan ddeddfiad (“B”) sy’n [F4Ddeddf gan Senedd Cymru] neu’n is-offeryn Cymreig neu’n ddeddfiad sydd wedi ei gynnwys mewn [F4Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig.

(2)Mae cyfeiriad at A mewn unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen i’w ddarllen fel (neu fel pe bai’n cynnwys) cyfeiriad at B.

(3)I’r graddau y gallasai unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan A neu sy’n cael effaith fel pe bai wedi ei gwneud o dan A gael ei gwneud o dan B, mae i gael effaith fel pe bai wedi ei gwneud o dan B.

(4)I’r graddau y gallasai unrhyw beth a wneir neu sy’n cael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan A gael ei wneud o dan B, mae i gael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan B.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I66A. 35 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I67A. 35 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

36Cyfeirio at [F4Ddeddf gan Senedd Cymru] yn ôl ei henw byr ar ôl iddi gael ei diddymuLL+C

Caniateir parhau i gyfeirio at [F4Ddeddf gan Senedd Cymru] yn ôl yr enw byr a roddir iddi gan ddeddfiad er i’r deddfiad hwnnw gael ei ddiddymu.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I68A. 36 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I69A. 36 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

37Ystyr diddymu a dirymu yn y Rhan honLL+C

(1)Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at ddiddymu neu ddirymu deddfiad neu ddileu rheol gyfreithiol yn cynnwys—

(a)amnewid unrhyw beth am y deddfiad neu’r rheol (neu unrhyw ran ohono neu ohoni);

(b)cyfyngu ar gymhwysiad neu effaith y deddfiad neu’r rheol;

(c)darparu i’r deddfiad neu’r rheol beidio â chael effaith.

(2)At ddibenion adrannau 34 i 36 (ond nid adran 33)—

(a)pan ddaw [F4Deddf dros dro gan Senedd Cymru] i ben, mae hyn i’w drin fel pe bai’r Ddeddf wedi ei diddymu gan [F4Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig;

(b)pan ddaw is-offeryn Cymreig dros dro i ben, mae hyn i’w drin fel pe bai’r offeryn wedi ei ddirymu gan [F4Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I70A. 37 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I71A. 37 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2