xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2DEHONGLI A GWEITHREDU DEDDFWRIAETH CYMRU

Cymhwyso’r Rhan a’i heffaith

3Deddfwriaeth y mae’r Rhan hon yn gymwys iddi

(1)Mae’r Rhan hon yn gymwys i—

(a)y Ddeddf hon;

(b)Deddfau’r Cynulliad sy’n cael y Cydsyniad Brenhinol ar y diwrnod y daw’r Rhan hon i rym yn llawn neu ar ôl y diwrnod y daw’r Rhan hon i rym yn llawn;

(c)is-offerynnau Cymreig a wneir ar y diwrnod hwnnw neu ar ôl y diwrnod hwnnw.

(2)Ystyr “is-offeryn Cymreig” yw offeryn (pa un a yw’r offeryn hwnnw yn offeryn statudol ai peidio) nad yw ond yn cynnwys un neu ddau o’r canlynol—

(a)is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddf Cynulliad neu Fesur Cynulliad, pa un ai gan Weinidogion Cymru neu gan unrhyw berson arall;

(b)is-ddeddfwriaeth—

(i)a wneir o dan Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig neu ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir,

(ii)nas gwneir ond gan Weinidogion Cymru neu unrhyw awdurdod Cymreig datganoledig arall (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” gan adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)), a

(iii)nad yw ond yn gymwys o ran Cymru.

(3)Mae cyfeiriadau yng ngweddill y Rhan hon at Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig (oni ddarperir fel arall) yn gyfeiriadau at Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig y mae’r Rhan hon yn gymwys iddi neu iddo yn rhinwedd is-adran (1).

4Effaith darpariaethau’r Rhan hon

(1)Pan fo’r Rhan hon yn gymwys i Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig, mae’r darpariaethau yn y Rhan hon yn cael effaith mewn perthynas â’r Ddeddf honno neu’r offeryn hwnnw, ac eithrio i’r graddau—

(a)y mae darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb, neu

(b)y mae’r cyd-destun yn mynnu fel arall.

(2)Nid yw’r eithriad yn is-adran (1) yn gymwys i adran 5 (statws cyfartal testunau deddfwriaeth ddwyieithog).

(3)Nid yw paragraff (b) o’r eithriad hwnnw yn gymwys i—

(a)adran 10 (cyfeiriadau at amser o’r dydd);

(b)adran 28 (cymhwyso deddfwriaeth Cymru i’r Goron);

(c)adran 33 (nid yw diddymiadau na dirymiadau yn adfer cyfraith a ddiddymwyd, a ddirymwyd neu a ddilëwyd eisoes).

Deddfwriaeth ddwyieithog Cymru

5Statws cyfartal y testunau Cymraeg a Saesneg

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Deddf Cynulliad yn cael ei deddfu, neu pan fo is-offeryn Cymreig yn cael ei wneud, yn y Gymraeg a’r Saesneg.

(2)Mae i’r testun Cymraeg a’r testun Saesneg statws cyfartal at bob diben.

Ystyr geiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn neddfwriaeth Cymru

6Diffiniadau o eiriau ac ymadroddion

(1)Mae geiriau ac ymadroddion a restrir yn y Tabl yn Atodlen 1 i’w dehongli yn unol â’r Tabl hwnnw pan fônt yn ymddangos mewn Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio Atodlen 1 er mwyn—

(a)mewnosod diffiniadau newydd o eiriau neu ymadroddion;

(b)dileu diffiniadau o eiriau neu ymadroddion;

(c)diwygio diffiniadau o eiriau neu ymadroddion.

(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (2) wneud darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed, a gaiff gynnwys darpariaeth sy’n diwygio, yn diddymu, yn dirymu neu’n addasu fel arall unrhyw ddeddfiad (pryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir).

7Mae geiriau yn y ffurf unigol yn cynnwys y ffurf luosog ac fel arall

Mewn Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig—

(a)mae geiriau yn y ffurf unigol yn cynnwys y ffurf luosog;

(b)mae geiriau yn y ffurf luosog yn cynnwys y ffurf unigol.

8Nid yw geiriau sy’n dynodi rhywedd yn gyfyngedig i’r rhywedd hwnnw

Mewn Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig, nid yw geiriau sy’n dynodi personau o rywedd penodol i’w darllen fel pe baent yn gyfyngedig i bersonau o’r rhywedd hwnnw.

9Amrywio geiriau ac ymadroddion oherwydd gramadeg etc.

Pan fo deddfiad yn rhoi ystyr i air neu ymadrodd mewn Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig, mae rhannau ymadrodd eraill a ffurfiau neu oleddfiadau gramadegol ar y gair neu’r ymadrodd i’w dehongli yn unol â’r ystyr hwnnw.

10Cyfeiriadau at amser o’r dydd

Mae cyfeiriad at amser o’r dydd mewn Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn gyfeiriad at amser safonol Greenwich; ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 3 o Ddeddf Amser Haf 1972 (p. 6) (pwyntiau o amser yn ystod amser haf).

11Cyfeiriadau at y Sofren

Mae cyfeiriad at y Sofren mewn Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig i’w ddarllen fel cyfeiriad at y Sofren ar y pryd.

12Mesur pellter

Mae cyfeiriad at bellter mewn Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn gyfeiriad at y pellter hwnnw wedi ei fesur mewn llinell syth ar blân llorweddol.

Cyflwyno dogfennau drwy’r post neu’n electronig

13Cyflwyno dogfennau drwy’r post neu’n electronig

(1)Pan fo Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn awdurdodi person (“A”) neu’n ei gwneud yn ofynnol i A gyflwyno dogfen drwy’r post i berson arall (“B”), mae A yn cyflwyno’r ddogfen os yw A yn cyfeirio’n briodol lythyr sy’n cynnwys y ddogfen, yn talu ymlaen llaw am ei bostio, ac yn ei bostio at B.

(2)Pan fo Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn awdurdodi person (“A”) neu’n ei gwneud yn ofynnol i A gyflwyno dogfen i berson arall (“B”) yn electronig, mae A yn cyflwyno’r ddogfen—

(a)os yw A yn cyfeirio’n briodol gyfathrebiad electronig sy’n ffurfio’r ddogfen neu’n cynnwys y ddogfen, neu y mae’r ddogfen ynghlwm wrtho, ac yn ei anfon at B, a

(b)os yw’r ddogfen yn cael ei hanfon ar ffurf electronig y gall B ei chyrchu a’i chadw.

(3)Mae’r adran hon yn gymwys pa un a yw’r Ddeddf Cynulliad neu’r is-offeryn Cymreig yn defnyddio’r gair “cyflwyno” neu unrhyw ymadrodd arall (megis “anfon” neu “rhoi”) i gyfeirio at gyflwyno’r ddogfen.

14Y diwrnod pan fernir bod dogfen wedi ei chyflwyno

Pan fo dogfen yn cael ei chyflwyno drwy’r post neu’n electronig o dan Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig, bernir bod y ddogfen wedi ei chyflwyno, oni phrofir i’r gwrthwyneb—

(a)yn achos dogfen a gyflwynir drwy’r post, ar y diwrnod y byddai’r llythyr sy’n cynnwys y ddogfen yn cyrraedd yn nhrefn arferol y post;

(b)yn achos dogfen a gyflwynir yn electronig, ar y diwrnod yr anfonir y cyfathrebiad electronig.

Pwerau a dyletswyddau

15Parhad pwerau a dyletswyddau

(1)Caniateir arfer pŵer a roddir gan Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig ar fwy nag un achlysur.

(2)Mae dyletswydd a osodir gan Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn ddyletswydd barhaus a rhaid ei chyflawni yn ôl y gofyn.

(3)Pan roddir pŵer gan Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig i ddeiliad swydd neu pan osodir dyletswydd ar ddeiliad swydd gan Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig, mae i’w arfer neu i’w harfer gan ddeiliad y swydd ar y pryd.

16Arfer pŵer neu ddyletswydd nad yw mewn grym

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo pŵer neu ddyletswydd yn cael ei roi neu ei gosod—

(a)gan ddarpariaeth mewn Deddf Cynulliad a ddaw i rym—

(i)ac eithrio drwy orchymyn neu reoliadau, a

(ii)mwy nag un diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol, neu

(b)gan ddarpariaeth mewn is-offeryn Cymreig na ddaw i rym unwaith y caiff yr offeryn ei wneud.

(2)Caniateir arfer y pŵer neu’r ddyletswydd (a chaiff unrhyw offeryn a wneir o dan y pŵer neu’r ddyletswydd ddod i rym) yn ystod y cyfnod—

(a)sy’n dechrau pan gaiff y Ddeddf Cynulliad y Cydsyniad Brenhinol neu pan wneir yr is-offeryn Cymreig, a

(b)sy’n gorffen pan ddaw’r ddarpariaeth sy’n rhoi’r pŵer neu’n gosod y ddyletswydd i rym.

(3)Ond yn ystod y cyfnod hwnnw ni chaniateir arfer y pŵer neu’r ddyletswydd ond i’r graddau y mae’n angenrheidiol neu’n hwylus at ddiben rhoi effaith lawn—

(a)i’r Ddeddf Cynulliad neu i’r is-offeryn Cymreig sy’n rhoi’r pŵer neu’n gosod y ddyletswydd, neu

(b)i ddarpariaeth yn y Ddeddf honno neu’r offeryn hwnnw,

ar yr adeg neu ar ôl yr adeg y daw’r Ddeddf, yr offeryn neu’r ddarpariaeth i rym.

(4)Pan fo darpariaeth mewn Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig nad yw mewn grym⁠—

(a)yn gysylltiedig â phŵer neu ddyletswydd, neu’n atodol i bŵer neu ddyletswydd, a arferir yn unol â’r adran hon, a

(b)yn dod i rym ac eithrio drwy orchymyn neu reoliadau,

mae’r ddarpariaeth honno i’w thrin fel pe bai mewn grym i’r graddau y mae’n angenrheidiol i arfer y pŵer neu’r ddyletswydd yn unol â’r adran hon.

(5)Mae arfer pŵer neu ddyletswydd yn unol â’r adran hon yn ddarostyngedig i unrhyw amodau neu gyfyngiadau a osodir gan y Ddeddf Cynulliad neu’r is-offeryn Cymreig sy’n rhoi’r pŵer neu’n gosod y ddyletswydd (pa un a yw’r ddarpariaeth sy’n gosod yr amod neu’r cyfyngiad mewn grym ai peidio).

17Cynnwys darpariaethau machlud a darpariaethau adolygu mewn is-ddeddfwriaeth

(1)Caniateir arfer pŵer neu ddyletswydd i wneud is-ddeddfwriaeth a roddir neu a osodir gan Ddeddf Cynulliad fel bod yr is-ddeddfwriaeth yn cynnwys darpariaeth adolygu neu ddarpariaeth fachlud (neu’r ddwy).

(2)Yn yr adran hon—

(a)ystyr “darpariaeth adolygu” yw darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person a wnaeth yr is-ddeddfwriaeth adolygu effeithiolrwydd y ddeddfwriaeth honno, neu effeithiolrwydd unrhyw is-offeryn Cymreig y mae’n ei ddiwygio, o fewn cyfnod penodedig neu ar ddiwedd cyfnod penodedig;

(b)ystyr “darpariaeth fachlud” yw darpariaeth i’r is-ddeddfwriaeth, neu unrhyw is-offeryn Cymreig y mae’n ei ddiwygio, beidio â chael effaith ar ddiwedd diwrnod penodedig neu gyfnod penodedig;

(c)ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu yn yr is-ddeddfwriaeth.

(3)Caiff darpariaeth adolygu, ymhlith pethau eraill, wneud adolygiad yn ofynnol i ystyried a yw amcanion yr is-ddeddfwriaeth y mae’n gymwys iddi yn dal i fod yn briodol ac, os felly, a ellid eu cyflawni mewn ffordd arall.

(4)Caiff yr is-ddeddfwriaeth sy’n cynnwys y ddarpariaeth adolygu neu’r ddarpariaeth fachlud ddarparu i’r ddarpariaeth fod yn gymwys yn gyffredinol neu’n unig mewn perthynas â darpariaethau penodedig yr is-ddeddfwriaeth neu achosion neu amgylchiadau penodedig.

(5)Caniateir arfer y pŵer i wneud y ddarpariaeth adolygu neu’r ddarpariaeth fachlud i wneud darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â’r ddarpariaeth adolygu neu’r ddarpariaeth fachlud.

18Dirymu, diwygio ac ailddeddfu is-ddeddfwriaeth

(1)Caniateir arfer pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth a roddir gan Ddeddf Cynulliad i ddiwygio, dirymu neu ailddeddfu unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan y pŵer.

(2)Mae dyletswydd i wneud is-ddeddfwriaeth a osodir gan Ddeddf Cynulliad yn cynnwys pŵer (sy’n arferadwy yn yr un ffordd ac yn ddarostyngedig i’r un amodau neu gyfyngiadau â’r ddyletswydd) y caniateir ei arfer i ddiwygio, dirymu a disodli, neu ailddeddfu unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan y ddyletswydd (neu o dan y pŵer a ddarperir gan yr is-adran hon).

19Diwygio is-ddeddfwriaeth gan Ddeddf Cynulliad

Nid yw diwygio na dirymu is-ddeddfwriaeth gan Ddeddf Cynulliad yn cyfyngu nac yn effeithio fel arall ar y pŵer neu’r ddyletswydd y gwnaed yr is-ddeddfwriaeth odano neu odani.

20Amrywio cyfarwyddydau a’u tynnu’n ôl

(1)Caniateir arfer pŵer a roddir gan Ddeddf Cynulliad neu gan is-offeryn Cymreig i roi cyfarwyddydau i amrywio unrhyw gyfarwyddydau neu dynnu’n ôl unrhyw gyfarwyddydau a roddir o dan y pŵer.

(2)Mae dyletswydd i roi cyfarwyddydau a osodir gan Ddeddf Cynulliad neu gan is-offeryn Cymreig yn cynnwys pŵer (sy’n arferadwy yn yr un ffordd ac yn ddarostyngedig i’r un amodau neu gyfyngiadau â’r ddyletswydd) i amrywio, neu dynnu’n ôl a disodli, unrhyw gyfarwyddydau a roddir o dan y ddyletswydd.

Cyfeiriadau yn neddfwriaeth Cymru at ddeddfwriaeth a dogfennau eraill

21Cyfeiriadau at raniadau o ddeddfiadau, offerynnau a dogfennau

(1)Pan fo Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig—

(a)yn disgrifio rhaniad o unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen neu’n cyfeirio at raniad o unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen, a

(b)yn gwneud hynny drwy gyfeirio at eiriau, adrannau neu rannau eraill y mae’r rhaniad yn ymestyn oddi wrthynt neu atynt (neu oddi wrthynt ac atynt),

mae’r rhaniad yn cynnwys y geiriau, yr adrannau neu’r rhannau eraill y cyfeirir atynt.

(2)Yn is-adran (1), mae “deddfiad” yn cynnwys deddfiad sy’n un o’r canlynol neu sydd wedi ei gynnwys mewn un o’r canlynol—

(a)Deddf gan Senedd yr Alban;

(b)deddfwriaeth Gogledd Iwerddon (o fewn yr ystyr a roddir i “Northern Ireland legislation” gan adran 24(5) o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30));

(c)offeryn a wneir o dan ddeddfwriaeth a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b).

22Argraffiadau o Ddeddfau’r Cynulliad neu o Fesurau’r Cynulliad y cyfeirir atynt

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at Ddeddf Cynulliad (gan gynnwys Deddf Cynulliad nad yw’r Rhan hon yn gymwys iddi) neu Fesur Cynulliad.

(2)Mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at y copi ardystiedig o’r Ddeddf, neu’r Mesur fel y’i cymeradwywyd, a gyhoeddir—

(a)gan Argraffydd y Frenhines, neu

(b)o dan oruchwyliaeth neu awdurdod Llyfrfa Ei Mawrhydi.

23Argraffiadau o Ddeddfau gan Senedd y Deyrnas Unedig y cyfeirir atynt

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig (pa un yn ôl ei henw byr ynteu yn ôl blwyddyn, statud, sesiwn neu bennod).

(2)Mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at y Ddeddf fel y’i deddfwyd a gyhoeddir—

(a) gan Argraffydd y Frenhines, neu

(b)o dan oruchwyliaeth neu awdurdod Llyfrfa Ei Mawrhydi.

(3)Ond—

(a)pan fo’r cyfeiriad yn gyfeiriad at Ddeddf sydd wedi ei chynnwys mewn argraffiad diwygiedig o’r statudau a argreffir drwy awdurdod, mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at yr argraffiad hwnnw;

(b)pan na fo paragraff (a) yn gymwys a phan fo’r cyfeiriad yn gyfeiriad at Ddeddf sydd wedi ei chynnwys yn yr argraffiad a luniwyd o dan gyfarwyddyd y Comisiwn Cofnodion, mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at yr argraffiad hwnnw.

24Cyfeiriadau at ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir mewn cyfraith ddomestig ar ôl ymadael â’r UE

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—

(a)Deddf Cynulliad yn cael y Cydsyniad Brenhinol, neu is-offeryn Cymreig yn cael ei wneud, ar neu ar ôl y diwrnod ymadael, a

(b)y Ddeddf neu’r offeryn yn cyfeirio at unrhyw reoliad gan yr UE, penderfyniad gan yr UE, deddfwriaeth drydyddol gan yr UE neu ddarpariaeth yng nghytundeb yr AEE sy’n ffurfio rhan o gyfraith ddomestig yn rhinwedd adran 3 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) (cynnwys deddfwriaeth uniongyrchol UE).

(2)Mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at reoliad gan yr UE, penderfyniad gan yr UE, deddfwriaeth drydyddol gan yr UE neu ddarpariaeth yng nghytundeb yr AEE fel y mae’n ffurfio rhan o gyfraith ddomestig (ac nid fel y mae’n ffurfio rhan o gyfraith yr UE).

(3)Yn yr adran hon, mae i’r ymadroddion Cymraeg a ganlyn yr un ystyron ag a roddir i’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn adran 20(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018—

25Mae cyfeiriadau at ddeddfiadau yn gyfeiriadau at ddeddfiadau fel y’u diwygiwyd

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at ddeddfiad (“A”), a

(b)pan fo A yn cael ei ddiwygio, ei estyn neu ei gymhwyso gan ddeddfiad (”B”) ar unrhyw adeg (pa un ai cyn, ar neu ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf Cynulliad y Cydsyniad Brenhinol neu y caiff yr is-offeryn Cymreig ei wneud).

(2)Mae’r cyfeiriad at A yn gyfeiriad at A fel y’i diwygiwyd, y’i hestynnwyd neu y’i cymhwyswyd gan B.

(3)Nid oes dim yn adrannau 22 i 24 yn cyfyngu ar weithrediad yr adran hon.

(4)Yn is-adran (1), mae “deddfiad” yn cynnwys deddfiad sy’n un o’r canlynol neu sydd wedi ei gynnwys mewn un o’r canlynol—

(a)Deddf gan Senedd yr Alban;

(b)deddfwriaeth Gogledd Iwerddon (o fewn yr ystyr a roddir i “Northern Ireland legislation” gan adran 24(5) o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30));

(c)offeryn a wneir o dan ddeddfwriaeth a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b).

26Cyfeiriadau at offerynnau’r UE

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at offeryn UE (“A”), a

(b)pan fo A wedi cael ei ddiwygio, ei estyn neu ei gymhwyso gan offeryn arall gan yr UE (“B”) cyn y diwrnod y caiff y Ddeddf Cynulliad y Cydsyniad Brenhinol neu y caiff yr is-offeryn Cymreig ei wneud.

(2)Mae’r cyfeiriad at A yn gyfeiriad at A fel y’i diwygiwyd, y’i hestynnwyd neu y’i cymhwyswyd gan B.

(3)Gweler hefyd reoliad 2 o Reoliadau Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (Addasiadau Canlyniadol a Diddymiadau a Dirymiadau) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/628) ar gyfer darpariaeth am effaith cyfeiriadau penodol sy’n bodoli cyn y diwrnod ymadael ar y diwrnod ymadael neu ar ôl y diwrnod ymadael.

Dyblygu troseddau

27Troseddau dyblyg

(1)Pan fo gweithred neu anweithred yn drosedd o dan Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig (“A”) a hefyd yn drosedd—

(a)o dan Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig ac eithrio A,

(b)yn ôl y gyfraith gyffredin, neu

(c)o dan Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig ac eithrio A ac yn ôl y gyfraith gyffredin,

mae person yn agored i’w erlyn a’i gosbi o dan y naill neu’r llall neu unrhyw un o’r Deddfau neu’r offerynnau hynny neu yn ôl y gyfraith gyffredin, ond ni ellir ei gosbi fwy nag unwaith am yr un drosedd.

(2)Nid yw is-adran (1) yn gymwys os yw’r weithred neu’r anweithred hefyd yn drosedd o dan unrhyw ddeddfwriaeth y mae adran 18 o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30) yn gymwys iddi (ond mae’r adran honno yn gwneud darpariaeth gyfatebol mewn perthynas â gweithred neu anweithred o’r fath).

Cymhwyso i’r Goron

28Cymhwyso deddfwriaeth Cymru i’r Goron

(1)Mae Deddf Cynulliad yn rhwymo’r Goron.

(2)Mae is-offeryn Cymreig yn rhwymo’r Goron i’r graddau y mae wedi ei wneud o dan ddeddfiad sy’n rhwymo’r Goron neu’n rhoi pŵer i wneud darpariaeth sy’n rhwymo’r Goron.

(3)Nid yw Deddf Cynulliad nac is-offeryn Cymreig yn gwneud y Goron yn atebol o ran cyfraith trosedd, ond mae’n gymwys i bersonau sy’n gwasanaethu’r Goron fel y mae’n gymwys i bersonau eraill.

Deddfwriaeth yn dod i rym

29Yr amser pan ddaw deddfwriaeth Cymru i rym

Pan fo—

(a)Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig, neu

(b)darpariaeth mewn Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig,

yn dod i rym ar ddiwrnod y darperir ar ei gyfer mewn deddfiad, daw’r Ddeddf, yr offeryn neu’r ddarpariaeth i rym ar ddechrau’r diwrnod hwnnw.

30Y diwrnod y daw Deddf Cynulliad i rym

Pan na fo darpariaeth mewn deddfiad bod Deddf Cynulliad neu ddarpariaeth mewn Deddf Cynulliad yn dod i rym, daw’r Ddeddf neu’r ddarpariaeth i rym ar ddechrau’r diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol.

31Gorchmynion a rheoliadau sy’n dwyn Deddfau’r Cynulliad i rym

Pan fo Deddf Cynulliad yn darparu i orchymyn neu reoliadau benodi—

(a)y diwrnod y daw’r Ddeddf i rym, neu

(b)y diwrnod y daw darpariaeth yn y Ddeddf i rym,

caiff y gorchymyn neu’r rheoliadau benodi diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol.

Diwygio, diddymu a dirymu deddfwriaeth

32Diwygiadau a wneir i ddeddfwriaeth Cymru neu gan ddeddfwriaeth Cymru

(1)Pan fo deddfiad yn diwygio Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig drwy fewnosod neu amnewid geiriau neu ddeunydd arall, mae’r geiriau neu’r deunydd yn cael effaith fel rhan o’r Ddeddf honno neu’r offeryn hwnnw.

(2)Pan fo Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn diwygio deddfiad drwy fewnosod neu amnewid geiriau neu ddeunydd arall, mae’r geiriau neu’r deunydd yn cael effaith fel rhan o’r deddfiad hwnnw.

(3)Gweler hefyd adran 23ZA o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30) ar gyfer darpariaeth ynghylch cymhwyso’r Ddeddf honno i ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir sy’n cael ei diwygio gan Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig (neu gan ddeddfwriaeth benodol arall).

33Nid yw diddymiadau na dirymiadau yn adfer cyfraith a ddiddymwyd, a ddirymwyd neu a ddilëwyd eisoes

Pan fo—

(a)Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn diddymu neu’n dirymu deddfiad (“A”), a

(b)A eisoes wedi diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad arall (“B”) neu wedi dileu unrhyw rheol gyfreithiol arall (“C”),

nid yw diddymiad neu ddirymiad A yn adfer B neu C.

34Arbedion cyffredinol mewn cysylltiad â diddymiadau a dirymiadau

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn diddymu neu’n dirymu deddfiad.

(2)Nid yw’r diddymiad neu’r dirymiad—

(a)yn adfer unrhyw beth nad yw mewn grym neu mewn bod ar yr adeg pan yw’r diddymiad neu’r dirymiad yn cymryd effaith;

(b)yn effeithio ar weithrediad blaenorol y deddfiad neu unrhyw beth a wneir neu a oddefir o dan y deddfiad.

(3)Nid yw’r diddymiad neu’r dirymiad ychwaith yn effeithio ar—

(a)unrhyw hawl, braint, rhwymedigaeth neu atebolrwydd a geir, a gronnir neu yr eir iddi neu iddo o dan y deddfiad;

(b)unrhyw gosb, fforffediad neu gosbedigaeth a osodir mewn cysylltiad ag unrhyw drosedd a gyflawnir o dan y deddfiad;

(c)unrhyw ymchwiliad, achos cyfreithiol neu rwymedi mewn cysylltiad ag unrhyw hawl, braint, rhwymedigaeth, atebolrwydd, cosb, fforffediad neu gosbedigaeth o’r fath,

a chaniateir cychwyn, parhau neu orfodi unrhyw ymchwiliad, achos cyfreithiol neu rwymedi o’r fath, a gosod unrhyw gosb, fforffediad neu gosbedigaeth o’r fath, fel pe na bai’r diddymiad neu’r dirymiad wedi digwydd.

35Effaith ailddeddfu

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo deddfiad (“A”)—

(a)yn cael ei ddiddymu neu ei ddirymu gan Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig, a

(b)yn cael ei ailddeddfu (gydag addasiadau neu hebddynt) gan ddeddfiad (“B”) sy’n Ddeddf Cynulliad neu’n is-offeryn Cymreig neu’n ddeddfiad sydd wedi ei gynnwys mewn Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig.

(2)Mae cyfeiriad at A mewn unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen i’w ddarllen fel (neu fel pe bai’n cynnwys) cyfeiriad at B.

(3)I’r graddau y gallasai unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan A neu sy’n cael effaith fel pe bai wedi ei gwneud o dan A gael ei gwneud o dan B, mae i gael effaith fel pe bai wedi ei gwneud o dan B.

(4)I’r graddau y gallasai unrhyw beth a wneir neu sy’n cael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan A gael ei wneud o dan B, mae i gael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan B.

36Cyfeirio at Ddeddf Cynulliad yn ôl ei henw byr ar ôl iddi gael ei diddymu

Caniateir parhau i gyfeirio at Ddeddf Cynulliad yn ôl yr enw byr a roddir iddi gan ddeddfiad er i’r deddfiad hwnnw gael ei ddiddymu.

37Ystyr diddymu a dirymu yn y Rhan hon

(1)Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at ddiddymu neu ddirymu deddfiad neu ddileu rheol gyfreithiol yn cynnwys—

(a)amnewid unrhyw beth am y deddfiad neu’r rheol (neu unrhyw ran ohono neu ohoni);

(b)cyfyngu ar gymhwysiad neu effaith y deddfiad neu’r rheol;

(c)darparu i’r deddfiad neu’r rheol beidio â chael effaith.

(2)At ddibenion adrannau 34 i 36 (ond nid adran 33)—

(a)pan ddaw Deddf dros dro gan y Cynulliad i ben, mae hyn i’w drin fel pe bai’r Ddeddf wedi ei diddymu gan Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig;

(b)pan ddaw is-offeryn Cymreig dros dro i ben, mae hyn i’w drin fel pe bai’r offeryn wedi ei ddirymu gan Ddeddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig.