xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CDEHONGLI A GWEITHREDU DEDDFWRIAETH CYMRU

Diwygio, diddymu a dirymu deddfwriaethLL+C

32Diwygiadau a wneir i ddeddfwriaeth Cymru neu gan ddeddfwriaeth CymruLL+C

(1)Pan fo deddfiad yn diwygio [F1Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig drwy fewnosod neu amnewid geiriau neu ddeunydd arall, mae’r geiriau neu’r deunydd yn cael effaith fel rhan o’r Ddeddf honno neu’r offeryn hwnnw.

(2)Pan fo [F1Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn diwygio deddfiad drwy fewnosod neu amnewid geiriau neu ddeunydd arall, mae’r geiriau neu’r deunydd yn cael effaith fel rhan o’r deddfiad hwnnw.

(3)Gweler hefyd adran 23ZA o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30) ar gyfer darpariaeth ynghylch cymhwyso’r Ddeddf honno i ddeddfwriaeth uniongyrchol [F2a gymathwyd] sy’n cael ei diwygio gan [F1Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig (neu gan ddeddfwriaeth benodol arall).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 32 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I2A. 32 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

33Nid yw diddymiadau na dirymiadau yn adfer cyfraith a ddiddymwyd, a ddirymwyd neu a ddilëwyd eisoesLL+C

Pan fo—

(a)[F1Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn diddymu neu’n dirymu deddfiad (“A”), a

(b)A eisoes wedi diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad arall (“B”) neu wedi dileu unrhyw rheol gyfreithiol arall (“C”),

nid yw diddymiad neu ddirymiad A yn adfer B neu C.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 33 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I4A. 33 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

34Arbedion cyffredinol mewn cysylltiad â diddymiadau a dirymiadauLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo [F1Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn diddymu neu’n dirymu deddfiad.

(2)Nid yw’r diddymiad neu’r dirymiad—

(a)yn adfer unrhyw beth nad yw mewn grym neu mewn bod ar yr adeg pan yw’r diddymiad neu’r dirymiad yn cymryd effaith;

(b)yn effeithio ar weithrediad blaenorol y deddfiad neu unrhyw beth a wneir neu a oddefir o dan y deddfiad.

(3)Nid yw’r diddymiad neu’r dirymiad ychwaith yn effeithio ar—

(a)unrhyw hawl, braint, rhwymedigaeth neu atebolrwydd a geir, a gronnir neu yr eir iddi neu iddo o dan y deddfiad;

(b)unrhyw gosb, fforffediad neu gosbedigaeth a osodir mewn cysylltiad ag unrhyw drosedd a gyflawnir o dan y deddfiad;

(c)unrhyw ymchwiliad, achos cyfreithiol neu rwymedi mewn cysylltiad ag unrhyw hawl, braint, rhwymedigaeth, atebolrwydd, cosb, fforffediad neu gosbedigaeth o’r fath,

a chaniateir cychwyn, parhau neu orfodi unrhyw ymchwiliad, achos cyfreithiol neu rwymedi o’r fath, a gosod unrhyw gosb, fforffediad neu gosbedigaeth o’r fath, fel pe na bai’r diddymiad neu’r dirymiad wedi digwydd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 34 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I6A. 34 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

35Effaith ailddeddfuLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo deddfiad (“A”)—

(a)yn cael ei ddiddymu neu ei ddirymu gan [F1Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig, a

(b)yn cael ei ailddeddfu (gydag addasiadau neu hebddynt) gan ddeddfiad (“B”) sy’n [F1Ddeddf gan Senedd Cymru] neu’n is-offeryn Cymreig neu’n ddeddfiad sydd wedi ei gynnwys mewn [F1Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig.

(2)Mae cyfeiriad at A mewn unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen i’w ddarllen fel (neu fel pe bai’n cynnwys) cyfeiriad at B.

(3)I’r graddau y gallasai unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan A neu sy’n cael effaith fel pe bai wedi ei gwneud o dan A gael ei gwneud o dan B, mae i gael effaith fel pe bai wedi ei gwneud o dan B.

(4)I’r graddau y gallasai unrhyw beth a wneir neu sy’n cael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan A gael ei wneud o dan B, mae i gael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan B.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 35 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I8A. 35 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

36Cyfeirio at [F1Ddeddf gan Senedd Cymru] yn ôl ei henw byr ar ôl iddi gael ei diddymuLL+C

Caniateir parhau i gyfeirio at [F1Ddeddf gan Senedd Cymru] yn ôl yr enw byr a roddir iddi gan ddeddfiad er i’r deddfiad hwnnw gael ei ddiddymu.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 36 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I10A. 36 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

37Ystyr diddymu a dirymu yn y Rhan honLL+C

(1)Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at ddiddymu neu ddirymu deddfiad neu ddileu rheol gyfreithiol yn cynnwys—

(a)amnewid unrhyw beth am y deddfiad neu’r rheol (neu unrhyw ran ohono neu ohoni);

(b)cyfyngu ar gymhwysiad neu effaith y deddfiad neu’r rheol;

(c)darparu i’r deddfiad neu’r rheol beidio â chael effaith.

(2)At ddibenion adrannau 34 i 36 (ond nid adran 33)—

(a)pan ddaw [F1Deddf dros dro gan Senedd Cymru] i ben, mae hyn i’w drin fel pe bai’r Ddeddf wedi ei diddymu gan [F1Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig;

(b)pan ddaw is-offeryn Cymreig dros dro i ben, mae hyn i’w drin fel pe bai’r offeryn wedi ei ddirymu gan [F1Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 37 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I12A. 37 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2