xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Pan fo—
(a)Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig, neu
(b)darpariaeth mewn Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig,
yn dod i rym ar ddiwrnod y darperir ar ei gyfer mewn deddfiad, daw’r Ddeddf, yr offeryn neu’r ddarpariaeth i rym ar ddechrau’r diwrnod hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 29 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I2A. 29 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2
Pan na fo darpariaeth mewn deddfiad bod Deddf Cynulliad neu ddarpariaeth mewn Deddf Cynulliad yn dod i rym, daw’r Ddeddf neu’r ddarpariaeth i rym ar ddechrau’r diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 30 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I4A. 30 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2
Pan fo Deddf Cynulliad yn darparu i orchymyn neu reoliadau benodi—
(a)y diwrnod y daw’r Ddeddf i rym, neu
(b)y diwrnod y daw darpariaeth yn y Ddeddf i rym,
caiff y gorchymyn neu’r rheoliadau benodi diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 31 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I6A. 31 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2