xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CDEHONGLI A GWEITHREDU DEDDFWRIAETH CYMRU

Deddfwriaeth yn dod i rymLL+C

29Yr amser pan ddaw deddfwriaeth Cymru i rymLL+C

Pan fo—

(a)Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig, neu

(b)darpariaeth mewn Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig,

yn dod i rym ar ddiwrnod y darperir ar ei gyfer mewn deddfiad, daw’r Ddeddf, yr offeryn neu’r ddarpariaeth i rym ar ddechrau’r diwrnod hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 29 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

30Y diwrnod y daw Deddf Cynulliad i rymLL+C

Pan na fo darpariaeth mewn deddfiad bod Deddf Cynulliad neu ddarpariaeth mewn Deddf Cynulliad yn dod i rym, daw’r Ddeddf neu’r ddarpariaeth i rym ar ddechrau’r diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 30 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

31Gorchmynion a rheoliadau sy’n dwyn Deddfau’r Cynulliad i rymLL+C

Pan fo Deddf Cynulliad yn darparu i orchymyn neu reoliadau benodi—

(a)y diwrnod y daw’r Ddeddf i rym, neu

(b)y diwrnod y daw darpariaeth yn y Ddeddf i rym,

caiff y gorchymyn neu’r rheoliadau benodi diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 31 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)