Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/01/2020.
Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019, Croes Bennawd: Cyfeiriadau yn neddfwriaeth Cymru at ddeddfwriaeth a dogfennau eraill yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 04 Awst 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
(1)Pan fo Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig—
(a)yn disgrifio rhaniad o unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen neu’n cyfeirio at raniad o unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen, a
(b)yn gwneud hynny drwy gyfeirio at eiriau, adrannau neu rannau eraill y mae’r rhaniad yn ymestyn oddi wrthynt neu atynt (neu oddi wrthynt ac atynt),
mae’r rhaniad yn cynnwys y geiriau, yr adrannau neu’r rhannau eraill y cyfeirir atynt.
(2)Yn is-adran (1), mae “deddfiad” yn cynnwys deddfiad sy’n un o’r canlynol neu sydd wedi ei gynnwys mewn un o’r canlynol—
(a)Deddf gan Senedd yr Alban;
(b)deddfwriaeth Gogledd Iwerddon (o fewn yr ystyr a roddir i “Northern Ireland legislation” gan adran 24(5) o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30));
(c)offeryn a wneir o dan ddeddfwriaeth a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 21 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I2A. 21 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at Ddeddf Cynulliad (gan gynnwys Deddf Cynulliad nad yw’r Rhan hon yn gymwys iddi) neu Fesur Cynulliad.
(2)Mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at y copi ardystiedig o’r Ddeddf, neu’r Mesur fel y’i cymeradwywyd, a gyhoeddir—
(a)gan Argraffydd y Frenhines, neu
(b)o dan oruchwyliaeth neu awdurdod Llyfrfa Ei Mawrhydi.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 22 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I4A. 22 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig (pa un yn ôl ei henw byr ynteu yn ôl blwyddyn, statud, sesiwn neu bennod).
(2)Mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at y Ddeddf fel y’i deddfwyd a gyhoeddir—
(a) gan Argraffydd y Frenhines, neu
(b)o dan oruchwyliaeth neu awdurdod Llyfrfa Ei Mawrhydi.
(3)Ond—
(a)pan fo’r cyfeiriad yn gyfeiriad at Ddeddf sydd wedi ei chynnwys mewn argraffiad diwygiedig o’r statudau a argreffir drwy awdurdod, mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at yr argraffiad hwnnw;
(b)pan na fo paragraff (a) yn gymwys a phan fo’r cyfeiriad yn gyfeiriad at Ddeddf sydd wedi ei chynnwys yn yr argraffiad a luniwyd o dan gyfarwyddyd y Comisiwn Cofnodion, mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at yr argraffiad hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 23 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I6A. 23 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—
(a)Deddf Cynulliad yn cael y Cydsyniad Brenhinol, neu is-offeryn Cymreig yn cael ei wneud, ar neu ar ôl y diwrnod ymadael, a
(b)y Ddeddf neu’r offeryn yn cyfeirio at unrhyw reoliad gan yr UE, penderfyniad gan yr UE, deddfwriaeth drydyddol gan yr UE neu ddarpariaeth yng nghytundeb yr AEE sy’n ffurfio rhan o gyfraith ddomestig yn rhinwedd adran 3 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) (cynnwys deddfwriaeth uniongyrchol UE).
(2)Mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at reoliad gan yr UE, penderfyniad gan yr UE, deddfwriaeth drydyddol gan yr UE neu ddarpariaeth yng nghytundeb yr AEE fel y mae’n ffurfio rhan o gyfraith ddomestig (ac nid fel y mae’n ffurfio rhan o gyfraith yr UE).
(3)Yn yr adran hon, mae i’r ymadroddion Cymraeg a ganlyn yr un ystyron ag a roddir i’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn adran 20(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018—
“cyfraith ddomestig” (“domestic law”);
“deddfwriaeth drydyddol gan yr UE” (“EU tertiary legislation”);
“penderfyniad gan yr UE” (“EU decision”);
“rheoliad gan yr UE” (“EU regulation”).
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 24 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I8A. 24 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2
(1)Mae’r adran hon yn gymwys—
(a)pan fo Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at ddeddfiad (“A”), a
(b)pan fo A yn cael ei ddiwygio, ei estyn neu ei gymhwyso gan ddeddfiad (”B”) ar unrhyw adeg (pa un ai cyn, ar neu ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf Cynulliad y Cydsyniad Brenhinol neu y caiff yr is-offeryn Cymreig ei wneud).
(2)Mae’r cyfeiriad at A yn gyfeiriad at A fel y’i diwygiwyd, y’i hestynnwyd neu y’i cymhwyswyd gan B.
(3)Nid oes dim yn adrannau 22 i 24 yn cyfyngu ar weithrediad yr adran hon.
(4)Yn is-adran (1), mae “deddfiad” yn cynnwys deddfiad sy’n un o’r canlynol neu sydd wedi ei gynnwys mewn un o’r canlynol—
(a)Deddf gan Senedd yr Alban;
(b)deddfwriaeth Gogledd Iwerddon (o fewn yr ystyr a roddir i “Northern Ireland legislation” gan adran 24(5) o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30));
(c)offeryn a wneir o dan ddeddfwriaeth a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b).
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 25 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I10A. 25 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2
(1)Mae’r adran hon yn gymwys—
(a)pan fo Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at offeryn UE (“A”), a
(b)pan fo A wedi cael ei ddiwygio, ei estyn neu ei gymhwyso gan offeryn arall gan yr UE (“B”) cyn y diwrnod y caiff y Ddeddf Cynulliad y Cydsyniad Brenhinol neu y caiff yr is-offeryn Cymreig ei wneud.
(2)Mae’r cyfeiriad at A yn gyfeiriad at A fel y’i diwygiwyd, y’i hestynnwyd neu y’i cymhwyswyd gan B.
(3)Gweler hefyd reoliad 2 o Reoliadau Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (Addasiadau Canlyniadol a Diddymiadau a Dirymiadau) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/628) ar gyfer darpariaeth am effaith cyfeiriadau penodol sy’n bodoli cyn y diwrnod ymadael ar y diwrnod ymadael neu ar ôl y diwrnod ymadael.
Gwybodaeth Cychwyn
I11A. 26 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)
I12A. 26 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: